Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 40

40
1Yr Arglwydd hefyd a atebodd Job, ac a ddywedodd, 2Ai dysgeidiaeth yw ymryson â’r Hollalluog? a argyhoeddo Dduw, atebed i hynny.
3A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, 4Wele, gwael ydwyf; pa beth a atebaf i ti? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau. 5Dywedais unwaith; ond nid atebaf: ie, ddwywaith; ond ni chwanegaf.
6A’r Arglwydd a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd, 7Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr; a myfi a ofynnaf i ti, mynega dithau i mi. 8A wnei di fy marn i yn ofer? a ferni di fi yn anghyfiawn, i’th gyfiawnhau dy hun? 9A oes i ti fraich fel i Dduw? neu a wnei di daranau â’th lais fel yntau? 10Ymdrwsia yn awr â mawredd ac â godidowgrwydd, ac ymwisg â gogoniant ac â phrydferthwch. 11Gwasgar gynddaredd dy ddigofaint; ac edrych ar bob balch, a thafl ef i lawr. 12Edrych ar bob balch, a gostwng ef; a mathra yr annuwiol yn eu lle. 13Cuddia hwynt ynghyd yn y pridd, a rhwym eu hwynebau hwynt mewn lle cuddiedig. 14Yna hefyd myfi a addefaf i ti, y gall dy ddeheulaw dy achub.
15Yn awr wele y behemoth, yr hwn a wneuthum gyda thi; glaswellt a fwyty efe fel ych. 16Wele yn awr, ei gryfder ef sydd yn ei lwynau, a’i nerth ym mogel ei fol. 17Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden: gewynnau ei arennau ef sydd blethedig. 18Pibellau pres ydyw ei esgyrn ef: ei esgyrn sydd fel ffyn heyrn. 19Pennaf o ffyrdd Duw ydyw efe: yr hwn a’i gwnaeth a all beri i’w gleddyf nesáu ato ef. 20Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo: ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes. 21Efe a orwedd dan goedydd cysgodfawr, mewn lloches o gyrs a siglennydd. 22Coed cysgodfawr a’i gorchuddiant â’u cysgod: helyg yr afon a’i hamgylchant. 23Wele, efe a yf yr afon, ac ni phrysura: efe a obeithiai y tynnai efe’r Iorddonen i’w safn. 24A ddeil neb ef o flaen ei lygaid? a dylla neb ei drwyn ef â bachau?

Dewis Presennol:

Job 40: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda