1 Samuel 21
21
1Yna y daeth Dafydd i Nob at Ahimelech yr offeiriad. Ac Ahimelech a ddychrynodd wrth gyfarfod â Dafydd; ac a ddywedodd wrtho, Paham yr ydwyt ti yn unig, ac heb neb gyda thi? 2A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech yr offeiriad, Y brenin a orchmynnodd i mi beth, ac a ddywedodd wrthyf, Na chaed neb wybod dim o’r peth am yr hwn y’th anfonais, ac y gorchmynnais i ti: a’r gweision a gyfarwyddais i i’r lle a’r lle. 3Ac yn awr beth sydd dan dy law? dod i mi bum torth yn fy llaw, neu y peth sydd i’w gael. 4A’r offeiriad a atebodd Dafydd, ac a ddywedodd, Nid oes fara cyffredin dan fy llaw i; eithr y mae bara cysegredig: os y llanciau a ymgadwasant o’r lleiaf oddi wrth wragedd. 5A Dafydd a atebodd yr offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, Diau atal gwragedd oddi wrthym ni er ys dau ddydd neu dri, er pan gychwynnais i; llestri y llanciau hefyd ydynt sanctaidd, a’r bara sydd megis cyffredin, ie, petai wedi ei gysegru heddiw yn y llestr. 6Felly yr offeiriad a roddodd iddo ef y bara sanctaidd: canys nid oedd yno fara, ond y bara gosod, yr hwn a dynasid ymaith oddi gerbron yr Arglwydd, i osod bara brwd yn y dydd y tynnid ef ymaith. 7Ac yr oedd yno y diwrnod hwnnw un o weision Saul yn aros gerbron yr Arglwydd, a’i enw Doeg, Edomiad, y pennaf o’r bugeiliaid oedd gan Saul.
8A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech, Onid oes yma dan dy law di waywffon, neu gleddyf? canys ni ddygais fy nghleddyf na’m harfau chwaith i’m llaw, oherwydd bod gorchymyn y brenin ar ffrwst. 9A dywedodd yr offeiriad, Cleddyf Goleiath y Philistiad, yr hwn a leddaist ti yn nyffryn Ela; wele ef wedi ei oblygu mewn brethyn o’r tu ôl i’r effod: o chymeri hwnnw i ti, cymer; canys nid oes yma yr un arall ond hwnnw. A Dafydd a ddywedodd, Nid oes o fath hwnnw; dyro ef i mi.
10Dafydd hefyd a gyfododd, ac a ffodd y dydd hwnnw rhag ofn Saul, ac a aeth at Achis brenin Gath. 11A gweision Achis a ddywedasant wrtho ef, Onid hwn yw Dafydd brenin y wlad? onid i hwn y canasant yn y dawnsiau, gan ddywedyd, Saul a laddodd ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn? 12A Dafydd a osododd y geiriau hynny yn ei galon, ac a ofnodd yn ddirfawr rhag Achis brenin Gath. 13Ac efe a newidiodd ei wedd yn eu golwg hwynt; ac a gymerth arno ynfydu rhwng eu dwylo hwynt, ac a gripiodd ddrysau y porth, ac a ollyngodd ei boeryn i lawr ar ei farf. 14Yna y dywedodd Achis wrth ei weision, Wele, gwelwch y gŵr yn gwallgofi; paham y dygasoch ef ataf fi? 15Ai eisiau ynfydion sydd arnaf fi, pan ddygasoch hwn i ynfydu o’m blaen i? a gaiff hwn ddyfod i’m tŷ i?
Dewis Presennol:
1 Samuel 21: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.