Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 21

21
SALM 21
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1 Arglwydd, yn dy nerth y llawenycha y Brenin; ac yn dy iachawdwriaeth di mor ddirfawr yr ymhyfryda!
2Deisyfiad ei galon a roddaist iddo; a dymuniad ei wefusau nis gomeddaist. Sela.
3Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.
4Gofynnodd oes gennyt, a rhoddaist iddo: ie, hir oes, byth ac yn dragywydd.
5Mawr yw ei ogoniant yn dy iachawdwriaeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch.
6Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragwyddol; llawenychaist ef â llawenydd â’th wynepryd.
7Oherwydd bod y Brenin yn ymddiried yn yr Arglwydd, a thrwy drugaredd y Goruchaf nid ysgogir ef.
8Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gaseion.
9Ti a’u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr Arglwydd yn ei ddicllonedd a’u llwnc hwynt, a’r tân a’u hysa hwynt.
10Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaear, a’u had o blith meibion dynion.
11Canys bwriadasant ddrwg i’th erbyn: meddyliasant amcan, heb allu ohonynt ei gwblhau.
12Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau: ar dy linynnau y paratöi di saethau yn erbyn eu hwynebau.
13Ymddyrcha, Arglwydd, yn dy nerth; canwn, a chanmolwn dy gadernid.

Dewis Presennol:

Y Salmau 21: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda