Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Marc 8

8
1Yn y dyddiau hyny trachefn, a’r dyrfa yn fawr, ac heb ganddynt yr hyn a fwyttaent, wedi galw Atto Ei ddisgyblion, 2dywedodd wrthynt, Tosturio yr wyf wrth y dyrfa, canys weithian tridiau sydd y maent yn aros gyda Mi, ac nid oes ganddynt yr hyn a fwyttant; 3ac os gollyngaf hwynt ymaith ar eu cythlwng i’w teiau, llewygent ar y ffordd; a rhai o honynt, o hirbell y daethant. 4Ac attebodd Ei ddisgyblion Iddo, O ba le y gall neb ddigoni y rhai hyn â thorthau mewn anialwch? 5A gofynodd iddynt, Pa sawl torth sydd genych? 6A hwy a ddywedasant, Saith. A gorchymynodd i’r dyrfa led-orwedd ar y ddaear; ac wedi cymmeryd y saith dorth a rhoddi diolch, torrodd hwynt, a rhoddodd i’w ddisgyblion, fel y gosodent ger eu bronnau: a gosodasant ger bron y dyrfa. 7Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain; ac wedi eu bendithio hwynt, dywedodd am eu rhoddi hwynt hefyd ger bron. 8A bwyttasant, a digonwyd hwynt: a chymmerasant i fynu yr hyn oedd dros ben o friw-fwyd, saith gawellaid. 9Ac yr oeddynt ynghylch pedair mil; 10a gollyngodd Efe hwynt ymaith. Ac wedi myned yn uniawn i’r cwch ynghyda’i ddisgyblion, aeth i barthau Dalmanwtha.
11Ac aeth y Pharisheaid allan, a dechreuasant ymholi ag Ef, gan geisio Ganddo arwydd o’r nef, gan Ei demtio. 12Ac wedi ocheneidio yn Ei yspryd, dywedodd, Paham y mae’r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? 13Yn wir y dywedaf wrthych, Ni roddir i’r genhedlaeth hon arwydd. Ac wedi eu gadael, gan fyned trachefn i’r cwch, aeth ymaith i’r lan arall.
14Ac anghofiasant gymmeryd torthau, ac nid oedd ganddynt oddieithr un dorth ynghyda hwynt yn y cwch. 15A gorchymynodd Efe iddynt, gan ddywedyd, Edrychwch; ymogelwch rhag surdoes y Pharisheaid a surdoes Herod. 16Ac ymresymmasant wrth eu gilydd, gan ddywedyd, Torthau nid oes genym. 17A chan wybod o’r Iesu, dywedodd wrthynt, Paham yr ymresymmwch am nad oes torthau genych? Onid ydych etto yn ystyried nac yn deall? Ai wedi ei chaledu y mae eich calon genych? 18A llygaid genych, oni welwch? A chlustiau genych, oni chlywch? Ac oni chofiwch? 19Pan y pum torth a dorrais i’r pum mil, pa sawl basgedaid yn llawn o friw-fwyd a gymmerasoch i fynu? 20Dywedasant Wrtho, Deuddeg. A phan y saith a dorrais i’r pedair mil, llonaid pa sawl cawell o friw-fwyd a gymmerasoch i fynu? 21A dywedasant Wrtho, Saith. A dywedodd wrthynt, Onid ydych etto yn deall?
22A daethant i Bethtsaida. A dygasant Atto ddyn dall; a deisyfiasant Arno ar Iddo gyffwrdd ag ef. 23Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, cymmerodd ef allan o’r pentref. Ac wedi poeri o Hono i’w lygaid ef, a rhoddi Ei ddwylaw arno, gofynodd iddo, A weli di ryw beth? 24Ac wedi edrych i fynu, dywedodd, Gwelaf ddynion, fel preniau y gwelaf hwynt, yn rhodio. 25Yna y rhoddodd Efe trachefn Ei ddwylaw ar ei lygaid ef; a gwelodd efe yn drwyadl, ac adferwyd ef, a gwelodd bob peth yn eglur. 26A danfonodd Efe ef i’w dŷ, gan ddywedyd, I’r pentref na ddos i mewn.
27Ac aeth yr Iesu a’i ddisgyblion allan i bentrefi Cesarea Philippi. Ac ar y ffordd gofynodd i’w ddisgyblion, Pwy y dywaid dynion Fy mod I? 28A hwy a lefarasant Wrtho, gan ddywedyd, Ioan Fedyddiwr; ac eraill, Elias; ac eraill, Un o’r prophwydi. 29Ac Efe a ofynodd iddynt, A chwychwi, pwy y dywedwch Fy mod I? Gan atteb, Petr a ddywedodd Wrtho, Tydi wyt y Crist. 30A dwrdiodd hwynt na ddywedent wrth neb am Dano. 31A dechreuodd eu dysgu hwynt, Y mae rhaid i Fab y Dyn oddef llawer, ac Ei wrthod gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, ac Ei ladd, ac ar ol tridiau adgyfodi. 32Ac yn eglur y llefarodd Efe y gair hwn. Ac wedi Ei gymmeryd Ef atto, Petr a ddechreuodd Ei ddwrdio Ef. 33Ac wedi troi o Hono, a chan weled Ei ddisgyblion, dwrdiodd Petr, a dywedodd, Dos yn fy ol I, Satan, canys nid synied pethau Duw yr wyt, eithr pethau dynion. 34Ac wedi galw y dyrfa Atto ynghyd a’i ddisgyblion, dywedodd wrthynt, Os yw neb yn ewyllysio dyfod ar Fy ol I, ymwaded ag ef ei hun, a chymmered i fynu ei groes, a chanlyned Fi; canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a’i cyll hi; 35a phwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos I a’r efengyl a’i ceidw hi: 36canys pa beth y llesa ddyn fod wedi ynnill y byd oll a chael coll o’i enaid? 37Canys pa beth a roddai dyn yn gyfnewid am ei enaid?
38Canys pwy bynnag fo ag arno gywilydd o Myfi a’m geiriau
Yn y genhedlaeth odinebus a phechadurus hon;
Mab y Dyn hefyd fydd ag Arno gywilydd o hono ef,
Pan ddaw yngogoniant Ei Dad ynghyda’r angylion sanctaidd.

Dewis Presennol:

S. Marc 8: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda