Job 41
41
1A dynni di y lefiathan allan â bach? neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff? 2A osodi di fach yn ei drwyn ef? neu a dylli di asgwrn ei ên ef â mynawyd? 3A fawr ymbil efe â thi? a ddywed efe wrthyt ti yn deg? 4A wna efe amod â thi? a gymeri di ef yn was tragwyddol? 5A chwaraei di ag ef fel ag aderyn? neu a rwymi di ef i’th lancesau? 6A swpera cyfeillion arno? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiandwyr? 7A lenwi di ei groen ef â phigau heyrn? neu ei ben â thryferau? 8Gosod dy law arno ef; cofia y rhyfel; na wna mwy. 9Wele, ofer ydyw ei obaith ef: oni chwymp un gan ei olwg ef? 10Nid oes neb mor hyderus â’i godi ef: a phwy a saif ger fy mron i? 11Pwy a roddodd i mi yn gyntaf, a mi a dalaf? beth bynnag sydd dan yr holl nefoedd, eiddof fi yw. 12Ni chelaf ei aelodau ef, na’i gryfder, na gweddeidd-dra ei ystum ef. 13Pwy a ddatguddia wyneb ei wisg ef? pwy a ddaw ato ef â’i ffrwyn ddauddyblyg? 14Pwy a egyr ddorau ei wyneb ef? ofnadwy yw amgylchoedd ei ddannedd ef. 15Ei falchder yw ei emau, wedi eu cau ynghyd megis â sêl gaeth. 16Y mae y naill mor agos at y llall, fel na ddaw gwynt rhyngddynt. 17Pob un a lŷn wrth ei gilydd; hwy a gydymgysylltant, fel na wahenir hwy. 18Wrth ei disian ef y tywynna goleuni, a’i lygaid ef sydd fel amrantau y bore. 19Ffaglau a ânt allan, a gwreichion tanllyd a neidiant o’i enau ef. 20Mwg a ddaw allan o’i ffroenau, fel o bair neu grochan berwedig. 21Ei anadl a wna i’r glo losgi, a fflam a ddaw allan o’i enau. 22Yn ei wddf y trig cryfder, a thristwch a dry yn llawenydd o’i flaen ef. 23Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd: caledodd ynddo ei hun, fel na syflo. 24Caled ydyw ei galon fel carreg: a chaled fel darn o’r maen isaf i felin. 25Rhai cryfion a ofnant pan godo efe: rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhânt. 26Cleddyf yr hwn a’i trawo, ni ddeil; y waywffon, y bicell, na’r llurig. 27Efe a gyfrif haearn fel gwellt, a phres fel pren pwdr. 28Ni phair saeth iddo ffoi: cerrig tafl a droed iddo yn sofl. 29Picellau a gyfrifir fel soflyn; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon. 30Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd: efe a daena bethau llymion ar hyd y clai. 31Efe a wna i’r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint. 32Efe a wna lwybr golau ar ei ôl; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn. 33Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo, yr hwn a wnaethpwyd heb ofn. 34Efe a edrych ar bob peth uchel: brenin ydyw ar holl feibion balchder.
Dewis Presennol:
Job 41: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.