Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau'r Apostolion 9

9
1A Saul eto’n anadlu bygythion a lladdedigaeth yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, fe aeth at yr archoffeiriad, 2a cheisiodd ganddo lythyrau at y synagogau yn Namascus, fel os câi ef rywrai o deulu’r Ffordd, yn wŷr a gwragedd, y dygai hwynt yn gaeth i Gaersalem. 3Ac ar ei ffordd bu iddo agoshau at Ddamascus, ac yn ddisymwth fflachiodd o’i gwmpas oleuni o’r nef; 4syrthiodd yntau ar lawr, a chlywodd lais yn dywedyd wrtho, “Saul, Saul, paham y’m herlidi?” 5Dywedodd yntau, “Pwy wyt ti, Arglwydd?” Ebr yntau, “Iesu wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid; 6eithr cyfod a dos i mewn i’r ddinas, ac fe ddywedir i ti pa beth sy raid i ti ei wneuthur.” 7A safai’r gwŷr a gydymdeithiai ag ef yn fud, yn clywed y llais eithr heb weled neb. 8A chyfododd Saul oddiar lawr, ac a’i lygaid yn agored, ni welai ddim; a dygasant ef gerfydd ei law i mewn i Ddamascus. 9A bu dridiau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta nac yfed.
10Yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus a’i enw Ananias, ac fe ddywedodd yr Arglwydd wrtho mewn gweledigaeth, “Ananias.” Dywedodd yntau, “Dyma fi, Arglwydd.” 11Ac meddai’r Arglwydd wrtho, “Cyfod, dos i’r ystryd a elwir Union, a chais yn nhŷ Iwdas un o Darsus a’i enw Saul; canys y mae’n gweddïo, wel di, 12ac y mae wedi gweld mewn gweledigaeth ŵr a’i enw Ananias yn dyfod i mewn ac yn dodi ei ddwylo arno, fel y caffai ei olwg yn ôl.” 13Ac atebodd Ananias, “Arglwydd, clywais gan lawer am y gŵr yma, gymaint drwg a wnaeth i’th saint yng Nghaersalem; 14yma hefyd y mae ganddo awdurdod oddiwrth yr archoffeiriaid i rwymo pawb sy’n galw ar dy enw di.” 15A dywedodd yr Arglwydd wrtho, “Dos di, canys llestr dewis i mi yw hwn, i ddwyn fy enw ger bron y cenhedloedd a’r brenhinoedd, a cher bron meibion Israel; 16canys dangosaf fi iddo pa faint sy raid iddo’i ddioddef dros fy enw i.” 17Aeth Ananias ymaith ac aeth i mewn i’r tŷ, ac wedi dodi ei ddwylo arno fe ddywedodd, “Y brawd Saul, yr Arglwydd a’m hanfonodd, — Iesu, a ymddangosodd iti ar y ffordd y deuthost, — fel y ceffych dy olwg yn ôl a’th lanw â’r Ysbryd Glân.” 18Ac yn y fan syrthiodd megis cen oddi ar ei lygaid, a chafodd ei olwg yn ôl, a chyfododd ac fe’i bedyddiwyd, 19a chymerth luniaeth ac ymgryfhaodd. A bu gyda’r disgyblion yn Namascus rai dyddiau, 20ac yn y fan dechreuodd gyhoeddi’r Iesu yn y synagogau, mai dyma Fab Duw. 21A synnai pawb a’i clywai, a dywedyd, “Onid hwn yw’r un a ddifrododd yng Nghaersalem y rhai a alwai ar yr enw yma, ac onid i hyn y deuthai yma, i’w dwyn yn gaeth o flaen yr archoffeiriaid?” 22Ond Saul a ymgadarnhâi fwyfwy, ac a ddyrysai’r Iddewon oedd yn byw yn Namascus drwy brofi mai dyma’r Eneiniog. 23Ac ymhen talm o ddyddiau cydfwriadodd yr Iddewon ei ladd; 24ond daeth eu cynllwyn yn hysbys i Saul. Gwylient hyd yn oed y pyrth ddydd a nos er mwyn ei ladd ef; 25ond cymerth ei ddisgyblion ef liw nos, a’i ollwng i lawr drwy’r mur, gan ei ostwng mewn basged. 26Ac wedi cyrraedd Caersalem ceisiai ymwasgu â’r disgyblion; a phawb a’i hofnai ef, heb gredu ei fod yn ddisgybl. 27Eithr Barnabas a gymerth afael ynddo, a’i ddwyn at yr apostolion, ac adroddodd iddynt pa fodd y gwelsai’r Arglwydd ar y ffordd ac iddo lefaru wrtho, a pha fodd yn Namascus y traethodd yn hy yn enw Iesu. 28A bu gyda hwynt yn mynd i mewn ac allan yng Nghaersalem, gan draethu’n hy yn enw yr Arglwydd, 29ac fe lefarai ac ymddadleuai gyda’r Helenistiaid; hwythau, ceisient ei ladd ef. 30A phan wybu’r brodyr, dygasant ef i lawr i Gesarea, a’i anfon ymaith i Darsus.
31Cafodd yr eglwys, ynteu, drwy holl Iwdea a Galilea a Samaria heddwch i ymsefydlogi, a chan rodio yn ofn yr Arglwydd ac yn niddanwch yr Ysbryd Glân, lluosogai.
32A digwyddodd i Bedr, ac yntau’n mynd ar daith heibio i bawb, ddyfod i lawr at y saint oedd yn trigo yn Lyda. 33A chafodd yno ryw ddyn, a’i enw Aeneas, oedd yn gorwedd ers wyth mlynedd ar ei wely, yn barlysedig. 34A dywedodd Pedr wrtho, “Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iacháu di; cyfod, a thanna dy wely.” Ac yn y fan cyfododd. 35A gwelwyd ef gan bawb a drigai yn Lyda a Saron, a throesant at yr Arglwydd.
36Yr oedd yn Ioppa ryw ddisgybles, a’i henw Tabitha, yr hyn o’i esbonio yw’r gair Dorcas;#9:36 Cymr., gafrewig. yr oedd hon yn llawn o weithredoedd da ac o wneuthur elusenau. 37Ac yn y dyddiau hynny y clafychodd, a bu farw; ac wedi ei golchi rhoesant hi yn y llofft. 38A chan fod Lyda yn agos i Ioppa, wedi i’r disgyblion glywed bod Pedr yno, anfonasant ddau ŵr ato i ddeisyf arno, “Nac oeda ddyfod drwodd hyd atom.” 39A chyfododd Pedr ac aeth gyda hwynt; ac wedi iddo gyrraedd dygasant ef i fyny i’r llofft, a safodd yr holl wragedd gweddwon yn ei ymyl dan wylo a dangos yr holl grysau a’r gynau a wnaethai Dorcas, pan oedd yn eu plith. 40A bwriodd Pedr bawb allan a phenlinio a gweddïo, a chan droi at y corff fe ddywedodd, “Tabitha, cyfod.” Agorodd hithau ei llygaid, a phan welodd Bedr, cododd yn ei heistedd. 41Rhoddes yntau law iddi a’i chyfodi, ac wedi iddo alw y saint a’r gwragedd gweddwon fe’i cyflwynodd hi iddynt yn fyw. 42Ac aeth hyn yn hysbys drwy holl Ioppa, a chredodd llawer yn yr Arglwydd. 43Ac arhosodd dalm o ddyddiau yn Ioppa gyda rhyw Simon, barcer.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda