Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Matthew 28

28
1A hi yn hwyr ar y Sabbath ac yn dyddhau i’r dydd cyntaf o’r wythnos, daeth Mair Magdalen a’r Fair arall, i edrych y bedd. 2Ac, wele, daear-gryn mawr a fu; canys angel yr Arglwydd, wedi dyfod i lawr o’r nef, a ddaeth ac a dreiglodd ymaith y maen, ac a eisteddodd arno; 3yr oedd ei wyneb-pryd ef fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira. 4A rhag ei ofn ef yr ysgydwyd y ceidwaid, ac yr aethant fel meirw. 5A chan atteb, yr angel a ddywedodd wrth y gwragedd, nac ofnwch chwi, canys gwn mai yr Iesu, yr Hwn a groes-hoeliwyd, yr ydych yn Ei geisio. 6Nid yw Efe yma; canys cyfododd, fel y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd. 7Ac wedi myned ar ffrwst, dywedwch wrth Ei ddisgyblion, Cyfododd o feirw; ac wele, myned o’ch blaen y mae i Galilea: yno y gwelwch Ef. 8Wele, dywedais wrthych. Ac wedi myned ar ffrwst oddi wrth y bedd, gydag ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion. 9Ac wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy, wedi dyfod Atto, a ymafaelasant yn Ei draed Ef, ac ymochreiniasant Iddo. 10Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch; ewch, mynegwch i Fy mrodyr i fyned ymaith i Galilea; ac yno y’m gwelant I.
11Ac wrth fyned o honynt, rhai o’r wyliadwriaeth, wedi dyfod i’r ddinas, a fynegasant i’r archoffeiriaid yr holl bethau a ddigwyddasent. 12Ac wedi ymgasglu o honynt ynghyda’r henuriaid, a chymmeryd cynghor, arian lawer a roisant i’r milwyr, 13gan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion Ef, wedi dyfod liw nos, a’i lladrattasant Ef, a nyni yn cysgu: 14ac os clywir hyn gan y rhaglaw, nyni a’i perswadiwn ef, a chwychwi a wnawn yn ddiofal. 15A hwy, wedi cymmeryd yr arian, a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt; a thanwyd y gair hwn ymhlith yr Iuddewon hyd heddyw.
16A’r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i’r mynydd lle’r ordeiniodd yr Iesu iddynt. 17A phan welsant Ef, addolasant Ef; ond rhai a amheuasant. 18Ac wedi dyfod attynt, yr Iesu a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. 19Gan fyned, gan hyny, gwnewch yn ddisgyblion yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwynt i enw’r Tad a’r Mab a’r Yspryd Glân, gan eu dysgu i gadw pob peth o’r a orchymynais i chwi. Ac wele, Myfi, gyda chwi yr wyf bob amser hyd ddiwedd y byd.

Dewis Presennol:

S. Matthew 28: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda