Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 17

17
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Dyma y peth a orchmynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, 3Pob un o dŷ Israel a laddo ych, neu oen, neu afr, o fewn y gwersyll, neu a laddo allan o’r gwersyll, 4Ac heb ei ddwyn i ddrws pabell y cyfarfod, i offrymu offrwm i’r Arglwydd, o flaen tabernacl yr Arglwydd; gwaed a fwrir yn erbyn y gŵr hwnnw; gwaed a dywalltodd efe: a thorrir y gŵr hwnnw ymaith o blith ei bobl. 5Oherwydd yr hwn beth, dyged meibion Israel eu haberthau y rhai y maent yn eu haberthu ar wyneb y maes; ie, dygant hwynt i’r Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, at yr offeiriad, ac aberthant hwynt yn aberthau hedd i’r Arglwydd. 6A thaenelled yr offeiriad y gwaed ar allor yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, a llosged y gwêr yn arogl peraidd i’r Arglwydd. 7Ac nac aberthant eu haberthau mwy i gythreuliaid, y rhai y buant yn puteinio ar eu hôl. Deddf dragwyddol fydd hyn iddynt, trwy eu cenedlaethau.
8Dywed gan hynny wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, ac o’r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a offrymo boethoffrwm, neu aberth, 9Ac nis dwg ef i ddrws pabell y cyfarfod, i’w offrymu i’r Arglwydd; torrir ymaith y gŵr hwnnw o blith ei bobl.
10A phwy bynnag o dŷ Israel, ac o’r dieithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a fwytao ddim gwaed; myfi a osodaf fy wyneb yn erbyn yr enaid a fwytao waed, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl. 11Oherwydd einioes y cnawd sydd yn y gwaed; a mi a’i rhoddais i chwi ar yr allor, i wneuthur cymod dros eich eneidiau; oherwydd y gwaed hwn a wna gymod dros yr enaid. 12Am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwytaed un enaid ohonoch waed; a’r dieithr a ymdeithio yn eich mysg, na fwytaed waed. 13A phwy bynnag o feibion Israel, neu o’r dieithriaid a ymdeithio yn eu mysg, a helio helfa o fwystfil, neu o aderyn a fwytaer; tywallted ymaith ei waed ef, a chuddied ef â llwch. 14Oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed; yn lle ei einioes ef y mae: am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwytewch waed un cnawd; oherwydd einioes pob cnawd yw ei waed: pwy bynnag a’i bwytao, a dorrir ymaith. 15A phob dyn a’r a fwytao’r peth a fu farw ohono ei hun, neu ysglyfaeth, pa un bynnag ai priodor, ai dieithrddyn; golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: yna glân fydd. 16Ond os efe nis gylch hwynt, ac ni ylch ei gnawd; yna y dwg efe ei anwiredd.

Dewis Presennol:

Lefiticus 17: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda