S. Marc 13
13
1Ac wrth fyned o Hono allan o’r deml, dywedodd un o’i ddisgyblion Wrtho, Athraw, wele, pa ryw feini, a pha ryw adeiladau sydd yma. 2A’r Iesu a ddywedodd wrtho, A weli di yr adeiladau mawrion hyn? Ni adewir yma, er dim, faen ar faen, yr hwn ni ddattodir.
3Ac wrth eistedd o Hono ar fynydd yr Olewydd cyferbyn â’r deml, gofynodd Petr ac Iago ac Ioan ac Andreas Iddo o’r neilldu, 4Dywaid wrthym pa bryd y bydd y pethau hyn, a pha beth fydd yr arwydd pan fydd y pethau hyn ar fedr eu cyflawni. 5A’r Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Edrychwch na fo i neb eich arwain chwi ar gyfeiliorn. 6Llawer a ddeuant yn Fy enw I, gan ddywedyd, Myfi yw Efe; a llaweroedd a arweiniant hwy ar gyfeiliorn. 7A phan glywoch am ryfeloedd, a son am ryfeloedd, na chyffroer chwi: y mae rhaid iddynt ddigwydd; eithr nid etto y mae’r diwedd; 8canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: bydd daeargrynfaau mewn mannau: bydd newynau: dechreuad gwewyr yw y pethau hyn.
9Ond edrychwch chwi attoch eich hunain, canys traddodant chwi i’r cynghorau; ac yn y sunagogau y’ch baeddir; a cher bron rhaglawiaid a brenhinoedd y sefwch o’m hachos I, yn dystiolaeth iddynt. 10Ac i’r holl genhedloedd y mae rhaid yn gyntaf i’r Efengyl gael ei phregethu. 11A phan ddygant chwi, gan eich traddodi, na rag-bryderwch pa beth a lefaroch; eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hyny llefarwch, canys nid chwychwi sy’n llefaru, eithr yr Yspryd Glân. 12A thraddoda brawd frawd i farwolaeth, a thad blentyn; a chyfyd plant yn erbyn rhieni, a pharant eu marwolaethu; 13a byddwch gâs gan bawb o achos Fy enw I; ond y neb a barhao hyd y diwedd, hwnw fydd gadwedig.
14A phan weloch “ffieidd-dra yr anghyfanedd-dra” yn sefyll lle na ddylai (y neb sy’n darllen, dealled), yna bydded i’r rhai sydd yn Iwdea, ffoi i’r mynyddoedd; 15a’r hwn ar ben y tŷ, na ddisgyned, ac nac aed i gymmeryd dim o’i dŷ; 16a’r hwn yn y maes, na throed yn ei ol i gymmeryd ei gochl; 17a gwae y rhai beichiog, a’r rhai yn rhoi bronnau yn y dyddiau hyny; 18a gweddïwch na ddigwyddo yn y gauaf; canys bydd y dyddiau hyny yn orthrymder, 19y fath na fu’r cyfryw o ddechreu y greadigaeth a greodd Duw, hyd yn hyn, 20ac na fydd ddim: ac oddieithr i’r Arglwydd dalfyru’r dyddiau, ni chadwesid un cnawd; eithr o achos yr etholedigion a etholodd, talfyrodd y dyddiau. 21Ac yr amser hwnw, os wrthych chwi y dywaid neb, Wele, llyma y Crist, 22neu, Wele, accw, na chredwch, canys cyfyd gau-gristiau a gau-brophwydi, a rhoddant arwyddion a rhyfeddodau, i arwain ar gyfeiliorn, o bai bosibl, yr etholedigion; 23ond chwychwi, edrychwch; wele, rhagddywedais i chwi bob peth.
24Eithr yn y dyddiau hyny, wedi’r gorthrymder hwnw, yr haul a dywyllir, 25a’r lloer ni rydd ei goleuni, a’r sêr fyddant yn syrthio o’r nef; a’r nerthoedd y sydd yn y nefoedd a siglir; 26ac yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cymmylau, ynghyda gallu mawr a gogoniant; 27ac yna y denfyn Efe yr angylion, ac a gydgasgl Atto Ei etholedigion o’r pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef.
28Ond oddiwrth y ffigysbren dysgwch ei ddammeg. Pan fo ei gangen ef wedi myned yn dyner, ac yn rhoddi allan ei ddail, gwyddoch mai agos yw’r haf; 29felly chwithau hefyd, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch mai agos yw, wrth y drysau. 30Yn wir y dywedaf wrthych, Nid aiff y genhedlaeth hon ddim heibio hyd oni bydd i’r pethau hyn oll ddigwydd. 31Y nef a’r ddaear a ant heibio, ond y geiriau mau Fi nid ant heibio ddim. 32Ond am y y dydd hwnw, neu yr awr, nid oes neb a ŵyr, nac yr angylion yn y nef, nac y Mab, na neb oddieithr y Tad. 33Edrychwch, gwyliwch, a gweddïwch; canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser. 34Fel gŵr yn ymdaith mewn gwlad ddieithr, wedi gadael ei dŷ, a rhoddi i’w weision awdurdod, i bob un ei waith, ac i’r drysawr y gorchymynodd wylied. 35Gwyliwch, gan hyny, canys ni wyddoch pa bryd y mae arglwydd y tŷ yn dyfod, ai yn yr hwyr, ai hanner nos, neu ar ganiad y ceiliog, neu’r boreuddydd; 36rhag wrth ddyfod o hono yn ddisymmwth, y caffo chwi yn cysgu. 37A’r hyn yr wyf yn ei ddywedyd wrthych chwi, wrth bawb yr wyf yn ei ddywedyd, “Gwyliwch.”
Dewis Presennol:
S. Marc 13: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.