Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 11

11
1Ond y brenin Solomon a garodd lawer o wragedd dieithr, heblaw merch Pharo, Moabesau, Ammonesau, Edomesau, Sidonesau, a Hethesau; 2O’r cenhedloedd am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrth feibion Israel, Nac ewch i mewn atynt hwy, ac na ddeuant hwythau i mewn atoch chwi: diau y troant eich calonnau chwi ar ôl eu duwiau hwynt. Wrthynt hwy y glynodd Solomon mewn cariad. 3Ac yr oedd ganddo ef saith gant o wragedd, yn freninesau; a thri chant o ordderchwragedd: a’i wragedd a droesant ei galon ef. 4A phan heneiddiodd Solomon, ei wragedd a droesant ei galon ef ar ôl duwiau dieithr: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r Arglwydd ei Dduw, fel y buasai calon Dafydd ei dad ef. 5Canys Solomon a aeth ar ôl Astoreth duwies y Sidoniaid, ac ar ôl Milcom ffieidd-dra yr Ammoniaid. 6A Solomon a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd; ac ni chyflawnodd fyned ar ôl yr Arglwydd, fel Dafydd ei dad. 7Yna Solomon a adeiladodd uchelfa i Cemos, ffieidd-dra Moab, yn y bryn sydd ar gyfer Jerwsalem; ac i Moloch, ffieidd-dra meibion Ammon. 8Ac felly y gwnaeth efe i’w holl wragedd dieithr, y rhai a arogldarthasant ac a aberthasant i’w duwiau.
9A’r Arglwydd a ddigiodd wrth Solomon, oherwydd troi ei galon ef oddi wrth Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a ymddangosasai iddo ef ddwy waith, 10Ac a orchmynasai iddo am y peth hyn, nad elai efe ar ôl duwiau dieithr: ond ni chadwodd efe yr hyn a orchmynasai yr Arglwydd. 11Am hynny y dywedodd yr Arglwydd wrth Solomon, Oherwydd bod hyn ynot ti, ac na chedwaist fy nghyfamod a’m deddfau a orchmynnais i ti; gan rwygo y rhwygaf y frenhiniaeth oddi wrthyt ti, ac a’i rhoddaf hi i’th was di. 12Eto yn dy ddyddiau di ni wnaf hyn, er mwyn Dafydd dy dad: o law dy fab di y rhwygaf hi. 13Ond ni rwygaf yr holl frenhiniaeth; un llwyth a roddaf i’th fab di, er mwyn Dafydd fy ngwas, ac er mwyn Jerwsalem yr hon a etholais.
14A’r Arglwydd a gyfododd wrthwynebwr i Solomon, Hadad yr Edomiad: o had y brenin yn Edom yr oedd efe. 15Canys pan oedd Dafydd yn Edom, a Joab tywysog y filwriaeth yn myned i fyny i gladdu’r lladdedigion, wedi iddo daro pob gwryw yn Edom; 16(Canys chwe mis yr arhosodd Joab yno â holl Israel, nes difetha pob gwryw yn Edom:) 17Yr Hadad hwnnw a ffodd, a gwŷr Edom o weision ei dad gydag ef, i fyned i’r Aifft; a Hadad yn fachgen bychan eto. 18A hwy a gyfodasant o Midian, ac a ddaethant i Paran: ac a gymerasant wŷr gyda hwynt o Paran, ac a ddaethant i’r Aifft, at Pharo brenin yr Aifft; ac efe a roddes iddo ef dŷ, ac a ddywedodd am roddi bwyd iddo, ac a roddodd dir iddo. 19A Hadad a gafodd ffafr fawr yng ngolwg Pharo, ac efe a roddes iddo ef yn wraig chwaer ei wraig ei hun, chwaer Tahpenes y frenhines. 20A chwaer Tahpenes a ymddûg iddo ef Genubath ei fab; a Thahpenes a’i diddyfnodd ef yn nhŷ Pharo: a Genubath fu yn nhŷ Pharo ymysg meibion Pharo. 21A phan glybu Hadad yn yr Aifft, huno o Dafydd gyda’i dadau, a marw o Joab tywysog y filwriaeth, Hadad a ddywedodd wrth Pharo, Gollwng fi, fel yr elwyf i’m gwlad fy hun. 22A dywedodd Pharo wrtho ef, Ond pa beth sydd arnat ei eisiau gyda mi, pan wyt, wele, yn ceisio myned i’th wlad dy hun? Ac efe a ddywedodd, Dim; eithr gan ollwng gollwng fi.
23A Duw a gyfododd wrthwynebwr arall yn ei erbyn ef, Reson mab Eliada, yr hwn a ffoesai oddi wrth Hadadeser brenin Soba ei arglwydd: 24Ac efe a gynullodd wŷr ato, ac a aeth yn dywysog ar fyddin, pan laddodd Dafydd hwynt o Soba; a hwy a aethant i Damascus, ac a drigasant ynddi, ac a deyrnasasant yn Damascus. 25Ac yr oedd efe yn wrthwynebwr i Israel holl ddyddiau Solomon, heblaw y drwg a wnaeth Hadad: ac efe a ffieiddiodd Israel, ac a deyrnasodd ar Syria.
26A Jeroboam mab Nebat, Effratead o Sereda, (ac enw ei fam ef oedd Serfa, yr hon oedd wraig weddw,) gwas i Solomon, a ddyrchafodd hefyd ei law yn erbyn y brenin. 27Ac o achos hyn y dyrchafodd efe ei law yn erbyn y brenin: Solomon a adeiladodd Milo, ac a gaeodd adwyau dinas Dafydd ei dad. 28A’r gŵr Jeroboam oedd rymus o nerth: a Solomon a ganfu y llanc hwnnw yn medru gwneuthur gwaith, ac a’i gwnaeth ef yn oruchwyliwr ar holl faich tŷ Joseff. 29A’r pryd hwnnw, a Jeroboam yn myned allan o Jerwsalem, y proffwyd Ahia y Siloniad a’i cafodd ef ar y ffordd, ac efe oedd wedi ei wisgo mewn gwisg newydd, a hwynt ill dau oeddynt yn unig yn y maes. 30Ac Ahia a ymaflodd yn y wisg newydd oedd amdano ef, ac a’i rhwygodd yn ddeuddeg o ddarnau. 31Ac efe a ddywedodd wrth Jeroboam, Cymer i ti ddeg darn: canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, Wele fi yn rhwygo’r frenhiniaeth o law Solomon, a rhoddaf ddeg llwyth i ti: 32(Ond un llwyth fydd iddo ef, er mwyn fy ngwas Dafydd, ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas a etholais i o holl lwythau Israel:) 33Oblegid iddynt fy ngwrthod i, ac ymgrymu i Astoreth duwies y Sidoniaid, ac i Cemos duw y Moabiaid, ac i Milcom duw meibion Ammon, ac na rodiasant yn fy ffyrdd i, i wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, ac i wneuthur fy neddfau a’m barnedigaethau, fel Dafydd ei dad. 34Ond ni chymeraf yr holl frenhiniaeth o’i law ef: eithr gwnaf ef yn dywysog holl ddyddiau ei einioes, er mwyn Dafydd fy ngwas, yr hwn a ddewisais i, yr hwn a gadwodd fy ngorchmynion a’m deddfau i: 35Eithr cymeraf yr holl frenhiniaeth o law ei fab ef, a rhoddaf ohoni i ti ddeg llwyth. 36Ac i’w fab ef y rhoddaf un llwyth; fel y byddo goleuni i’m gwas Dafydd yn wastadol ger fy mron yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisais i mi i osod fy enw yno. 37A thi a gymeraf fi, fel y teyrnasech yn ôl yr hyn oll a ddymuno dy galon; a thi a fyddi frenin ar Israel. 38Ac os gwrandewi di ar yr hyn oll a orchmynnwyf i ti, a rhodio yn fy ffyrdd i, a gwneuthur yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg i, i gadw fy neddfau a’m gorchmynion, fel y gwnaeth Dafydd fy ngwas; yna mi a fyddaf gyda thi, ac a adeiladaf i ti dŷ sicr, fel yr adeiledais i Dafydd, a mi a roddaf Israel i ti. 39A mi a gystuddiaf had Dafydd oblegid hyn; eto nid yn dragywydd. 40Am hynny Solomon a geisiodd ladd Jeroboam. A Jeroboam a gyfododd, ac a ffodd i’r Aifft, at Sisac brenin yr Aifft; ac efe a fu yn yr Aifft hyd farwolaeth Solomon.
41A’r rhan arall o weithredoedd Solomon, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i ddoethineb ef, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr gweithredoedd Solomon? 42A’r dyddiau y teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem, ar holl Israel, oedd ddeugain mlynedd. 43A Solomon a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd ei dad; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Dewis Presennol:

1 Brenhinoedd 11: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda