Actau'r Apostolion 7
7
1A dywedodd yr archoffeiriad, “Ai felly y mae’r pethau hyn?” 2Eb yntau, “Frodyr a thadau, gwrandewch. Ymddangosodd Duw’r gogoniant #Salm 29:3. i’n tad Abraham, ac yntau ym Mesopotamia, cyn iddo ymgartrefu yn Charran, 3a dywedodd wrtho, ‘Ymadaw â’th wlad a’th gystlwn, a thyred i’r wlad a ddangoswyf iti.’#Gen. 12:1. 4Yna ymadawodd â gwlad y Chaldeaid ac ymgartrefodd yn Charran. Ac oddiyno wedi marw ei dad fe’i symudodd ef i’r wlad hon, y trigwch chwi ynddi yn awr; 5eto ni roddes iddo etifeddiaeth ynddi, naddo droedfedd;#Deut. 2:1. addo a wnaeth ei rhoddi’n feddiant iddo ac i’w had ar ei ôl ac yntau heb blentyn. 6A llefarodd Duw fel hyn: ‘Bydd ei had yn ddyfodiaid mewn gwlad ddieithr, a cheithiwant hwynt a’u drygu bedwar can mlynedd; 7eithr y genedl a wasanaethant hwy, myfi a’i barn,’#Gen. 15:13. medd Duw, ‘ac wedi hynny deuant allan, ac addolant fi yn y lle hwn.’#Ecs. 3:13. 8A rhoddes iddo gyfamod enwaediad,#Gen. 7:10. ac felly y ganed iddo Isaac ac yr enwaedodd arno yr wythfed dydd,#Gen. 21:4. ac i Isaac Iacob, ac i Iacob y deuddeg patriarch. 9A chenfigennodd y patrieirch wrth Ioseff a gwerthasant ef i’r Aifft;#Gen. 37:11, 28. eithr yr oedd Duw gydag ef,#Gen. 39:21. 10ac achubodd ef o’i holl gyfyngderau, a pheri iddo ffafr a doethineb ger bron Pharo, brenin yr Aifft,#Gen. 41:37, 40, 43, 55. a gosododd yntau ef yn lywodraethwr dros yr Aifft a’i holl dŷ.#Salm 105:21. 11A daeth newyn dros yr holl Aifft a Chanaan a chyfyngder mawr, ac ni allai ein tadau gael porthiant. 12Ond wedi i Iacob glywed bod ŷd yn yr Aifft#Gen. 42:1. anfonodd ein tadau ni allan y tro cyntaf; 13a’r ail dro fe’i datguddiodd Ioseff ei hun i’w frodyr,#Gen. 45:1. a daeth yn hysbys i Pharo genedl Ioseff. 14Ac anfonodd Ioseff i alw ato Iacob ei dad a’i holl gystlwn, hyd bymtheng enaid a thrigain,#Gen. 46:27. 15ac aeth Iacob i lawr i’r Aifft.#Ecs. 1:6. A bu farw ef a’n tadau, 16a dygwyd hwy drosodd i Sichem a’u gosod yn y bedd a brynasai Abraham am arian gan feibion Emmor yn Sichem.#Ios. 24:33. 17Ac fel yr agoshâi amser yr addewid a ganiatasai Duw i Abraham, 18cynyddodd y bobl a lluosogi yn yr Aifft, hyd oni chyfododd brenin gwahanol dros yr Aifft, na wyddai ddim am Ioseff. 19Hwnyma drwy ddichell yn erbyn ein cenedl ni a ddrygodd ein tadau, gan beri diymgeleddu eu babanod fel na byddent byw.#Ecs. 1:7–17. 20A’r pryd hyn y ganed Moesen, a thlws oedd ef gan Dduw; a magwyd ef dri mis yn nhŷ ei dad; 21ac wedi ei ddiymgeleddu cymerth merch Pharo ef, a’i ddwyn i fyny yn fab iddi ei hun. 22A hyfforddwyd Moesen yn holl ddoethineb yr Eifftwyr, a nerthol oedd yn ei eiriau a’i weithredoedd. 23Ac yn ystod ei ddeugeinfed flwyddyn, clywodd ar ei galon ymweled â’i frodyr, meibion Israel. 24Ac wrth ganfod un yn cael cam fe’i hamddiffynnodd, a dialodd gam yr hwn a drechid, drwy daro’r Eifftiwr. 25Tybiai y deallai ei frodyr fod Duw trwyddo ef yn estyn gwaredigaeth iddynt; hwythau, ni ddeallasant. 26Trannoeth eto yr ymddangosodd iddynt, a hwythau’n ymladd, a cheisiodd eu cymodi a chael heddwch, gan ddywedyd, ‘Wŷr, brodyr ydych! Paham y gwnewch gam â’ch gilydd?’ 27Ond yr hwn a wnâi gam â’i gymydog, fe’i cilgwthiodd gan ddywedyd, ‘Pwy a’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr drosom ni? 28Ai fy nifetha innau a fynni di, y modd y difethaist yr Eifftiwr ddoe?’ 29A ffodd Moesen ar y gair hwn, a daeth yn ddyfodiad yng ngwlad Madiam,#Ecs. 2:2–15. lle y ganed iddo ddau fab. 30Ac ymhen deugain mlynedd ymddangosodd iddo yn niffeithwch mynydd Sina angel mewn fflam dân o berth; 31a Moesen, pan ganfu, bu ryfedd ganddo’r weledigaeth; a phan ddynesodd i edrych, daeth llais yr Arglwydd, 32‘Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham ac Isaac ac Iacob,’ Ac aeth dychryn ar Foesen, ac ni feiddiai edrych. 33A dywedodd yr Arglwydd wrtho, ‘Datod dy esgidiau oddi am dy draed, canys y man y sefi, tir santaidd yw. 34Gwelais, do, gwelais ddrygu fy mhobl yn yr Aifft, a’u griddfan a glywais, a disgynnais i’w gwared hwynt; ac yn awr tyred, anfonaf di i’r Aifft.’#Ecs. 3:1–10. 35Y Moesen hwn, a wrthodasent, gan ddywedyd, ‘Pwy a’th osododd di yn lywodraethwr ac yn farnwr?’#Ecs. 2:14. hwn a anfonodd Duw yn llywodraethwr ac yn rhyddhawr trwy law’r angel a ymddangosodd iddo yn y berth. 36Hwn a’u dug hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn yr Aifft#Ecs. 7:3. ac yn y Môr Coch#Ecs. 15:4. ac yn y diffeithwch ddeugain mlynedd. #Num. 14:33. 37Hwn yw’r Moesen a ddywedodd wrth feibion Israel, ‘Proffwyd a gyfyd Duw i chwi o blith eich brodyr, yr un modd â minnau.’#Deut. 18:5. 38Hwn, yn y gynulleidfa yn y diffeithwch, a ddaeth rhwng yr angel a lefarai wrtho ar fynydd Sina a’n tadau ni, ac a dderbyniodd eiriau byw i’w rhoddi i chwi; 39ac ni fynnodd ein tadau ymddarostwng iddo, ond ei gilgwthio a throi o’u calonnau i’r Aifft, 40gan ddywedyd wrth Aaron, ‘Gwna i ni dduwiau i ymdaith o’n blaen; oblegid y Moesen yma, a’n dug ni allan o’r Aifft, ni wyddom ni beth ddaeth ohono.’ 41A gwnaethant lo yn y dyddiau hynny ac offrwm aberth#Ecs. 32:1–8. i’r ddelw, a chaent hwyl ar gynnyrch eu dwylo. 42A throes Duw, a’u gadael i addoli llu’r ffurfafen,#Ier. 8:2. fel y mae’n ysgrifenedig yn Llyfr y Proffwydi:
A offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau
y deugain mlynedd yn y diffeithwch, chwi dŷ Israel?
43 Na, cymerasoch babell Moloch
a seren y duw Rhomffa,
y llunau a wnaethoch i’w haddoli.
Ac alltudiaf innau chwi y tu hwnt #
Amos 5:25–27. i Fabilon.
44Gyda’n tadau yn y diffeithwch yr oedd y babell dystiolaeth, fel y gorchmynasai yr hwn a lefarai wrth Foesen ei gwneuthur yn ôl y patrwm a welsai;#Ecs. 25:1, 40. hon, 45ein tadau ar eu tro a’i dug i mewn gydag Iesu#7:45 Sef, Iosua yn ystod goresgyn#Deut. 4:38. y cenhedloedd a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, — felly hyd ddyddiau Dafydd. 46Cafodd ef ffafr ger bron Duw, a cheisiodd gael llunio trigfan i Dduw Iacob.#Salm 132:5. 47Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo.#1 Bren. 6:1. 48Eto ni thrig y Goruchaf yng ngwaith llaw; megis y dywed y proffwyd,
49 Y nef sydd orsedd imi,
a’r ddaear sydd droedfainc i’m traed;
Pa dŷ a adeiledwch i mi, medd yr Arglwydd,
neu pa fan fydd fy ngorffwysfa.
50 Onid fy llaw i a wnaeth y pethau hyn oll? #
Esa. 66:1–2.
51Chwi rai gwargaled#Ecs. 33:3. a dienwaededig o galon#Ier. 9:26. a chlust,#Ier. 6:10. yr ydych chwi yn wastad yn gwrthdaro yn erbyn yr Ysbryd Glân; fel eich tadau, felly chwithau. 52Pa un o’r proffwydi nas erlidiodd eich tadau? Ie, a lladd y rhai a ragfynegodd am ddyfod y Cyfiawn; a chwithau’n awr, bradychwyr a llofruddion fuoch iddo, 53chwi a dderbyniodd y ddeddf yn gyfarwyddyd angylion, ac nis cadwasoch.”
54Wrth glywed y pethau hyn ffyrnigent yn eu calonnau, ac ysgyrnygent eu dannedd arno. 55Yntau, ac ynddo’r Ysbryd Glân ei lond, syllodd tua’r nef a gwelodd ogoniant Duw, ac Iesu’n sefyll ar ddeheulaw Duw, 56a dywedodd, “Dyma fi’n cael golwg ar y nefoedd yn agored a Mab y dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw.” 57Gwaeddasant hwythau â llef uchel, a chau eu clustiau, a rhuthio’n unfryd arno; 58ac wedi ei fwrw allan o’r ddinas dechreuasant ei labyddio. A dododd y tystion eu dillad wrth draed gŵr ifanc o’r enw Saul. 59A llabyddient Steffan, ag yntau’n galw ac yn dywedyd, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd.” 60A chan benlinio gwaeddodd â llef uchel, “Arglwydd, na osod yn eu herbyn y pechod hwn.”
Ac wedi dywedyd hyn, fe hunodd.
Dewis Presennol:
Actau'r Apostolion 7: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945