Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 20

20
1A Dafydd a ffodd o Naioth yn Rama: ac a ddaeth, ac a ddywedodd gerbron Jonathan, Beth a wneuthum i? beth yw fy anwiredd? a pheth yw fy mhechod o flaen dy dad di, gan ei fod efe yn ceisio fy einioes i? 2Ac efe a ddywedodd wrtho, Na ato Duw; ni byddi farw: wele, ni wna fy nhad ddim, na mawr na bychan, heb ei fynegi i mi: paham gan hynny y celai fy nhad y peth hyn oddi wrthyf fi? Nid felly y mae. 3A Dafydd a dyngodd eilwaith, ac a ddywedodd, Dy dad a ŵyr yn hysbys i mi gael ffafr yn dy olwg di; am hynny y dywed, Na chaed Jonathan wybod hyn, rhag ei dristáu ef: cyn wired â bod yr Arglwydd yn fyw, a’th enaid dithau yn fyw, nid oes ond megis cam rhyngof fi ac angau. 4Yna y dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dywed beth yw dy ewyllys, a mi a’i cwblhaf i ti. 5A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Wele, y dydd cyntaf o’r mis yw yfory, a minnau gan eistedd a ddylwn eistedd gyda’r brenin i fwyta: ond gollwng fi, fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd brynhawn y trydydd dydd. 6Os dy dad a ymofyn yn fanwl amdanaf; yna dywed, Dafydd gan ofyn a ofynnodd gennad gennyf fi, i redeg i Bethlehem, ei ddinas ei hun: canys aberth blynyddol sydd yno i’r holl genedl. 7Os fel hyn y dywed efe, Da; heddwch fydd i’th was: ond os gan ddigio y digia efe, gwybydd fod ei fryd ef ar ddrwg. 8Gwna gan hynny drugaredd â’th was; canys i gyfamod yr Arglwydd y dygaist dy was gyda thi: ac od oes anwiredd ynof fi, lladd di fi; canys i ba beth y dygi fi at dy dad? 9A dywedodd Jonathan, Na ato Duw hynny i ti: canys, os gan wybod y cawn wybod fod malais wedi ei baratoi gan fy nhad i ddyfod i’th erbyn, onis mynegwn i ti? 10A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Pwy a fynega i mi? neu beth os dy dad a’th etyb yn arw?
11A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Tyred, ac awn i’r maes. A hwy a aethant ill dau i’r maes. 12A Jonathan a ddywedodd wrth Dafydd, O Arglwydd Dduw Israel, wedi i mi chwilio meddwl fy nhad, ynghylch y pryd hwn yfory, neu drennydd; ac wele, os daioni fydd tuag at Dafydd, ac oni anfonaf yna atat ti, a’i fynegi i ti; 13Fel hyn y gwnêl yr Arglwydd i Jonathan, ac ychwaneg: os da fydd gan fy nhad wneuthur drwg i ti; yna y mynegaf i ti, ac a’th ollyngaf ymaith, fel yr elych mewn heddwch: a bydded yr Arglwydd gyda thi, megis y bu gyda’m tad i. 14Ac nid yn unig tra fyddwyf fi byw, y gwnei drugaredd yr Arglwydd â mi, fel na byddwyf fi marw: 15Ond hefyd na thor ymaith dy drugaredd oddi wrth fy nhŷ i byth: na chwaith pan ddistrywio yr Arglwydd elynion Dafydd, bob un oddi ar wyneb y ddaear. 16Felly y cyfamododd Jonathan â thŷ Dafydd; ac efe a ddywedodd, Gofynned yr Arglwydd hyn ar law gelynion Dafydd. 17A Jonathan a wnaeth i Dafydd yntau dyngu, oherwydd efe a’i carai ef: canys fel y carai ei enaid ei hun, y carai efe ef. 18A Jonathan a ddywedodd wrtho ef, Yfory yw y dydd cyntaf o’r mis: ac ymofynnir amdanat; oherwydd fe fydd dy eisteddle yn wag. 19Ac wedi i ti aros dridiau, yna tyred i waered yn fuan; a thyred i’r lle yr ymguddiaist ynddo pan oedd y peth ar waith, ac aros wrth faen Esel. 20A mi a saethaf dair o saethau tua’i ystlys ef, fel pes gollyngwn hwynt at nod. 21Wele hefyd, mi a anfonaf lanc, gan ddywedyd, Dos, cais y saethau. Os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o’r tu yma i ti, dwg hwynt; yna tyred di: canys heddwch sydd i ti, ac nid oes dim niwed, fel mai byw yw yr Arglwydd. 22Ond os fel hyn y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o’r tu hwnt i ti; dos ymaith; canys yr Arglwydd a’th anfonodd ymaith. 23Ac am y peth a leferais i, mi a thi, wele yr Arglwydd fyddo rhyngof fi a thi yn dragywydd.
24Felly Dafydd a ymguddiodd yn y maes. A phan ddaeth y dydd cyntaf o’r mis, y brenin a eisteddodd i fwyta bwyd. 25A’r brenin a eisteddodd ar ei eisteddfa, megis ar amseroedd eraill; sef ar yr eisteddfa wrth y pared; a Jonathan a gyfododd, ac Abner a eisteddodd wrth ystlys Saul; a lle Dafydd oedd wag. 26Ac nid ynganodd Saul ddim y diwrnod hwnnw: canys meddyliodd mai damwain oedd hyn; nad oedd efe lân, a’i fod yn aflan. 27A bu drannoeth, yr ail ddydd o’r mis, fod lle Dafydd yn wag. A dywedodd Saul wrth Jonathan ei fab, Paham na ddaeth mab Jesse at y bwyd, na doe na heddiw? 28A Jonathan a atebodd Saul, Dafydd gan ofyn a ofynnodd i mi am gael myned hyd Bethlehem: 29Ac efe a ddywedodd, Gollwng fi, atolwg; oherwydd i’n tylwyth ni y mae aberth yn y ddinas, a’m brawd yntau a archodd i mi fod yno: ac yn awr, o chefais ffafr yn dy olwg, gad i mi fyned, atolwg, fel y gwelwyf fy mrodyr. Oherwydd hyn, ni ddaeth efe i fwrdd y brenin. 30Yna y llidiodd dicter Saul yn erbyn Jonathan; ac efe a ddywedodd wrtho, Ti fab y gyndyn wrthnysig, oni wn i ti ddewis mab Jesse yn waradwydd i ti, ac yn gywilydd i noethder dy fam? 31Canys tra fyddo mab Jesse yn fyw ar y ddaear, ni’th sicrheir di na’th deyrnas: yn awr gan hynny anfon, a chyrch ef ataf; canys marw a gaiff efe. 32A Jonathan a atebodd Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Paham y bydd efe marw? beth a wnaeth efe? 33A Saul a ergydiodd waywffon ato ef, i’w daro ef. Wrth hyn y gwybu Jonathan fod ei dad ef wedi rhoi ei fryd ar ladd Dafydd. 34Felly Jonathan a gyfododd oddi wrth y bwrdd mewn llid dicllon, ac ni fwytaodd fwyd yr ail ddydd o’r mis: canys drwg oedd ganddo dros Dafydd, oherwydd i’w dad ei waradwyddo ef.
35A’r bore yr aeth Jonathan i’r maes erbyn yr amser a osodasai efe i Dafydd, a bachgen bychan gydag ef. 36Ac efe a ddywedodd wrth ei fachgen, Rhed, cais yn awr y saethau yr ydwyf fi yn eu saethu. A’r bachgen a redodd: yntau a saethodd saeth y tu hwnt iddo ef. 37A phan ddaeth y bachgen hyd y fan yr oedd y saeth a saethasai Jonathan, y llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, ac a ddywedodd, Onid yw y saeth o’r tu hwnt i ti? 38A llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, Cyflyma, brysia, na saf. A bachgen Jonathan a gasglodd y saethau, ac a ddaeth at ei feistr. 39A’r bachgen ni wyddai ddim: yn unig Jonathan a Dafydd a wyddent y peth. 40A Jonathan a roddodd ei offer at ei fachgen, ac a ddywedodd wrtho, Dos, dwg y rhai hyn i’r ddinas.
41A’r bachgen a aeth ymaith; a Dafydd a gyfododd oddi wrth y deau, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd dair gwaith. A hwy a gusanasant bob un ei gilydd, ac a wylasant y naill wrth y llall; a Dafydd a ragorodd. 42A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dos mewn heddwch: yr hyn a dyngasom ni ein dau yn enw yr Arglwydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd fyddo rhyngof fi a thi, a rhwng fy had i a’th had dithau, safed hynny yn dragywydd. Ac efe a gyfododd ac a aeth ymaith: a Jonathan a aeth i’r ddinas.

Dewis Presennol:

1 Samuel 20: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda