Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 9

9
1Llefodd hefyd â llef uchel lle y clywais, gan ddywedyd, Gwnewch i swyddogion y ddinas nesáu, a phob un â’i arf dinistr yn ei law. 2Ac wele chwech o wŷr yn dyfod o ffordd y porth uchaf, yr hwn sydd yn edrych tua’r gogledd, a phob un â’i arf dinistr yn ei law: ac yr oedd un gŵr yn eu mysg hwynt wedi ei wisgo â lliain, a chorn du ysgrifennydd wrth ei glun; a hwy a aethant i mewn, ac a safasant wrth yr allor bres. 3A gogoniant Duw Israel a gyfododd oddi ar y ceriwb yr ydoedd efe arno, hyd riniog y tŷ. Ac efe a lefodd ar y gŵr oedd wedi ei wisgo â lliain, yr hwn yr oedd corn du ysgrifennydd wrth ei glun: 4A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos trwy ganol y ddinas, trwy ganol Jerwsalem, a noda nod ar dalcennau y dynion sydd yn ucheneidio ac yn gweiddi am y ffieidd-dra oll a wneir yn ei chanol hi.
5Ac wrth y lleill y dywedodd efe lle y clywais, Ewch trwy y ddinas ar ei ôl ef, a threwch; nac arbeded eich llygad, ac na thosturiwch. 6Lleddwch yn farw yr henwr, y gŵr ieuanc, a’r forwyn, y plant hefyd, a’r gwragedd; ond na ddeuwch yn agos at un gŵr y byddo’r nod arno: ac ar fy nghysegr y dechreuwch. Yna y dechreuasant ar y gwŷr hen, y rhai oedd o flaen y tŷ. 7Dywedodd wrthynt hefyd, Halogwch y tŷ, a llenwch y cynteddoedd o rai lladdedig: ewch allan. Felly hwy a aethant allan, ac a drawsant yn y ddinas.
8A bu, a hwy yn lladd, a’m gado innau, i mi syrthio ar fy wyneb, a gweiddi, a dywedyd, O Arglwydd Dduw, a ddifethi di holl weddill Israel, wrth dywallt dy lid ar Jerwsalem? 9Ac efe a ddywedodd wrthyf, Anwiredd tŷ Israel a thŷ Jwda sydd fawr dros ben; a llawn yw y tir o waed, a llanwyd y ddinas o gamwedd: oherwydd dywedant, Gwrthododd yr Arglwydd y ddaear, ac nid yw yr Arglwydd yn gweled. 10Ac amdanaf fi, nid erbyd fy llygad, ac ni thosturiaf; rhoddaf eu ffordd eu hun ar eu pennau. 11Ac wele, y gŵr wedi ei wisgo â lliain, yr hwn yr oedd y corn du wrth ei glun, yn dwyn gair drachefn, gan ddywedyd, Gwneuthum fel y gorchmynnaist i mi.

Dewis Presennol:

Eseciel 9: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda