Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Marc 6

6
1Ac aeth allan oddi yno a daeth i’w wlad Ei hun; a chanlynodd Ei ddisgyblion Ef. 2Ac wedi dyfod y Sabbath, dechreuodd ddysgu yn y sunagog; a chan lawer, wrth Ei glywed, y bu aruthr, gan ddywedyd, O ba le y mae gan Hwn y pethau hyn? a, Pa beth yw’r doethineb a roddwyd Iddo, ac y gwyrthiau o’r fath y sydd trwy ei ddwylaw Ef yn digwydd? 3Onid Hwn yw’r saer, mab Mair, a brawd Iago ac Ioses ac Iwdas a Shimon? Ac onid yw Ei chwiorydd Ef yma gyda ni? A thramgwyddwyd hwynt Ynddo. 4A dywedodd yr Iesu wrthynt, Nid yw prophwyd yn ddianrhydedd oddieithr yn ei wlad ei hun, ac ymhlith ei berthynasau ei hun, ac yn ei dŷ ei hun. 5Ac yno ni allai wneuthur dim gwyrthiau, oddieithr gan roi Ei ddwylaw ar ychydig gleifion, eu hiachau hwynt. 6A rhyfeddodd o herwydd eu hangrediniaeth; ac aeth i’r pentrefi oddi amgylch, gan ddysgu.
7A galwodd Atto y deuddeg, a dechreuodd eu danfon hwynt bob yn ddau a dau; a rhoddodd iddynt awdurdod ar yr ysprydion aflan; 8a gorchymynodd iddynt na chymmerent ddim i’r daith oddieithr ffon yn unig, ddim bara, ddim ysgrepan, ddim arian yn eu gwregys; 9eithr â sandalau am eu traed; ac, Nac ymwisgwch â dau gochl. 10A dywedodd wrthynt, Pa le bynnag yr eloch i mewn i dŷ, yno arhoswch hyd onid eloch allan oddi yno. 11A pha le bynnag ni’ch derbyn, ac ni chlywant chwi, wrth fyned allan oddi yno, ysgydwch ymaith y llwch y sydd tan eich traed, yn dystiolaeth iddynt. 12Ac wedi myned allan pregethasant ar edifarhau o honynt. 13A chythreuliaid lawer a fwriasant hwy allan; ac enneiniasant ag olew lawer o gleifion, ac a’u hiachasant.
14A chlywodd y brenhin Herod, canys amlwg oedd Ei enw, a dywedodd, Ioan, yr hwn oedd yn bedyddio, a gyfododd o feirw, ac o achos hyny y gweithia’r gwyrthiau ynddo. 15Ac eraill a ddywedasant, Elias yw. Ac eraill a ddywedasant, Prophwyd yw, fel un o’r prophwydi. 16Ac wedi clywed o Herod, dywedodd, Yr hwn y torrais i ei ben, Ioan, efe a gyfododd; 17canys efe, Herod, a ddanfonodd ac a ddaliodd Ioan, ac a rwymodd ef yngharchar, o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd, canys honno a briodasai efe. 18Canys dywedodd Ioan wrth Herod, Nid cyfreithlawn yw i ti fod a chenyt wraig dy frawd. 19Ac Herodias a ddaliodd wg iddo, ac a ewyllysiodd ei ladd ef; 20ac ni allai; canys Herod a ofnai Ioan, gan wybod ei fod yn ŵr cyfiawn a sanctaidd, ac a’i cadwai ef; ac wedi ei glywed ef, llawer yr ammeuai, a da oedd ganddo ei glywed ef. 21Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, pan fu i Herod, ar ei ddydd genedigaeth, wneuthur swpper i’w bennaethiaid, 22a’i filwriaid, ac i oreugwyr Galilea, ac wedi dyfod i mewn o’i merch hi, Herodias, ac wedi dawnsio o honi, boddhaodd Herod a’r rhai yn lled-orwedd gydag ef wrth y ford; a’r brenhin a ddywedodd wrth y llangces, 23Gofyn i mi pa beth bynnag a ewyllysi, a rhoddaf ef i ti; 24a thyngodd iddi, Pa beth bynnag a ofyni, rhoddaf ef i ti, hyd hanner fy nheyrnas. Ac wedi myned allan o honi, dywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynaf? 25A hi a ddywedodd, Pen Ioan y sy’n bedyddio. Ac wedi myned i mewn yn uniawn, ar frys, at y brenhin, gofynodd, gan ddywedyd, 26Ewyllysiaf am i ti, allan o law, roddi i mi, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr. Ac wedi myned yn dra athrist, y brenhin, o achos ei lwon a’r rhai yn lled-orwedd wrth y ford, nid ewyllysiai ei diystyru hi. 27Ac yn uniawn, gan ddanfon o’r brenhin lys-filwr, gorchymynodd ddwyn ei ben ef ar ddysgl. 28Ac wedi myned ymaith torrodd hwnw ei ben ef yn y carchar, a daeth â’i ben ef ar ddysgl, a rhoddodd ef i’r llangces, a’r llangces a’i rhoddodd i’w mam. 29Ac wedi clywed o’i ddisgyblion, daethant a chymmerasant i fynu ei gelain, a dodasant hi mewn bedd.
30Ac ymgasglodd yr apostolion at yr Iesu, a mynegasant Iddo yr holl bethau, cynnifer ag a wnaethant ac a ddysgasant. 31A dywedodd wrthynt, Deuwch chwi eich hunain o’r neilldu i le anial, a gorphwyswch ychydig, canys y rhai yn dyfod ac yn myned oeddynt lawer, ac hyd yn oed i fwytta nid oedd ganddynt amser cyfaddas: 32ac aethant ymaith yn y cwch i le anial o’r neilldu. 33A gwelid hwynt yn cilio, ac Ei adnabod Ef a fu gan laweroedd; ac o’r holl ddinasoedd y rhedasant yno ar draed, a rhagflaenasant hwynt. 34Ac wedi myned allan, gwelodd Efe dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt, canys yr oeddynt fel defaid heb ganddynt fugail; a dechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau. 35Ac weithian, yr awr wedi myned yn hwyr, wedi dyfod o’i ddisgyblion Atto, dywedasant, Anial yw’r lle, 36ac weithian yr awr sydd hwyr: gollwng hwynt ymaith, fel, wedi myned i’r wlad oddi amgylch ac i’r pentrefi, y prynont iddynt eu hunain beth i’w fwytta. 37Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwytta. A dywedasant Wrtho, Wedi myned ymaith, a brynwn ni werth deucan denar o fara, a’i roddi iddynt i’w fwytta? 38Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Pa sawl torth sydd genych? Ewch; edrychwch. A phan wyddent, dywedasant, Pump, a dau bysgodyn. 39A gorchymynodd iddynt am i bawb led-orwedd, yn fyrddeidiau a byrddeidiau, ar y glaswellt. 40A lled-orweddasant yn rhesau a rhesau, yn gannoedd ac yn ddeg a deugeiniau. 41Ac wedi cymmeryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, gan edrych i fynu tua’r nef, bendithiodd, a thorrodd y torthau: a rhoddodd i’r disgyblion, fel y gosodent ger eu bronnau hwynt: ac y ddau bysgodyn a rannodd Efe rhyngddynt oll. 42A bwyttasant, bawb o honynt, a digonwyd hwynt. 43A chodasant y briwfwyd, llonaid deuddeg basged, ac o’r pysgod. 44Ac yr oedd y rhai a fwyttasant y torthau, yn bum mil o wŷr.
45Ac yn uniawn y cymhellodd Efe Ei ddisgyblion i fyned i’r cwch, a myned o’r blaen i’r lan arall, i Bethtsaida, tra fyddai Efe yn gollwng ymaith y dyrfa. 46Ac wedi canu yn iach iddynt, aeth ymaith i’r mynydd i weddïo. 47A’r hwyr wedi dyfod, yr oedd y cwch ar ganol y môr, ac Efe ar Ei ben Ei hun ar y tir. 48A chan eu gweled hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo, canys yr oedd y gwynt yn eu herbyn, ynghylch y bedwaredd wylfa o’r nos daeth attynt, dan rodio ar y môr, ac ewyllysiai fyned heibio iddynt. 49A hwythau, gan Ei weled Ef ar y môr, yn rhodio, a dybiasant mai drychiolaeth ydoedd, a gwaeddasant, canys yr oll o honynt a’i gwelsant Ef, ac a gythryflwyd. 50Ac Efe yn uniawn a lefarodd â hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Byddwch hyderus, Myfi yw: Nac ofnwch. 51Ac esgynodd attynt i’r cwch; a thawelodd y gwynt; ac yn ddirfawr y synnasant ynddynt eu hunain, canys ni ddeallent am y torthau, 52ac yr oedd eu calon wedi caledu.
53Ac wedi myned trosodd o honynt, daethant i dir, i Gennesaret, ac angorasant. 54Ac wedi dyfod o honynt allan o’r cwch, 55yn uniawn, gan Ei adnabod Ef, y rhedasant o amgylch yr holl oror hwnw, a dechreuasant ddwyn oddi amgylch, ar eu gorwedd-bethau, y rhai drwg eu hwyl, i ba le y clywent Ei fod Ef. 56Ac i ba le bynnag yr elai Efe i mewn, i bentrefi, neu ddinas, neu wlad, yn y marchnadoedd y gosodent y cleifion, ac attolygent Iddo am gyffwrdd o honynt ag hyd yn oed ymyl Ei gochl Ef: a chynnifer ag a gyffyrddasant ag Ef a iachawyd.

Dewis Presennol:

S. Marc 6: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda