Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 145

145
SALM 145
Salm Dafydd o foliant.
1Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd.
2Beunydd y’th fendithiaf; a’th enw a folaf byth ac yn dragywydd.
3Mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn; a’i fawredd sydd anchwiliadwy.
4Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid.
5Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd, a’th bethau rhyfedd, a draethaf.
6Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf finnau dy fawredd.
7Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant; a’th gyfiawnder a ddatganant.
8Graslon a thrugarog yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd.
9Daionus yw yr Arglwydd i bawb: a’i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd.
10Dy holl weithredoedd a’th glodforant, O Arglwydd; a’th saint a’th fendithiant.
11Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth; a thraethant dy gadernid:
12I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef, a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth.
13Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol: a’th lywodraeth a bery yn oes oesoedd.
14Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd.
15Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd;
16Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â’th ewyllys da.
17Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.
18Agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd.
19Efe a wna ewyllys y rhai a’i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain, ac a’u hachub hwynt.
20Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a’i carant ef; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe.
21Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.

Dewis Presennol:

Y Salmau 145: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd