Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Marc 12

12
1A dechreuodd lefaru wrthynt mewn damhegion. Gwinllan a blannodd dyn, a rhoddodd o’i hamgylch gae; a chloddiodd le i’r gwinwryf, ac adeiladodd dŵr, a gosododd hi allan i lafurwyr, ac aeth i wlad ddieithr. 2A danfonodd at y llafurwyr, yn yr amser, was i dderbyn gan y llafurwyr o ffrwythau’r winllan. 3Ac wedi ei ddal, baeddasant ef, a gyrrasant ef ymaith yn waglaw. 4A danfonodd trachefn attynt was arall; a hwnw, yr archollasant ei ben iddo, ac a’i dianrhydeddasant. 5Ac un arall a ddanfonodd efe; a hwnw a laddasant; a llawer eraill, gan faeddu o honynt rai, a lladd y lleill. 6Etto yr oedd ganddo un, mab anwyl: danfonodd hwnw hefyd, yn ddiweddaf, attynt, gan ddywedyd, Parchant fy mab; ond hwythau, y llafurwyr, a ddywedasant i’w gilydd, Hwn yw’r etifedd. 7Deuwch; lladdwn ef, ac eiddo ni fydd yr etifeddiaeth; 8ac wedi ei ddal, lladdasant ef, a bwriasant ef allan o’r winllan. 9Pa beth, gan hyny, a wna arglwydd y winllan? Daw a difetha y llafurwyr, a rhydd y winllan at eraill. 10Oni ddarllenasoch yr ysgrythyr hon,
“Y maen yr hwn a wrthododd yr adeiladwyr,
Efe a aeth yn ben i’r gongl!
11Oddiwrth Iehofah y bu hyn,
Ac y mae’n rhyfedd yn ein llygaid ni.”
12A cheisiasant Ei ddal Ef, ac ofnasant y dyrfa; canys gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd Efe y ddammeg; a chan Ei adael yr aethant ymaith.
13A danfonasant Atto rai o’r Pharisheaid ac o’r Herodianiaid, fel y dalient Ef mewn ymadrodd. 14Ac wedi dyfod, dywedasant Wrtho, Athraw, gwyddom mai geirwir wyt, ac na waeth Genyt am neb, canys nid edrychi ar wyneb dynion, eithr mewn gwirionedd yr wyt yn dysgu ffordd Duw; Ai cyfreithlawn rhoi teyrnged i Cesar, ai nad yw? 15A roddwn, ai na roddwn hi? Ac Efe, gan wybod eu rhagrith, a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch Fi? 16Dygwch i Mi ddenar, fel y gwelwyf hi. A hwy a’i dygasant. A dywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw’r ddelw hon, ac yr argraph? A hwy a ddywedasant Wrtho, Eiddo Cesar. 17A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Pethau Cesar telwch i Cesar, a phethau Duw i Dduw. A synnasant yn ddirfawr Wrtho.
18A daeth y Tsadwceaid Atto, y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad; a gofynasant Iddo, gan ddywedyd, 19Athraw, Mosheh a ’sgrifenodd i ni, O bydd brawd neb farw, a gadu gwraig, ac heb adu plant, am gymmeryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi had i’w frawd o honi. 20Saith o frodyr oedd; a’r cyntaf a gymmerth wraig, ac wrth farw ni adawodd had. 21A’r ail a’i cymmerth hi, ac a fu farw heb adu had: 22a’r trydydd yr un modd: ac y saith ni adawsant had. Ac yn niwedd y cwbl, y wraig hefyd a fu farw. 23Yn yr adgyfodiad, i ba un o honynt y bydd hi yn wraig, canys y saith a’i cawsant hi yn wraig? 24Dywedodd yr Iesu wrthynt, Onid o achos hyn yr ydych yn cyfeiliorni, am na wyddoch yr ysgrythyrau na gallu Duw? 25Canys pan o feirw yr adgyfodant, ni wreiccant ac ni wrant, eithr y maent fel angylion yn y nefoedd. 26Ac am y meirw, yr adgyfodir hwynt, oni ddarllenasoch yn llyfr Mosheh, yn “Y Berth,” y modd y llefarodd Duw wrtho, gan ddywedyd, “Myfi wyf Dduw Abraham, a Duw Itsaac, a Duw Iacob?” 27Nid yw Efe Dduw’r meirw, eithr y rhai byw. Mawr-gyfeiliorni yr ydych.
28A chan ddyfod o un o’r ysgrifenyddion Atto, wedi clywed hwynt yn ymddadleu, a chan wybod mai da yr attebodd Efe iddynt, gofynodd Iddo, Pa un yw’r gorchymyn cyntaf o’r cwbl? 29Attebodd yr Iesu, Y cyntaf yw, “Clyw, Israel; Iehofah ein Duw, un Iehofah yw; 30a cheri Iehofah dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth.” 31Yr ail yw hwn, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun.” Gorchymyn arall mwy na’r rhai hyn nid oes. 32A dywedodd yr ysgrifenydd Wrtho, Da, Athraw, mewn gwirionedd y dywedaist mai un yw, 33ac nad oes arall ond Efe: ac Ei garu Ef â’r holl galon, ac â’r holl ddeall ac â’r holl nerth; a charu ei gymmydog fel ef ei hun, llawer iawn mwy yw na’r holl losgoffrymmau ac aberthau. 34A’r Iesu, gan weled mai yn synhwyrol yr attebodd efe, a ddywedodd wrtho, Nid pell yr wyt oddiwrth deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb, ddim mwyach, ymofyn ag Ef.
35A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, pan yn dysgu yn y deml, Pa fodd y dywaid yr ysgrifenyddion fod Crist yn fab Dafydd? 36Dafydd ei hun a ddywaid trwy yr Yspryd Glân,
“Dywedodd Iehofah wrth fy Arglwydd, Eistedd ar Fy neheulaw,
Hyd oni osodwyf Dy elynion yn faingc i’th draed.”
37Dafydd a’i geilw “yn Arglwydd;” a pha sut mai Mab iddo yw? A’r dyrfa fawr a’i clywodd Ef gydag hyfrydwch.
38Ac yn Ei ddysgad dywedodd, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a garant rodio mewn gwisgoedd llaesion, 39a chyfarchiadau yn y marchnadoedd, a phrif-gadeiriau yn y sunagogau, a’r prif-ledorweddleoedd yn y gwleddoedd; 40y rhai sy’n llwyr-fwytta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir-weddïo; y rhai hyn a dderbyniant gondemniad gorlawnach.
41Ac wrth eistedd gyferbyn â’r drysorfa, edrychai pa fodd yr oedd y dyrfa yn bwrw arian i’r drysorfa, a llawer o oludogion a fwriasant lawer; 42ac wedi dyfod o ryw weddw dlawd, bwriodd ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling. 43Ac wedi galw ei ddisgyblion Atto, dywedodd wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Y weddw dlawd hon a fwriodd fwy na’r holl rai a fwriasant i’r drysorfa, 44canys pawb o honynt hwy, o’u gorlawnder y bwriasant, ond hyhi o’i heisieu a fwriodd gymmaint ag oedd ganddi, ei holl fywyd.

Dewis Presennol:

S. Marc 12: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda