Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 4

4
IV.
1 # 4:1 Tybir i ’r salm hon gael ei chyfansoddi ar ol i wrthryfel Abshalom gael ei ddarostwng. I’r blaengeiniad, ar yr offer tannau. Psalm o eiddo Dafydd.
2Pan alwyf gwrando fi, O Dduw fy nghyfiawnder,
Mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf;
Bydd raslawn wrthyf, a chlyw fy ngweddi!
3O feibion dynion, pa hyd (y bydd) fy ngogoniant i ’w gablu,
Yr hoffwch wegi, yr argeisiwch gelwydd? Selah.
4Ond gwybyddwch hynodi o Iehofah Ei #4:4 Dafydd.sanct Ef,
Erglywed o Iehofah wrth alw o honof Arno;
5Dirgrynwch, ac na phechwch,
Ymddiddennwch â’ch calon ar eich gwely, a #4:5 sef, â chablu ’r brenhin.thewch. Selah.
6Aberthwch ebyrth iawn-ddyladwy,
Ac ymhyderwch yn Iehofah.
7Llawer sy ’n dywedyd, “Oh na ddangosai un i ni ddaioni!”
Dyrcha arnom lewyrch Dy wyneb, O Iehofah!
8Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon i
Rhagor (hwnnw) y pryd y bô yd a gwin dyn yn ehelaeth.
9Mewn dïogelwch hollol y gorweddaf ac yr hunaf,
Canys Tydi, Iehofah, (ïe) Dy hun,
A wnei i mi drigo mewn hyderwch.

Dewis Presennol:

Psalmau 4: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Psalmau 4

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd