Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 20

20
SALM 20
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: enw Duw Jacob a’th ddiffynno.
2Anfoned i ti gymorth o’r cysegr, a nerthed di o Seion.
3Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela.
4Rhodded i ti wrth fodd dy galon; a chyflawned dy holl gyngor.
5Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau.
6Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef.
7Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw.
8Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant; ond nyni a gyfodasom, ac a safasom.
9Achub, Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.

Dewis Presennol:

Y Salmau 20: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda