Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 52

52
SALM 52
I’r Pencerdd, Maschil, Salm Dafydd, pan ddaeth Doeg yr Edomiad a mynegi i Saul, a dywedyd wrtho, Daeth Dafydd i dŷ Ahimelech.
1Paham yr ymffrosti mewn drygioni, O gadarn? y mae trugaredd Duw yn parhau yn wastadol.
2Dy dafod a ddychymyg ysgelerder; fel ellyn llym, yn gwneuthur twyll.
3Hoffaist ddrygioni yn fwy na daioni; a chelwydd yn fwy na thraethu cyfiawnder. Sela.
4Hoffaist bob geiriau distryw, O dafod twyllodrus.
5 Duw a’th ddistrywia dithau yn dragywydd: efe a’th gipia di ymaith, ac a’th dynn allan o’th babell, ac a’th ddiwreiddia o dir y rhai byw. Sela.
6Y cyfiawn hefyd a welant, ac a ofnant, ac a chwarddant am ei ben.
7Wele y gŵr ni osododd Dduw yn gadernid iddo; eithr ymddiriedodd yn lluosowgrwydd ei olud, ac a ymnerthodd yn ei ddrygioni.
8Ond myfi sydd fel olewydden werdd yn nhŷ Dduw: ymddiriedaf yn nhrugaredd Duw byth ac yn dragywydd.
9Clodforaf di yn dragywydd, oherwydd i ti wneuthur hyn: a disgwyliaf wrth dy enw; canys da yw gerbron dy saint.

Dewis Presennol:

Y Salmau 52: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda