Aeth Ananias ymaith ac aeth i mewn i’r tŷ, ac wedi dodi ei ddwylo arno fe ddywedodd, “Y brawd Saul, yr Arglwydd a’m hanfonodd, — Iesu, a ymddangosodd iti ar y ffordd y deuthost, — fel y ceffych dy olwg yn ôl a’th lanw â’r Ysbryd Glân.” Ac yn y fan syrthiodd megis cen oddi ar ei lygaid, a chafodd ei olwg yn ôl, a chyfododd ac fe’i bedyddiwyd