Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 10

10
1Yna yr edrychais, ac wele yn y ffurfafen, yr hon oedd uwchben y ceriwbiaid, megis maen saffir, fel dull cyffelybrwydd gorseddfa, a welid arnynt hwy. 2Ac efe a lefarodd wrth y gŵr a wisgasid â lliain, ac a ddywedodd, Dos i mewn rhwng yr olwynion, hyd dan y ceriwb, a llanw dy ddwylo o farwor tanllyd oddi rhwng y ceriwbiaid, a thaena ar y ddinas. Ac efe a aeth o flaen fy llygaid. 3A’r ceriwbiaid oedd yn sefyll o du deau y tŷ, pan aeth y gŵr i mewn; a’r cwmwl a lanwodd y cyntedd nesaf i mewn. 4Yna y cyfododd gogoniant yr Arglwydd oddi ar y ceriwb, ac a safodd oddi ar riniog y tŷ; a’r tŷ a lanwyd â’r cwmwl, a llanwyd y cyntedd o ddisgleirdeb gogoniant yr Arglwydd. 5A sŵn adenydd y ceriwbiaid a glybuwyd hyd y cyntedd nesaf allan, fel sŵn Duw Hollalluog pan lefarai. 6Bu hefyd, wedi iddo orchymyn i’r gŵr a wisgasid â lliain, gan ddywedyd, Cymer dân oddi rhwng yr olwynion, oddi rhwng y ceriwbiaid; fyned ohono ef, a sefyll wrth yr olwynion. 7Yna yr estynnodd un ceriwb ei law oddi rhwng y ceriwbiaid i’r tân yr hwn oedd rhwng y ceriwbiaid, ac a gymerth, ac a roddodd beth yn nwylo yr hwn a wisgasid â lliain: yntau a’i cymerodd, ac a aeth allan.
8A gwelid yn y ceriwbiaid lun llaw dyn dan eu hadenydd. 9Edrychais hefyd, ac wele bedair olwyn wrth y ceriwbiaid, un olwyn wrth un ceriwb, ac un olwyn wrth geriwb arall: a gwelediad yr olwynion oedd fel lliw maen beryl. 10A’u gwelediad, un wedd oedd iddynt ill pedair, fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn. 11Pan gerddent, ar eu pedwar ochr y cerddent; ni throent pan gerddent, ond lle yr edrychai y pen, y cerddent ar ei ôl ef; ni throent pan gerddent. 12Eu holl gnawd hefyd, a’u cefnau, a’u dwylo, a’u hadenydd, a’r olwynion, oedd yn llawn llygaid oddi amgylch; sef yr olwynion oedd iddynt ill pedwar. 13Galwyd hefyd lle y clywais arnynt hwy, sef ar yr olwynion, O olwyn. 14A phedwar wyneb oedd i bob un; yr wyneb cyntaf yn wyneb ceriwb, a’r ail wyneb yn wyneb dyn, a’r trydydd yn wyneb llew, a’r pedwerydd yn wyneb eryr. 15A’r ceriwbiaid a ymddyrchafasant. Dyma y peth byw a welais wrth afon Chebar. 16A phan gerddai y ceriwbiaid, y cerddai yr olwynion wrthynt; a phan godai y ceriwbiaid eu hadenydd i ymddyrchafu oddi ar y ddaear, yr olwynion hwythau ni throent chwaith oddi wrthynt. 17Safent, pan safent hwythau; a chodent gyda hwy, pan godent hwythau; canys ysbryd y peth byw oedd ynddynt. 18Yna gogoniant yr Arglwydd a aeth allan oddi ar riniog y tŷ, ac a safodd ar y ceriwbiaid. 19A’r ceriwbiaid a godasant eu hadenydd, ac a ymddyrchafasant oddi ar y ddaear o flaen fy llygaid: a’r olwynion oedd yn eu hymyl, pan aethant allan: a safodd pob un wrth ddrws porth y dwyrain i dŷ yr Arglwydd; a gogoniant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd. 20Dyma y peth byw a welais dan Dduw Israel, wrth afon Chebar: a gwybûm mai y ceriwbiaid oeddynt. 21Pedwar wyneb oedd i bob un, a phedair adain i bob un, a chyffelybrwydd dwylo dyn dan eu hadenydd. 22Cyffelybrwydd eu hwynebau oedd yr un wynebau ag a welais wrth afon Chebar, eu dull hwynt a hwythau: cerddent bob un yn union rhag ei wyneb.

Dewis Presennol:

Eseciel 10: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda