Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 51

51
SALM 51
I’r Pencerdd, Salm Dafydd, pan ddaeth Nathan y proffwyd ato, wedi iddo fyned i mewn at Bathseba.
1Trugarha wrthyf, O Dduw, yn ôl dy drugarowgrwydd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau, dilea fy anwireddau.
2Golch fi yn llwyr ddwys oddi wrth fy anwiredd, a glanha fi oddi wrth fy mhechod.
3Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau: a’m pechod sydd yn wastad ger fy mron.
4Yn dy erbyn di, dydi dy hunan, y pechais, ac y gwneuthum y drwg hwn yn dy olwg: fel y’th gyfiawnhaer pan leferych, ac y byddit bur pan farnech.
5Wele, mewn anwiredd y’m lluniwyd; ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.
6Wele, ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi wybod doethineb yn y dirgel.
7Glanha fi ag isop, a mi a lanheir: golch fi, a byddaf wynnach na’r eira.
8Pâr i mi glywed gorfoledd a llawenydd; fel y llawenycho yr esgyrn a ddrylliaist.
9Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl anwireddau.
10Crea galon lân ynof, O Dduw; ac adnewydda ysbryd uniawn o’m mewn.
11Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf.
12Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth; ac â’th hael ysbryd cynnal fi.
13Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir; a phechaduriaid a droir atat.
14Gwared fi oddi wrth waed, O Dduw, Duw fy iachawdwriaeth: a’m tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.
15 Arglwydd, agor fy ngwefusau, a’m genau a fynega dy foliant.
16Canys ni chwenychi aberth; pe amgen, mi a’i rhoddwn: poethoffrwm ni fynni.
17Aberthau Duw ydynt ysbryd drylliedig: calon ddrylliog gystuddiedig, O Dduw, ni ddirmygi.
18Gwna ddaioni yn dy ewyllysgarwch i Seion: adeilada furiau Jerwsalem.
19Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder, i boethoffrwm ac aberth llosg: yna yr offrymant fustych ar dy allor.

Dewis Presennol:

Y Salmau 51: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda