Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 1

1
1Geiriau Amos, yr hwn oedd ymysg y perchenogion defaid, o Decoa, a welodd am Israel, yn amser
Wssïa brenin Iwda, ac yn amser Ieroboam fab Ioas, brenin Israel, ddwy flynedd o flaen y ddaeargryn:
2Iafe o Seion a rua,
Ac o Ierwsalem a lefa,
Yna galara porfeydd y bugeiliaid,
A gwywa pen Carmel.
3Fel hyn y dywed Iafe,
“Am dri o droseddau Damascus, ac am bedwar,
Ni throf hyn yn ol,
Am ddyrnu ohonynt Gilead
 miniog offer heyrn;
4Ond gyrraf dân drwy dŷ Hasael,
Ac fe ŷs gestyll Benhadad;
5A drylliaf follt Damascus,
A thorraf ymaith breswylydd o Gwm-afen,
A llywiawdr o Feth-eden;
Ac â pobl Arâm yn gaethglud i Gir.”
Medd Iafe.
6Fel hyn y dywed Iafe,
“Am dri o droseddau Gasa, ac am bedwar,
Ni throf hyn yn ol,
Am gaethgludo ohonynt gaethglud gyfan
I’w thraddodi i Edom;
7Ond gyrraf dân drwy fur Gasa,
Ac fe ŷs ei chestyll;
8A thorraf ymaith breswylydd o Asdod,
A llywiawdr o Ascalon,
A dychwelaf fy llaw ar Ecron,
A difëir gweddill y Philistiaid.”
Medd fy Arglwydd Iafe.
9Fel hyn y dywed Iafe,
“Am dri o droseddau Tyrus, ac am bedwar,
Ni throf hyn yn ol,
Am draddodi ohonynt gaethglud gyfan i Edom,
Ac na chollasant gyfamod brodyr;
10Ond gyrraf dân drwy fur Tyrus,
Ac fe ŷs ei chestyll.”
11Fel hyn y dywed Iafe,
“Am dri o droseddau Edom, ac am bedwar,
Ni throf hyn yn ol,
Am ymlid ohono ei frawd â’r cleddyf,
A dinistrio’i dosturiaethau,
A rhwygo o’i lid yn wastadol,
A dal ohono ei ddig byth;
12Ond gyrraf dân drwy Deman,
Ac fe ŷs gestyll Bosra.”
13Fel hyn y dywed Iafe,
“Am dri o droseddau Meibion Ammon, ac am bedwar,
Ni throf hyn yn ol,
Am rwygo ohonynt feichiogion Gilead
I, helaethu eu goror;
14Ond gyrraf dân drwy fur Rabba,
Ac fe ŷs ei chestyll,
 chadfloedd ar ddydd rhyfel,
 thymestl ar ddydd corwynt;
15Ac fe â’u brenin yn gaeth,
Ef a’i dywysogion ynghyd.”
Medd Iafe.

Dewis Presennol:

Amos 1: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda