Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Marc 7

7
1Ac ymgasglodd Atto y Pharisheaid a rhai o’r ysgrifenyddion, 2wedi dyfod o Ierwshalem: ac wedi gweled rhai o’i ddisgyblion Ef mai â dwylaw cyffredin (hyny yw, heb eu golchi), 3y bwyttaent eu bwyd, (canys y Pharisheaid a’r holl Iuddewon, oni ddyfal-olchant eu dwylaw, ni fwyttant, 4gan ddal traddodiad yr hynafiaid: a phan o’r farchnad y deuant, onid ymolchant ni fwyttant; a llawer peth arall sydd a gymmerasant i’w cadw, golchiad cwppanau ac ystenau ac efyddynau;) 5gofynodd y Pharisheaid a’r ysgrifenyddion Iddo, Paham nad yw Dy ddisgyblion yn rhodio yn ol traddodiad yr hynafiaid, ond â dwylaw cyffredin y bwyttant eu bara? 6Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Da y prophwydodd Eshaiah am danoch chwi y rhagrithwyr, fel yr ysgrifenwyd,
“Y bobl hyn, â’u gwefusau yr anrhydeddant Fi,
Ond eu calon, pell yw Oddiwrthyf;
7Ond yn ofer yr addolant Fi,
Gan ddysgu yn athrawiaethau orchymynion dynion.”
8Gan adael heibio orchymyn Duw, dal yr ydych draddodiad dynion. 9A dywedodd wrthynt, Gwych y diystyrwch orchymyn Duw, fel mai eich traddodiad a gadwoch; 10canys Mosheh a ddywedodd, “Anrhydedda dy dad a’th fam,” ac, “Yr hwn a felldithio ei dad neu ei fam, â marwolaeth bydded iddo farw.” 11Ond chwychwi a ddywedwch, Os dywaid dyn wrth ei dad neu ei fam, Corban (yr hwn yw Rhodd) yw pa beth bynnag y buasai i ti gael lles trwyddo oddiwrthyf, 12nid ydych mwyach yn gadael iddo wneuthur dim byd i’w dad neu i’w fam, 13gan ddirymmu Gair Duw â’ch traddodiad, yr hwn a draddodasoch. A chyffelyb bethau o’r un fath, llawer o honynt yr ydych yn eu gwneuthur. 14Ac wedi galw Atto y dyrfa drachefn, dywedodd wrthynt, Gwrandewch Arnaf, bawb, a deallwch. 15Nid oes dim gan fyned o’r tu allan i ddyn i’r tu mewn iddo, a all ei halogi ef; eithr y pethau sy’n dyfod allan yw’r rhai sy’n halogi’r dyn. 17A phan aeth i mewn i dŷ oddiwrth y dyrfa, gofynodd Ei ddisgyblion Iddo am y ddammeg; 18a dywedodd wrthynt, A ydych chwithau hefyd mor ddiddeall? Oni ddeallwch am bob peth sy’n myned o’r tu allan i’r tu mewn i’r dyn, 19na all efe ei halogi ef, gan nad yw yn myned i mewn i’r galon, eithr i’r bol, ac i’r geudy y mae yn myned allan; gan lanhau o hono yr holl fwydydd? 20A dywedodd, Yr hyn y sy’n dyfod allan o ddyn, hyny sydd yn halogi’r dyn; 21canys oddi mewn, allan o galon dynion, y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, putteindra, 22lladradau, llofruddiaethau, tor-priodasau, cybydd-dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg-lygad, cableddau, balchder, ynfydrwydd; 23yr holl bethau drwg hyn, oddi mewn y deuant allan, ac halogant y dyn.
24Ac oddiyno, ar ol cyfodi, yr aeth ymaith i gyffiniau Tyrus a Tsidon; ac wedi myned i mewn i dŷ, ewyllysiodd na fyddai i neb wybod; 25ac ni allai fod yn guddiedig; eithr yn uniawn, wedi clywed am Dano gan wraig, merch fechan yr hon oedd ag yspryd aflan ynddi, wedi dyfod o honi syrthiodd wrth Ei draed Ef. 26Ac yr oedd y wraig yn Roeges, Surophenesiad o genedl; a gofynodd Iddo fwrw’r cythraul allan o’i merch. 27A dywedodd Efe wrthi, Gad yn gyntaf y digoner y plant, canys nid da yw cymmeryd bara’r plant a’i daflu i’r cenawon cwn. 28A hithau a attebodd ac a ddywedodd Wrtho, Felly, Arglwydd; ac y cenawon cwn, tan y bwrdd, a fwyttant o friwsion y plant. 29A dywedodd Efe wrthi, Am y gair hwn, dos ymaith; aeth y cythraul allan o’th ferch di. 30Ac wedi myned ymaith i’w thŷ, cafodd y plentyn wedi ei bwrw ar y gwely, a’r cythraul wedi myned allan.
31Ac wedi myned allan trachefn o gyffiniau Tyrus, daeth trwy Tsidon at fôr Galilea, trwy ganol cyffiniau Decapolis. 32A dygasant Atto ddyn byddar ac attal dywedyd arno; ac attolygasant Iddo ddodi arno Ei law. 33Ac wedi ei gymmeryd ef allan o’r dyrfa, o’r neilldu, rhoddodd Ei fysedd yn ei glustiau ef; ac, wedi poeri o Hono, cyffyrddodd â’i dafod ef; 34a chan edrych i fynu i’r nef, ocheneidiodd, 35a dywedodd wrtho, Ethpatach, yr hyn yw, Agorer di: ac agorwyd ei glustiau ef, gollyngwyd rhwym ei dafod, a llefarodd efe yn iawn. 36A gorchymynodd Efe iddynt na ddywedent wrth neb; ond po mwyaf y gorchymynodd Efe iddynt, mwy dros ben y cyhoeddasant; 37a bu aruthr dros ben ganddynt, gan ddywedyd, Da y gwnaeth Efe bob peth; a gwneud y mae i’r byddariaid glywed ac i’r mudion lefaru.

Dewis Presennol:

S. Marc 7: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda