Y Pregethwr 11
11
1Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd; canys ti a’i cei ar ôl llawer o ddyddiau. 2Dyro ran i saith, a hefyd i wyth: canys ni wyddost pa ddrwg a ddigwydd ar y ddaear. 3Os bydd y cymylau yn llawn glaw, hwy a ddefnynnant ar y ddaear: ac os tua’r deau neu tua’r gogledd y syrth y pren; lle y syrthio y pren, yno y bydd efe. 4Y neb a ddalio ar y gwynt, ni heua; a’r neb a edrycho ar y cymylau, ni feda. 5Megis na wyddost ffordd yr ysbryd, na pha fodd y ffurfheir yr esgyrn yng nghroth y feichiog; felly ni wyddost waith Duw, yr hwn sydd yn gwneuthur y cwbl. 6Y bore heua dy had, a phrynhawn nac atal dy law: canys ni wyddost pa un a ffynna, ai hyn yma ai hyn acw, ai ynteu da fyddant ill dau yn yr un ffunud.
7Melys yn ddiau yw y goleuni, a hyfryd yw i’r llygaid weled yr haul. 8Ond pe byddai dyn fyw lawer o flynyddoedd, a bod yn llawen ynddynt oll; eto cofied ddyddiau tywyllwch; canys llawer fyddant. Beth bynnag a ddigwydda, oferedd yw.
9Gwna yn llawen, ŵr ieuanc, yn dy ieuenctid, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctid, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yng ngolwg dy lygaid: ond gwybydd y geilw Duw di i’r farn am hyn oll. 10Am hynny bwrw ddig oddi wrth dy galon, a thro ymaith ddrwg oddi wrth dy gnawd: canys gwagedd yw mebyd ac ieuenctid.
Dewis Presennol:
Y Pregethwr 11: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.