Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 6

6
1Ymgynullwch i ffoi, meibion Benjamin, o ganol Jerwsalem, ac yn Tecoa utgenwch utgorn; a chodwch ffagl yn Beth-haccerem: canys drwg a welir o’r gogledd, a dinistr mawr. 2Cyffelybais ferch Seion i wraig deg foethus. 3Ati hi y daw y bugeiliaid â’u diadellau: yn ei herbyn hi o amgylch y gosodant eu pebyll; porant bob un yn ei le. 4Paratowch ryfel yn ei herbyn hi; codwch, ac awn i fyny ar hanner dydd. Gwae ni! oherwydd ciliodd y dydd, canys cysgodau yr hwyr a ymestynasant. 5Codwch, ac awn i fyny o hyd nos, a distrywiwn ei phalasau hi.
6Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Torrwch goed, a chodwch glawdd yn erbyn Jerwsalem. Dyma y ddinas sydd i ymweled â hi; gorthrymder yw hi oll o’i mewn. 7Megis y gwna ffynnon i’w dwfr darddu allan, felly y mae hi yn bwrw allan ei drygioni: trais ac ysbail a glywir ynddi; gofid a dyrnodiau sydd yn wastad ger fy mron. 8Cymer addysg, O Jerwsalem, rhag i’m henaid i ymado oddi wrthyt; rhag i mi dy osod di yn anrhaith, yn dir anghyfanheddol.
9Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Gan loffa y lloffant weddill Israel fel gwinwydden; tro dy law yn ei hôl, megis casglydd grawnwin i’r basgedau. 10Wrth bwy y dywedaf fi, a phwy a rybuddiaf, fel y clywant? Wele, eu clust hwy sydd ddienwaededig, ac ni allant wrando: wele, dirmygus ganddynt air yr Arglwydd; nid oes ganddynt ewyllys iddo. 11Am hynny yr ydwyf fi yn llawn o lid yr Arglwydd; blinais yn ymatal: tywalltaf ef ar y plant yn yr heol, ac ar gynulleidfa y gwŷr ieuainc hefyd: canys y gŵr a’r wraig a ddelir, yr henwr a’r llawn o ddyddiau. 12A’u tai a ddigwyddant i eraill, eu meysydd a’u gwragedd hefyd: canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlad, medd yr Arglwydd. 13Oblegid o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd-dod: ac o’r proffwyd hyd yr offeiriad, pob un sydd yn gwneuthur ffalster. 14A hwy a iachasant friw merch fy mhobl i yn esmwyth, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; er nad oedd heddwch. 15A ydoedd arnynt hwy gywilydd pan wnelent ffieidd-dra? nid ydoedd arnynt hwy ddim cywilydd, ac ni fedrent wrido: am hynny y cwympant ymysg y rhai a gwympant; yn yr amser yr ymwelwyf â hwynt y cwympant, medd yr Arglwydd. 16Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Sefwch ar y ffyrdd, ac edrychwch, a gofynnwch am yr hen lwybrau, lle mae ffordd dda, a rhodiwch ynddi; a chwi a gewch orffwystra i’ch eneidiau. Ond hwy a ddywedasant, Ni rodiwn ni ynddi. 17A mi a osodais wylwyr arnoch chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ar sain yr utgorn. Hwythau a ddywedasant, Ni wrandawn ni ddim.
18Am hynny clywch, genhedloedd: a thi gynulleidfa, gwybydd pa bethau sydd yn eu plith hwynt. 19Gwrando, tydi y ddaear; wele fi yn dwyn drygfyd ar y bobl hyn, sef ffrwyth eu meddyliau eu hunain; am na wrandawsant ar fy ngeiriau, na’m cyfraith, eithr gwrthodasant hi. 20I ba beth y daw i mi thus o Seba, a chalamus peraidd o wlad bell? eich poethoffrymau nid ydynt gymeradwy, ac nid melys eich aberthau gennyf. 21Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn rhoddi tramgwyddiadau i’r bobl hyn, fel y tramgwyddo wrthynt y tadau a’r meibion ynghyd; cymydog a’i gyfaill a ddifethir. 22Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele bobl yn dyfod o dir y gogledd, a chenedl fawr a gyfyd o ystlysau y ddaear. 23Yn y bwa a’r waywffon yr ymaflant; creulon ydynt, ac ni chymerant drugaredd: eu llais a rua megis y môr, ac ar feirch y marchogant yn daclus, megis gwŷr i ryfel yn dy erbyn di, merch Seion. 24Clywsom sôn amdanynt; ein dwylo a laesasant; blinder a’n daliodd, fel gofid gwraig yn esgor. 25Na ddos allan i’r maes, ac na rodia ar hyd y ffordd: canys cleddyf y gelyn ac arswyd sydd oddi amgylch.
26Merch fy mhobl, ymwregysa â sachliain, ac ymdroa yn y lludw; gwna i ti gwynfan a galar tost, megis am unig fab: canys y distrywiwr a ddaw yn ddisymwth arnom ni. 27Mi a’th roddais di yn dŵr ac yn gadernid ymysg fy mhobl, i wybod ac i brofi eu ffordd hwy. 28Cyndyn o’r fath gyndynnaf ydynt oll, yn rhodio ag enllib; efydd a haearn ŷnt; llygru y maent hwy oll. 29Llosgodd y fegin; gan dân y darfu y plwm; yn ofer y toddodd y toddydd: canys ni thynnwyd y rhai drygionus ymaith. 30Yn arian gwrthodedig y galwant hwynt; am wrthod o’r Arglwydd hwynt.

Dewis Presennol:

Jeremeia 6: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda