Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau'r Apostolion 6

6
1Ac yn y dyddiau hynny, a’r disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan yr Helenistiaid yn erbyn yr Hebreaid am esgeuluso eu gweddwon hwynt yn y ddarpariaeth feunyddiol. 2A galwodd y deuddeg y lliaws disgyblion atynt, a dywedyd, “Nid da ein bod ni’n gadael gair Duw a gweini wrth fyrddau; 3edrychwch, frodyr, am saith o wŷr o’ch plith ag iddynt air da, yn llawn ysbryd a doethineb, i ni i’w gosod ar hyn o orchwyl; 4a ninnau, parhau a wnawn yn ddyfal mewn gweddi ac yng ngwasanaeth y gair.” 5A bu dda gan yr holl liaws y gair, ac etholasant Steffan, gŵr llawn o ffydd a’r Ysbryd Glân, a Phylip a Phrochorus a Nicanor a Thimon a Pharmenas a Nicolaus, proselyt o Antiochia; 6y rhain a osodasant ger bron yr apostolion, ac wedi gweddïo rhoesant eu dwylo arnynt.
7A chynyddai gair Duw, ac amlhâi nifer y disgyblion yng Nghaersalem yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ymostyngai i’r ffydd.
8A Steffan, yn llawn gras a nerth, a wnâi ryfeddodau ac arwyddion mawr ymhlith y bobl.
9A chyfododd rhai o wŷr Synagog y Libertiniaid a’r Cyreniaid a’r Alecsandriaid (fel y gelwid hi), ac o wŷr Cilicia ac Asia, gan ymddadlau â Steffan; 10ac ni allent wrthsefyll y doethineb a’r ysbryd y llefarai drwyddo. 11Yna annos gwŷr a wnaethant i ddywedyd, “Clywsom ef yn llefaru pethau cableddus am Foesen a Duw.” 12A chynhyrfu’r bobl a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion a wnaethant, a dyfod arno a’i gipio a’i ddwyn i’r Sanhedrin; 13gosodasant gau dystion hefyd i ddywedyd, “Ni phaid y dyn yma â llefaru pethau yn erbyn y Lle santaidd hwn a’r Gyfraith; 14canys clywsom ef yn dywedyd y dymchwelai Iesu’r Nasaread yma y Lle hwn ac y newidiai’r defodau a draddododd Moesen i ni.” 15A syllodd pawb oedd yn eistedd yn y Sanhedrin arno, a gwelsant ei wyneb ef fel petai wyneb angel.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda