Psalmau 3
3
III.
1Psalm Dafydd, pan ffôdd efe rhag Abshalom.
Iehofah, mor aml yw fy ngelynion!
Llawer y rhai sy’n codi i ’m herbyn;
2Llawer y rhai sy’n dywedyd am fy enaid,
“Nid (oes) waredigaeth iddo yn Nuw.” #3:2Selah. Tebygol yw fod “Selah” yn arwydd y dylai ’r cantorion dewi, a ’r offer cerdd fyned ym mlaen heb y lleisiau, am ychydig.Selah.
3Ond Tydi, Iehofah, (wyt) Darian o’m hamgylch,
Fy Ngogoniant, a Derchafydd fy mhen:
4A fy llais ar Iehofah yr wyf yn llefain,
Ac Efe a ’m clyw o fynydd Ei sancteiddrwydd. Selah.
5Myfi a orweddwn ac a hunwn,
Deffrôwn, canys Iehofah a ’m cynhaliai;
6Nid ofnaf fyrddiynnau o bobl,
Y rhai o amgylch sy’n gwersyllu i ’m herbyn.
7Cyfod, Iehofah; gwared fi, Arglwydd;
Canys tarewit fy holl elynion ar y rudd,
Dannedd yr annuwiolion a chwilfriwit.
8Eiddo Iehofah (yw) gwaredigaeth;
Ar Dy bobl (y bo) Dy fendith! Selah.
Dewis Presennol:
Psalmau 3: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.