1
Y Pregethwr 11:9
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Gwna yn llawen, ŵr ieuanc, yn dy ieuenctid, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctid, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yng ngolwg dy lygaid: ond gwybydd y geilw DUW di i’r farn am hyn oll.
Cymharu
Archwiliwch Y Pregethwr 11:9
2
Y Pregethwr 11:10
Am hynny bwrw ddig oddi wrth dy galon, a thro ymaith ddrwg oddi wrth dy gnawd: canys gwagedd yw mebyd ac ieuenctid.
Archwiliwch Y Pregethwr 11:10
3
Y Pregethwr 11:4
Y neb a ddalio ar y gwynt, ni heua; a’r neb a edrycho ar y cymylau, ni feda.
Archwiliwch Y Pregethwr 11:4
4
Y Pregethwr 11:5
Megis na wyddost ffordd yr ysbryd, na pha fodd y ffurfheir yr esgyrn yng nghroth y feichiog; felly ni wyddost waith DUW, yr hwn sydd yn gwneuthur y cwbl.
Archwiliwch Y Pregethwr 11:5
5
Y Pregethwr 11:6
Y bore heua dy had, a phrynhawn nac atal dy law: canys ni wyddost pa un a ffynna, ai hyn yma ai hyn acw, ai ynteu da fyddant ill dau yn yr un ffunud.
Archwiliwch Y Pregethwr 11:6
6
Y Pregethwr 11:2
Dyro ran i saith, a hefyd i wyth: canys ni wyddost pa ddrwg a ddigwydd ar y ddaear.
Archwiliwch Y Pregethwr 11:2
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos