Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 19

19
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Llefara wrth holl gynulleidfa meibion Israel, a dywed wrthynt, Byddwch sanctaidd: canys sanctaidd ydwyf fi, yr Arglwydd eich Duw chwi.
3Ofnwch bob un ei fam, a’i dad; a chedwch fy Sabothau: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi. 4Na throwch at eilunod, ac na wnewch i chwi dduwiau tawdd: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
5A phan aberthoch hedd-aberth i’r Arglwydd, yn ôl eich ewyllys eich hun yr aberthwch hynny. 6Ar y dydd yr offrymoch, a thrannoeth, y bwyteir ef: a llosger yn tân yr hyn a weddillir hyd y trydydd dydd. 7Ond os gan fwyta y bwyteir ef o fewn y trydydd dydd, ffiaidd fydd efe; ni bydd gymeradwy. 8A’r hwn a’i bwytao a ddwg ei anwiredd, am iddo halogi cysegredig beth yr Arglwydd; a’r enaid hwnnw a dorrir ymaith o blith ei bobl.
9A phan gynaeafoch gynhaeaf eich tir, na feda yn llwyr gonglau dy faes, ac na chynnull loffion dy gynhaeaf. 10Na loffa hefyd dy winllan, ac na chynnull rawn gweddill dy winllan; gad hwynt i’r tlawd ac i’r dieithr: yr Arglwydd eich Duw chwi ydwyf fi.
11Na ladratewch, ac na ddywedwch gelwydd, ac na thwyllwch bob un ei gymydog.
12Ac na thyngwch i’m henw i yn anudon, ac na haloga enw dy Dduw; yr Arglwydd ydwyf fi.
13Na chamatal oddi wrth dy gymydog, ac nac ysbeilia ef: na thriged cyflog y gweithiwr gyda thi hyd y bore.
14Na felltiga’r byddar, ac na ddod dramgwydd o flaen y dall; ond ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.
15Na wnewch gam mewn barn; na dderbyn wyneb y tlawd, ac na pharcha wyneb y cadarn: barna dy gymydog mewn cyfiawnder.
16Ac na rodia yn athrodwr ymysg dy bobl; na saf yn erbyn gwaed dy gymydog: yr Arglwydd ydwyf fi.
17Na chasâ dy frawd yn dy galon: gan geryddu cerydda dy gymydog, ac na ddioddef bechod ynddo.
18Na ddiala, ac na chadw lid i feibion dy bobl; ond câr dy gymydog megis ti dy hun: yr Arglwydd ydwyf fi.
19Cedwch fy neddfau: na ad i’th anifeiliaid gydio o amryw rywogaeth, ac na heua dy faes ag amryw had; ac nac aed amdanat ddilledyn cymysg o lin a gwlân.
20A phan fyddo i ŵr a wnelo â benyw, a hithau yn forwyn gaeth wedi ei dyweddïo i ŵr, ac heb ei rhyddhau ddim, neu heb roddi rhyddid iddi; bydded iddynt gurfa; ac na ladder hwynt, am nad oedd hi rydd. 21A dyged efe yn aberth dros ei gamwedd i’r Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, hwrdd dros gamwedd. 22A gwnaed yr offeiriad gymod drosto â’r hwrdd dros gamwedd, gerbron yr Arglwydd, am ei bechod a bechodd efe: a maddeuir iddo am ei bechod a wnaeth efe.
23A phan ddeloch i’r tir, a phlannu ohonoch bob pren ymborth; cyfrifwch yn ddienwaededig ei ffrwyth ef; tair blynedd y bydd efe megis dienwaededig i chwi: na fwytaer ohono. 24A’r bedwaredd flwyddyn y bydd ei holl ffrwyth yn sanctaidd i foliannu yr Arglwydd ag ef. 25A’r bumed flwyddyn y bwytewch ei ffrwyth, fel y chwanego efe ei gnwd i chwi: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
26Na fwytewch ddim ynghyd â’i waed: nac arferwch na swynion, na choel ar frudiau. 27Na thalgrynnwch odre eich pen, ac na thor gyrrau dy farf. 28Ac na wnewch doriadau yn eich cnawd am un marw, ac na roddwch brint nod arnoch: yr Arglwydd ydwyf fi.
29Na haloga dy ferch, gan beri iddi buteinio: rhag puteinio’r tir, a llenwi’r wlad o ysgelerder.
30Cedwch fy Sabothau, a pherchwch fy nghysegr: yr Arglwydd ydwyf fi.
31Nac ewch ar ôl dewiniaid, ac nac ymofynnwch â’r brudwyr, i ymhalogi o’u plegid: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
32Cyfod gerbron penwynni, a pharcha wyneb henuriad; ac ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.
33A phan ymdeithio dieithrddyn ynghyd â thi yn eich gwlad, na flinwch ef. 34Bydded y dieithr i chwi, yr hwn a ymdeithio yn eich plith, fel yr un a hanffo ohonoch, a châr ef fel ti dy hun; oherwydd dieithriaid fuoch yng ngwlad yr Aifft: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
35Na wnewch gam ar farn, ar lathen, ar bwys, nac ar fesur. 36Bydded i chwi gloriannau cyfiawn, gerrig cyfiawn, effa gyfiawn, a hin gyfiawn: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi, yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aifft. 37Cedwch chwithau fy holl ddeddfau, a’m holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt: yr Arglwydd ydwyf fi.

Dewis Presennol:

Lefiticus 19: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda