Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Marc 11

11
1A phan nesaent i Ierwshalem, i Bethphage a Bethania, at fynydd yr Olewydd, danfonodd ddau o’i ddisgyblion, 2a dywedodd wrthynt, Ewch ymaith i’r pentref y sydd gyferbyn â chwi; ac yn uniawn wrth fyned i mewn cewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid oes neb o ddynion etto wedi eistedd; gollyngwch ef, a deuwch ag ef yma. 3Ac os bydd i neb ddywedyd wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Yr Arglwydd sydd a rhaid wrtho: ac yn uniawn y denfyn efe ef, yn ol, yma. 4Ac aethant ymaith, a chawsant ebol wedi ei rwymo wrth y drws, oddi allan, yn y groesffordd, a gollyngasant ef. 5A rhai o’r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Pa beth a wnewch yn gollwng yr ebol? 6A hwy a ddywedasant wrthynt fel y dywedasai’r Iesu; a gadawsant iddynt fyned ymaith. 7A daethant a’r ebol at yr Iesu, a bwriasant eu cochlau arno; ac eisteddodd Efe arno. 8A llawer a danasant eu cochlau ar y ffordd; ac eraill gangau, y rhai a dorrasant, o’r wlad. 9A’r rhai yn myned o’r blaen, a’r rhai yn canlyn, a waeddasant,
Hosanna! Bendigedig yw’r Hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd;
10Bendigedig yw’r deyrnas sy’n dyfod, teyrnas ein tad Dafydd!
Hosanna yn y goruchafion.
11Ac aeth i mewn i Ierwshalem, i’r deml; ac wedi edrych ar bob peth o’i amgylch, a’r awr weithian yn hwyr, aeth allan i Bethania ynghyda’r deuddeg.
12A thrannoeth, wedi myned allan o honynt o Bethania, chwant bwyd fu Arno. 13Ac wedi gweled ffigysbren o hirbell, a dail arno, daeth i edrych a gaffai ysgatfydd rywbeth arno: ac wedi dyfod atto, ni chafodd ddim oddieithr dail, canys nid oedd amser ffigys. 14A chan atteb, dywedodd wrtho, Ddim mwy, oddi arnat ti, am byth, na fydded i neb fwytta ffrwyth; a chlywed yr oedd Ei ddisgyblion.
15A daethant i Ierwshalem; ac wedi myned i mewn i’r deml, dechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac y rhai a brynent yn y deml; a byrddau y newidwyr arian, a chadeiriau y rhai yn gwerthu’r colommenod, a ddymchwelodd Efe; 16ac ni adawai i neb ddwyn llestr trwy’r deml: 17a dysgu yr oedd Efe, a dywedodd wrthynt, Onid ysgrifenwyd,
“Fy nhŷ I, tŷ gweddi y gelwir ef i’r holl genhedloedd;”
18a chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. A chlywodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion; a cheisiasant pa fodd y difethent Ef, canys ofnent Ef, canys bu aruthr gan yr holl dyrfa o herwydd Ei ddysgad.
19A phan yr oedd yr hwyr wedi dyfod, aeth allan o’r ddinas.
20Ac wrth fyned heibio yn y bore, gwelsant y ffigysbren wedi crino o’r gwraidd: 21ac wedi adgofio o hono, Petr a ddywedodd Wrtho, Rabbi, wele, y ffigysbren yr hwn a felldithiaist, a grinodd. 22A chan atteb, yr Iesu y ddywed-wedodd wythynt, Bydded genych ffydd yn Nuw. 23Yn wir y dywedaf wrthych, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Cymmerer di i fynu a’th fwrw i’r môr, ac nad ammeuo yn ei galon, eithr a gredo y bydd i’r hyn a ddywaid efe ddigwydd, bydd iddo. 24O achos hyn y dywedaf wrthych, Pob peth, cynnifer ag y gweddïwch ac y gofynwch am dano, credwch y derbyniasoch, a byddant i chwi. 25A phan safoch dan weddïo, maddeuwch o bydd genych ddim yn erbyn neb, fel y bo i’ch Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd, faddeu i chwi eich camweddau.
27A daethant drachefn i Ierwshalem. Ac yn y deml, ac Efe yn rhodio yno, daeth Atto yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid, 28a dywedasant Wrtho, Trwy ba awdurdod y mae’r pethau hyn a wnai? Neu, pwy a roddes i Ti yr awdurdod hon fel mai’r pethau hyn a wnait? 29A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Gofynaf i chwi un gair; ac attebwch Fi, a dywedaf wrthych, Trwy ba awdurdod mai’r pethau hyn a wnaf? 30Bedydd Ioan, ai o’r nef yr oedd, neu o ddynion? 31Attebwch Fi. Ac ymresymmasant â’u gilydd gan ddywedyd, Os dywedwn O’r nef, dywaid Efe wrthym, Paham, gan hyny, na chredasoch ef? 32Eithr os dywedwn O ddynion, ofnent y bobl, canys pawb a gyfrifent Ioan mai prophwyd yn wir ydoedd. 33A chan atteb i’r Iesu, dywedasant, Nis gwyddom. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid wyf Finnau chwaith yn dywedyd i chwi “Trwy ba awdurdod” y pethau hyn yr wyf yn eu gwneuthur.

Dewis Presennol:

S. Marc 11: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda