Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 13

13
1Baich Babilon, yr hwn a welodd Eseia mab Amos. 2Dyrchefwch faner ar y mynydd uchel, dyrchefwch lef atynt, ysgydwch law, fel yr elont i fewn pyrth y pendefigion. 3Myfi a orchmynnais i’m rhai sanctaidd; gelwais hefyd fy nghedyrn i’m dicter, y rhai a ymhyfrydant yn fy nyrchafiad. 4Llef tyrfa yn y mynyddoedd, yn gyffelyb i bobl lawer; sŵn twrf teyrnasoedd y cenhedloedd wedi ymgynnull: Arglwydd y lluoedd sydd yn cyfrif llu y rhyfel. 5Dyfod y maent o wlad bell, o eithaf y nefoedd; sef yr Arglwydd, ac arfau ei lidiowgrwydd, i ddifa yr holl dir.
6Udwch; canys agos yw diwrnod yr Arglwydd; megis anrhaith oddi wrth yr Hollalluog y daw. 7Am hynny yr holl ddwylo a laesa; a chalon pob dyn a dawdd: 8A hwy a ofnant; gwewyr a doluriau a’u deil hwynt; megis gwraig yn esgor yr ymofidiant; pawb wrth ei gyfaill a ryfedda; eu hwynebau fyddant wynebau fflamllyd. 9Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod, yn greulon â digofaint a dicter llidiog, i osod y wlad yn ddiffeithwch; a’i phechaduriaid a ddifa efe allan ohoni. 10Canys sêr y nefoedd, a’u planedau, ni roddant eu llewyrch: yr haul a dywyllir yn ei godiad, a’r lloer ni oleua â’i llewyrch. 11A mi a ymwelaf â’r byd am ei ddrygioni, ac â’r annuwiolion am eu hanwiredd: a gwnaf i falchder y rhai rhyfygus beidio; gostyngaf hefyd uchder y rhai ofnadwy. 12Gwnaf ddyn yn werthfawrocach nag aur coeth; ie, dyn na chŷn o aur Offir. 13Am hynny yr ysgydwaf y nefoedd, a’r ddaear a grŷn o’i lle, yn nigofaint Arglwydd y lluoedd, ac yn nydd llid ei ddicter ef. 14A hi a fydd megis ewig wedi ei tharfu, ac fel dafad heb neb a’i coleddo; pawb a wynebant at eu pobl eu hun, a phawb i’w gwlad eu hun a ffoant. 15Pob un a geffir ynddi a drywenir; a phawb a chwaneger ati a syrth trwy y cleddyf. 16Eu plant hefyd a ddryllir o flaen eu llygaid; eu tai a ysbeilir, a’u gwragedd a dreisir. 17Wele fi yn cyfodi y Mediaid yn eu herbyn hwy, y rhai ni roddant fri ar arian; a’r aur nid ymhyfrydant ynddo. 18Eu bwâu hefyd a ddryllia y gwŷr ieuainc, ac wrth ffrwyth bru ni thosturiant: eu llygad nid eiriach y rhai bach.
19A Babilon, prydferthwch y teyrnasoedd, gogoniant godidowgrwydd y Caldeaid, fydd megis dinistr Duw ar Sodom a Gomorra. 20Ni chyfanheddir hi yn dragywydd, ac ni phreswylir hi o genhedlaeth i genhedlaeth; ac ni phabella yr Arabiad yno, a’r bugeiliaid ni chorlannant yno. 21Ond anifeiliaid gwylltion yr anialwch a orweddant yno; a’u tai hwynt a lenwir o ormesiaid, a chywion yr estrys a drigant yno, a’r ellyllon a lamant yno: 22A’r cathod a gydatebant yn ei gweddwdai hi, a’r dreigiau yn y palasoedd hyfryd: a’i hamser sydd yn agos i ddyfod, a’i dyddiau nid oedir.

Dewis Presennol:

Eseia 13: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda