Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 5

5
1Rhedwch yma a thraw ar hyd heolydd Jerwsalem, ac edrychwch yr awr hon, mynnwch wybod hefyd, a cheisiwch yn ei heolydd hi, o chewch ŵr, a oes a wnêl farn, a gais wirionedd, a myfi a’i harbedaf hi. 2Ac er dywedyd ohonynt, Byw yw yr Arglwydd, eto yn gelwyddog y tyngant. 3O Arglwydd, onid ar y gwirionedd y mae dy lygaid di? ti a’u trewaist hwynt, ac nid ymofidiasant; difeaist hwynt, eithr gwrthodasant dderbyn cerydd: hwy a wnaethant eu hwynebau yn galetach na chraig, gwrthodasant ddychwelyd. 4A mi a ddywedais, Yn sicr tlodion ydyw y rhai hyn, ynfydion ydynt: canys nid adwaenant ffordd yr Arglwydd, na barn eu Duw. 5Mi a af rhagof at y gwŷr mawr, ac a ymddiddanaf â hwynt; canys hwy a wybuant ffordd yr Arglwydd, a barn eu Duw: eithr y rhai hyn a gyd-dorasant yr iau, ac a ddrylliasant y rhwymau. 6Oblegid hyn llew o’r coed a’u tery hwy, blaidd o’r anialwch a’u distrywia hwy, llewpard a wylia ar eu dinasoedd hwy: pawb a’r a ddêl allan ohonynt a rwygir: canys eu camweddau a amlhasant, eu gwrthdrofeydd a chwanegasant.
7Pa fodd y’th arbedwn am hyn? dy blant a’m gadawsant i, ac a dyngasant i’r rhai nid ydynt dduwiau: a phan ddiwellais hwynt, gwnaethant odineb, ac a heidiasant i dŷ y butain. 8Oeddynt fel meirch porthiannus y bore; gweryrent bob un ar wraig ei gymydog. 9Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr Arglwydd: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?
10Dringwch ar ei muriau hi, a distrywiwch, ond na orffennwch yn llwyr: tynnwch ymaith ei mur-ganllawiau hi: canys nid eiddo’r Arglwydd ydynt. 11Oblegid tŷ Israel a thŷ Jwda a wnaethant yn anffyddlon iawn â mi, medd yr Arglwydd. 12Celwyddog fuant yn erbyn yr Arglwydd, a dywedasant, Nid efe yw; ac ni ddaw drygfyd arnom, ac ni welwn gleddyf na newyn: 13A’r proffwydi a fuant fel gwynt, a’r gair nid yw ynddynt: fel hyn y gwneir iddynt hwy. 14Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Am i chwi ddywedyd y gair hwn, wele fi yn rhoddi fy ngeiriau yn dy enau di yn dân, a’r bobl hyn yn gynnud, ac efe a’u difa hwynt. 15Wele, mi a ddygaf arnoch chwi, tŷ Israel, genedl o bell, medd yr Arglwydd; cenedl nerthol ydyw, cenedl a fu er ys talm, cenedl ni wyddost ei hiaith, ac ni ddeelli beth a ddywedant. 16Ei chawell saethau hi sydd fel bedd agored, cedyrn ydynt oll. 17A hi a fwyty dy gynhaeaf di, a’th fara, yr hwn a gawsai dy feibion di a’th ferched ei fwyta: hi a fwyty dy ddefaid di a’th wartheg; hi a fwyty dy winwydd a’th ffigyswydd: dy ddinasoedd cedyrn, y rhai yr wyt yn ymddiried ynddynt, a dloda hi â’r cleddyf. 18Ac er hyn, yn y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, ni wnaf fi gwbl ben â chwi.
19A bydd pan ddywedoch, Paham y gwna yr Arglwydd ein Duw hyn oll i ni? ddywedyd ohonot tithau wrthynt, Megis y gwrthodasoch fi, ac y gwasanaethasoch dduwiau dieithr yn eich tir eich hun; felly gwasanaethwch ddieithriaid mewn tir ni byddo eiddo chwi. 20Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, a chyhoeddwch hyn yn Jwda, gan ddywedyd, 21Gwrando hyn yn awr, ti bobl ynfyd ac heb ddeall; y rhai y mae llygaid iddynt, ac ni welant; a chlustiau iddynt, ac ni chlywant: 22Onid ofnwch chwi fi? medd yr Arglwydd: oni chrynwch rhag fy mron, yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i’r môr trwy ddeddf dragwyddol, fel nad elo dros hwnnw; er i’r tonnau ymgyrchu, eto ni thycia iddynt; er iddynt derfysgu, eto ni ddeuant dros hwnnw? 23Eithr i’r bobl hyn y mae calon wrthnysig ac anufuddgar: hwynt-hwy a giliasant, ac a aethant ymaith. 24Ac ni ddywedant yn eu calon, Ofnwn weithian yr Arglwydd ein Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r glaw cynnar a’r diweddar yn ei amser: efe a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaeaf.
25Eich anwireddau chwi a droes heibio y rhai hyn, a’ch pechodau chwi a ataliasant ddaioni oddi wrthych. 26Canys ymysg fy mhobl y ceir anwiriaid, y rhai a wyliant megis un yn gosod maglau: gosodant offer dinistr, dynion a ddaliant. 27Fel cawell yn llawn o adar, felly y mae eu tai hwynt yn llawn o dwyll: am hynny y cynyddasant, ac yr ymgyfoethogasant. 28Tewychasant, disgleiriasant, aethant hefyd tu hwnt i weithredoedd y drygionus; ni farnant farn yr amddifad, eto ffynasant; ac ni farnant farn yr anghenus. 29Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr Arglwydd; oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?
30Peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir: 31Y proffwydi a broffwydant gelwydd, yr offeiriaid hefyd a lywodraethant trwy eu gwaith hwynt; a’m pobl a hoffant hynny: eto beth a wnewch yn niwedd hyn?

Dewis Presennol:

Jeremeia 5: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd