Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 18

18
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw. 3Na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad yr Aifft, yr hon y trigasoch ynddi; ac na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad Canaan, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddi; ac na rodiwch yn eu deddfau hwynt. 4Fy marnedigaethau i a wnewch, a’m deddfau a gedwch, i rodio ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw. 5Ie, cedwch fy neddfau a’m barnedigaethau: a’r dyn a’u cadwo, a fydd byw ynddynt: myfi yw yr Arglwydd.
6Na nesaed neb at gyfnesaf ei gnawd, i ddinoethi eu noethni: myfi yw yr Arglwydd. 7Noethni dy dad, neu noethni dy fam, na ddinoetha: dy fam yw hi, na ddinoetha ei noethni. 8Na ddinoetha noethni gwraig dy dad: noethni dy dad yw. 9Noethni dy chwaer, merch dy dad, neu ferch dy fam, yr hon a anwyd gartref, neu a anwyd allan; na ddinoetha eu noethni hwynt. 10Noethni merch dy fab, neu ferch dy ferch; na ddinoetha eu noethni hwynt: canys dy noethni di ydyw. 11Noethni merch gwraig dy dad, plentyn dy dad, dy chwaer dithau yw hi; na ddinoetha ei noethni hi. 12Na ddinoetha noethni chwaer dy dad: cyfnesaf dy dad yw hi. 13Na ddinoetha noethni chwaer dy fam: canys cyfnesaf dy fam yw hi. 14Na noetha noethni brawd dy dad; sef na nesâ at ei wraig ef: dy fodryb yw hi. 15Na noetha noethni dy waudd: gwraig dy fab yw hi; na noetha ei noethni hi. 16Na ddinoetha noethni gwraig dy frawd: noethni dy frawd yw. 17Na noetha noethni gwraig a’i merch; na chymer ferch ei mab hi, neu ferch ei merch hi, i noethi ei noethni hi: ei chyfnesaf hi yw y rhai hyn: ysgelerder yw hyn. 18Hefyd na chymer wraig ynghyd â’i chwaer, i’w chystuddio hi, gan noethi noethni honno gyda’r llall, yn ei byw hi. 19Ac na nesâ at wraig yn neilltuaeth ei haflendid, i noethi ei noethni hi. 20Ac na chydorwedd gyda gwraig dy gymydog, i fod yn aflan o’i phlegid. 21Ac na ddod o’th had i fyned trwy dân i Moloch: ac na haloga enw dy Dduw: myfi yw yr Arglwydd. 22Ac na orwedd gyda gwryw, fel gorwedd gyda benyw: ffieidd-dra yw hynny. 23Ac na chydorwedd gydag un anifail, i fod yn aflan gydag ef; ac na safed gwraig o flaen un anifail i orwedd dano: cymysgedd yw hynny. 24Nac ymhalogwch yn yr un o’r pethau hyn: canys yn y rhai hyn oll yr halogwyd y cenhedloedd yr ydwyf yn eu gyrru allan o’ch blaen chwi: 25A’r wlad a halogwyd: am hynny yr ydwyf yn ymweled â’i hanwiredd yn ei herbyn, fel y chwydo’r wlad ei thrigolion. 26Ond cedwch chwi fy neddfau a’m barnedigaethau i, ac na wnewch ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn; na’r priodor, na’r dieithrddyn sydd yn ymdaith yn eich mysg: 27(Oherwydd yr holl ffiaidd bethau hyn a wnaeth gwŷr y wlad, y rhai a fu o’ch blaen, a’r wlad a halogwyd;) 28Fel na chwydo’r wlad chwithau, pan halogoch hi, megis y chwydodd hi y genedl oedd o’ch blaen. 29Canys pwy bynnag a wnêl ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn; torrir ymaith yr eneidiau a’u gwnelo o blith eu pobl. 30Am hynny cedwch fy neddf i, heb wneuthur yr un o’r deddfau ffiaidd a wnaed o’ch blaen chwi, ac nac ymhalogwch ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

Dewis Presennol:

Lefiticus 18: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda