1 Brenhinoedd 10
10
1A phan glybu brenhines Seba glod Solomon am enw yr Arglwydd, hi a ddaeth i’w brofi ef â chwestiynau caled. 2A hi a ddaeth i Jerwsalem â llu mawr iawn, â chamelod yn dwyn aroglau, ac aur lawer iawn, a meini gwerthfawr. A hi a ddaeth at Solomon, ac a lefarodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon. 3A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion: nid oedd dim yn guddiedig rhag y brenin, a’r na fynegodd efe iddi hi. 4A phan welodd brenhines Seba holl ddoethineb Solomon, a’r tŷ a adeiladasai efe, 5A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei weinidogion, a’u dillad hwynt, a’i drulliadau ef, a’i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr Arglwydd; nid oedd mwyach ysbryd ynddi. 6A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad am dy ymadroddion di, ac am dy ddoethineb. 7Eto ni chredais y geiriau, nes i mi ddyfod, ac i’m llygaid weled: ac wele, ni fynegasid i mi yr hanner: mwy yw dy ddoethineb a’th ddaioni na’r clod a glywais i. 8Gwyn fyd dy wŷr di, gwyn fyd dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron di, yn clywed dy ddoethineb. 9Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th hoffodd di, i’th roddi ar deyrngadair Israel: oherwydd cariad yr Arglwydd tuag at Israel yn dragywydd, y gosododd efe di yn frenin, i wneuthur barn a chyfiawnder. 10A hi a roddes i’r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr. Ni ddaeth y fath beraroglau mwyach, cyn amled â’r rhai a roddodd brenhines Seba i’r brenin Solomon. 11A llongau Hiram hefyd, y rhai a gludent aur o Offir, a ddygasant o Offir lawer iawn o goed almugim, ac o feini gwerthfawr. 12A’r brenin a wnaeth o’r coed almugim anelau i dŷ yr Arglwydd, ac i dŷ y brenin, a thelynau a saltringau i gantorion. Ni ddaeth y fath goed almugim, ac ni welwyd hyd y dydd hwn. 13A’r brenin Solomon a roddes i frenhines Seba ei holl ddymuniad, yr hyn a ofynnodd hi, heblaw yr hyn a roddodd Solomon iddi hi o’i frenhinol haelioni. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i’w gwlad, hi a’i gweision.
14A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur; 15Heblaw yr hyn a gâi efe gan y marchnadwyr, ac o farsiandïaeth y llysieuwyr, a chan holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlad.
16A’r brenin Solomon a wnaeth ddau gant o darianau aur dilin; chwe chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob tarian: 17A thri chant o fwcledi o aur dilin; tair punt o aur a roddes efe ym mhob bwcled. A’r brenin a’u rhoddes hwynt yn nhŷ coedwig Libanus.
18A’r brenin a wnaeth orseddfainc fawr o ifori, ac a’i gwisgodd hi ag aur o’r gorau. 19Chwech o risiau oedd i’r orseddfainc; a phen crwn oedd i’r orseddfainc o’r tu ôl iddi, a chanllawiau o bob tu i’r eisteddle, a dau lew yn sefyll yn ymyl y canllawiau. 20A deuddeg o lewod oedd yn sefyll yno ar y chwe gris o’r ddeutu. Ni wnaethpwyd y fath yn un deyrnas.
21A holl lestri yfed y brenin Solomon oedd o aur; a holl lestri tŷ coedwig Libanus oedd aur pur: nid oedd arian ynddynt. Ni roddid dim bri arno yn nyddiau Solomon. 22Oherwydd llongau Tarsis oedd gan y brenin ar y môr, gyda llongau Hiram. Unwaith yn y tair blynedd y deuai llongau Tarsis, yn dwyn aur, ac arian, ac ifori, ac epaod, a pheunod. 23A’r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear, mewn cyfoeth a doethineb.
24A’r holl fyd oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon, i glywed ei ddoethineb ef, a roddasai Duw yn ei galon ef. 25A hwy a ddygasant bob un ei anrheg, llestri arian, a llestri aur, a gwisgoedd, ac arfau, a pheraroglau, meirch, a mulod, dogn bob blwyddyn.
26A Solomon a gasglodd gerbydau a marchogion: ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau, a deuddeng mil o farchogion; y rhai a osododd efe yn ninasoedd y cerbydau, a chyda’r brenin yn Jerwsalem. 27A’r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig, a’r cedrwydd a wnaeth efe fel sycamorwydd yn y doldir, o amldra.
28A meirch a ddygid i Solomon o’r Aifft, ac edafedd llin: marchnadyddion y brenin a gymerent yr edafedd llin dan bris. 29A cherbyd a ddeuai i fyny ac a âi allan o’r Aifft am chwe chan sicl o arian, a march am gant a deg a deugain: ac fel hyn i holl frenhinoedd yr Hethiaid, ac i frenhinoedd Syria, y dygent hwy feirch trwy eu llaw hwynt.
Dewis Presennol:
1 Brenhinoedd 10: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.