Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 33

33
1Dyma deithiau meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft, yn eu lluoedd, dan law Moses ac Aaron. 2A Moses a ysgrifennodd eu mynediad hwynt allan yn ôl eu teithiau, wrth orchymyn yr Arglwydd: a dyma eu teithiau hwynt yn eu mynediad allan. 3A hwy a gychwynasant o Rameses yn y mis cyntaf, ar y pymthegfed dydd o’r mis cyntaf: trannoeth wedi’r Pasg yr aeth meibion Israel allan â llaw uchel yng ngolwg yr Eifftiaid oll. 4(A’r Eifftiaid oedd yn claddu pob cyntaf-anedig, y rhai a laddasai yr Arglwydd yn eu mysg; a gwnaethai yr Arglwydd farn yn erbyn eu duwiau hwynt hefyd.) 5A meibion Israel a gychwynasant o Rameses, ac a wersyllasant yn Succoth. 6A chychwynasant o Succoth, a gwersyllasant yn Etham, yr hon sydd yng nghwr yr anialwch. 7A chychwynasant o Etham, a throesant drachefn i Pi-hahiroth, yr hon sydd o flaen Baal-seffon; ac a wersyllasant o flaen Migdol. 8A chychwynasant o Pi-hahiroth, ac a aethant trwy ganol y môr i’r anialwch; a cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersyllasant ym Mara. 9A chychwynasant o Mara, a daethant i Elim; ac yn Elim yr ydoedd deuddeg o ffynhonnau dwfr, a deg a thrigain o balmwydd; a gwersyllasant yno. 10A chychwynasant o Elim, a gwersyllasant wrth y môr coch. 11A chychwynasant oddi wrth y môr coch, a gwersyllasant yn anialwch Sin. 12Ac o anialwch Sin y cychwynasant, ac y gwersyllasant yn Doffca. 13A chychwynasant o Doffca, a gwersyllasant yn Alus. 14A chychwynasant o Alus, a gwersyllasant yn Reffidim, lle nid oedd dwfr i’r bobl i’w yfed. 15A chychwynasant o Reffidim, a gwersyllasant yn anialwch Sinai. 16A chychwynasant o anialwch Sinai, a gwersyllasant yn Cibroth-hattaafa. 17A chychwynasant o Cibroth-hattaafa, a gwersyllasant yn Haseroth. 18A chychwynasant o Haseroth, a gwersyllasant yn Rithma. 19A chychwynasant o Rithma, a gwersyllasant yn Rimmon-pares. 20A chychwynasant o Rimmon-pares, a gwersyllasant yn Libna. 21A chychwynasant o Libna, a gwersyllasant yn Rissa. 22A chychwynasant o Rissa, a gwersyllasant yn Cehelatha. 23A chychwynasant o Cehelatha, a gwersyllasant ym mynydd Saffer. 24A chychwynasant o fynydd Saffer, a gwersyllasant yn Harada. 25A chychwynasant o Harada, a gwersyllasant ym Maceloth. 26A chychwynasant o Maceloth a gwersyllasant yn Tahath. 27A chychwynasant o Tahath, a gwersyllasant yn Tara. 28A chychwynasant o Tara, a gwersyllasant ym Mithca. 29A chychwynasant o Mithca, a gwersyllasant yn Hasmona. 30A chychwynasant o Hasmona, a gwersyllasant ym Moseroth. 31A chychwynasant o Moseroth, a gwersyllasant yn Bene-jaacan. 32A chychwynasant o Bene-jaacan, a gwersyllasant yn Hor-hagidgad. 33A chychwynasant o Hor-hagidgad, a gwersyllasant yn Jotbatha. 34A chychwynasant o Jotbatha, a gwersyllasant yn Ebrona. 35A chychwynasant o Ebrona, a gwersyllasant yn Esion-gaber. 36A chychwynasant o Esion-gaber, a gwersyllasant yn anialwch Sin; hwnnw yw Cades. 37A chychwynasant o Cades, a gwersyllasant ym mynydd Hor, yng nghwr tir Edom. 38Ac Aaron yr offeiriad a aeth i fyny i fynydd Hor, wrth orchymyn yr Arglwydd; ac a fu farw yno, yn y ddeugeinfed flwyddyn wedi dyfod meibion Israel allan o dir yr Aifft, yn y pumed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis. 39Ac Aaron oedd fab tair blwydd ar hugain a chant pan fu farw ym mynydd Hor. 40A’r brenin Arad, y Canaanead, yr hwn oedd yn trigo yn y deau yn nhir Canaan, a glybu am ddyfodiad meibion Israel. 41A chychwynasant o fynydd Hor, a gwersyllasant yn Salmona. 42A chychwynasant o Salmona, a gwersyllasant yn Punon, 43A chychwynasant o Punon, a gwersyllasant yn Oboth. 44A chychwynasant o Oboth, a gwersyllasant yn Ije-abarim, ar derfyn Moab. 45A chychwynasant o Ije-abarim, a gwersyllasant yn dibon-gad. 46A chychwynasant o Dibon-gad, a gwersyllasant yn Almon-diblathaim. 47A chychwynasant o Almon-diblathaim, a gwersyllasant ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo. 48A chychwynasant o fynyddoedd Abarim, a gwersyllasant yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho. 49A gwersyllasant wrth yr Iorddonen, o Beth-jesimoth hyd wastadedd Sittim, yn rhosydd Moab.
50A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd, 51Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gan eich bod chwi yn myned dros yr Iorddonen, i dir Canaan; 52Gyrrwch ymaith holl drigolion y tir o’ch blaen, a dinistriwch eu holl luniau hwynt; dinistriwch hefyd eu holl ddelwau tawdd, a difwynwch hefyd eu holl uchelfeydd hwynt. 53A goresgynnwch y tir, a thrigwch ynddo: canys rhoddais y tir i chwi i’w berchenogi. 54Rhennwch hefyd y tir yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd wrth goelbren; i’r aml chwanegwch ei etifeddiaeth, ac i’r anaml prinhewch ei etifeddiaeth: bydded eiddo pob un y man lle yr êl y coelbren allan iddo; yn ôl llwythau eich tadau yr etifeddwch. 55Ac oni yrrwch ymaith breswylwyr y tir o’ch blaen; yna y bydd y rhai a weddillwch ohonynt yn gethri yn eich llygaid, ac yn ddrain yn eich ystlysau, a blinant chwi yn y tir y trigwch ynddo. 56A bydd, megis yr amcenais wneuthur iddynt hwy, y gwnaf i chwi.

Dewis Presennol:

Numeri 33: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda