Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 12

12
1Yna y dywedi yn y dydd hwnnw, Molaf di, O Arglwydd: er i ti sorri wrthyf, dychwelir dy lid, a thi a’m cysuri. 2Wele, Duw yw fy iachawdwriaeth; gobeithiaf, ac nid ofnaf: canys yr Arglwydd Dduw yw fy nerth a’m cân; efe hefyd yw fy iachawdwriaeth. 3Am hynny mewn llawenydd y tynnwch ddwfr o ffynhonnau iachawdwriaeth. 4A chwi a ddywedwch yn y dydd hwnnw, Molwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd, cofiwch mai dyrchafedig yw ei enw ef. 5Cenwch i’r Arglwydd; canys godidowgrwydd a wnaeth efe: hysbys yw hyn yn yr holl dir. 6Bloeddia a chrochlefa, breswylferch Seion; canys mawr yw Sanct Israel o’th fewn di.

Dewis Presennol:

Eseia 12: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda