Y Salmau 143
143
SALM 143
Salm Dafydd.
1Arglwydd, clyw fy ngweddi, a gwrando ar fy neisyfiadau: erglyw fi yn dy wirionedd, ac yn dy gyfiawnder.
2Ac na ddos i farn â’th was: oherwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di.
3Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid: curodd fy enaid i lawr: gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch, fel y rhai a fu feirw er ys talm.
4Yna y pallodd fy ysbryd o’m mewn: ac y synnodd fy nghalon ynof.
5Cofiais y dyddiau gynt; myfyriais ar dy holl waith: ac yng ngweithredoedd dy ddwylo y myfyriaf.
6Lledais fy nwylo atat: fy enaid fel tir sychedig sydd yn hiraethu amdanat. Sela.
7O Arglwydd, gwrando fi yn ebrwydd: pallodd fy ysbryd: na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; rhag fy mod yn gyffelyb i’r rhai a ddisgynnant i’r pwll.
8Pâr i mi glywed dy drugarowgrwydd y bore; oherwydd ynot ti y gobeithiaf: pâr i mi wybod y ffordd y rhodiwyf; oblegid atat ti y dyrchafaf fy enaid.
9Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, O Arglwydd: gyda thi yr ymguddiais.
10Dysg i mi wneuthur dy ewyllys di; canys ti yw fy Nuw: tywysed dy ysbryd daionus fi i dir uniondeb.
11Bywha fi, O Arglwydd, er mwyn dy enw: dwg fy enaid allan o ing, er mwyn dy gyfiawnder.
12Ac er dy drugaredd dinistria fy ngelynion, a difetha holl gystuddwyr fy enaid: oblegid dy was di ydwyf fi.
Dewis Presennol:
Y Salmau 143: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.