Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 144

144
SALM 144
Salm Dafydd.
1Bendigedig fyddo yr Arglwydd fy nerth, yr hwn sydd yn dysgu fy nwylo i ymladd, a’m bysedd i ryfela.
2Fy nhrugaredd, a’m hamddiffynfa; fy nhŵr, a’m gwaredydd: fy nharian yw efe, ac ynddo y gobeithiais; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl danaf.
3 Arglwydd, beth yw dyn, pan gydnabyddit ef? neu fab dyn, pan wneit gyfrif ohono?
4Dyn sydd debyg i wagedd; ei ddyddiau sydd fel cysgod yn myned heibio.
5 Arglwydd, gostwng dy nefoedd, a disgyn: cyffwrdd â’r mynyddoedd, a mygant.
6Saetha fellt, a gwasgar hwynt; ergydia dy saethau, a difa hwynt.
7Anfon dy law oddi uchod; achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron;
8Y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster.
9Canaf i ti, O Dduw, ganiad newydd: ar y nabl a’r dectant y canaf i ti.
10Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth i frenhinoedd; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y cleddyf niweidiol.
11Achub fi, a gwared fi o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster:
12Fel y byddo ein meibion fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid; a’n merched fel conglfaen nadd, wrth gyffelybrwydd palas:
13Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth; a’n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd:
14A’n hychen yn gryfion i lafurio; heb na rhuthro i mewn, na myned allan; na gwaedd yn ein heolydd.
15Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt: gwyn eu byd y bobl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddynt.

Dewis Presennol:

Y Salmau 144: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda