Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Matthew 27

27
1A’r bore wedi dyfod, cyngor a gymmerodd yr holl archoffeiriaid ac henuriaid y bobl yn erbyn yr Iesu, i’w roddi Ef i farwolaeth; 2ac wedi Ei rwymo Ef, dygasant Ef ymaith, a thraddodasant Ef i Pontius Pilat y rhaglaw.
3Yna wedi gweled o Iwdas yr hwn a’i traddododd, y condemniwyd Ef gan edifarhau y dug drachefn y deg ar hugain arian at yr archoffeiriaid â’r henuriaid, 4gan ddywedyd, Pechais gan draddodi gwaed diniweid. A hwy a ddywedasant, Pa beth yw hyny i ni? 5Tydi a edrych. Ac wedi taflu yr arian i’r cyssegr, ciliodd ymaith; ac wedi myned ymaith, ymgrogodd. 6A’r archoffeiriaid, wedi cymmeryd yr arian, a ddywedasant, nid yw gyfreithlon eu bwrw i’r drysorfa, gan mai gwerth gwaed yw. 7A chyngor a gymmerasant, a phrynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa i ddieithriaid; 8o herwydd paham y galwyd y maes hwnw “Maes gwaed,” hyd heddyw. 9Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Ieremiah y prophwyd,
“A chymmerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig,
Yr hwn a brisiasant oddi wrth feibion Israel;
10A rhoisant hwynt am faes y crochenydd,
Yn ol yr hyn a ordeiniodd yr Arglwydd i mi.”
11A’r Iesu a safodd ger bron y rhaglaw, a gofynodd y rhaglaw Iddo, gan ddywedyd, Ai Tydi wyt brenhin yr Iuddewon? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedi. 12Ac wrth Ei gyhuddo gan yr Archoffeiriaid a’r henuriaid, ddim atteb o gwbl ni roes Efe. 13Yna y dywedodd Pilat Wrtho, Oni chlywi pa faint o bethau a dystiolaethant yn Dy erbyn? 14Ac nid attebodd iddo ef, nid i gymmaint ag un gair, fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn ddirfawr. 15Ac ar yr wyl honno yr arferai y rhaglaw ollwng yn rhydd i’r dyrfa un carcharor, yr hwn a ewyllysient. 16Ac yr oedd ganddynt yr amser hwn garcharor hynod a elwid Barabba. 17Gan hyny, wedi ymgasglu o honynt ynghyd, gofynodd Pilat iddynt, Pwy a ewyllysiwch ei ollwng yn rhydd genyf i chwi? 18Barabba; neu yr Iesu, yr hwn a elwir Crist? Canys gwyddai mai o genfigen y traddodasant Ef. 19Ac efe yn eistedd ar y frawd-faingc, danfonodd ei wraig atto, gan ddywedyd, Na fydded i ti ddim a wnelych â’r cyfiawn hwnw, canys llawer a ddioddefais heddyw mewn breuddwyd o’i achos Ef. 20A’r archoffeiriaid a’r henuriaid a berswadiasant y torfeydd i ofyn Barabba, ac i ddifetha’r Iesu. 21A chan atteb, y rhaglaw a ddywedodd wrthynt, Pa un o’r ddau a ewyllysiwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? A hwy a ddywedasant, Barabba. 22Dywedodd Pilat wrthynt, Pa beth, gan hyny, a wnaf i’r Iesu, yr Hwn a elwir Crist? 23Dywedasant oll, Croes-hoelier Ef. Ac efe a ddywedodd, Canys pa ddrwg a wnaeth Efe? A hwy a ddirfawr-waeddasant, gan ddywedyd, Croes-hoelier Ef. 24A chan weled o Pilat nad oedd efe yn tycio ddim, eithr i radd mwy fod y cynnwrf yn myned, gan gymmeryd dwfr y golchodd ei ddwylaw ger bron y dyrfa, gan ddywedyd, dieuog wyf oddiwrth waed y Cyfiawn hwn; bydded i chwi edrych. 25A chan atteb, yr holl bobl a ddywedodd, Ei waed, arnom ni ac ar ein plant y bo. 26Yna y gollyngodd efe yn rhydd iddynt Barabba; ac yr Iesu, ar ol Ei fflangellu Ef, a draddododd efe i’w groes-hoelio.
27Yna milwyr y rhaglaw, wedi cymmeryd yr Iesu i’r palas, a gynnullasant Atto yr holl fyddin; 28ac wedi Ei ddiosg, rhoisant am Dano fantell o ysgarlad: 29ac wedi plethu coron o ddrain, gosodasant hi ar Ei ben, a chorsen yn Ei law ddehau; a chan benlinio o’i flaen Ef, gwatwarasant Ef, gan ddywedyd, Henffych well, Brenhin yr Iuddewon! 30Ac wedi poeri Arno, cymmerasant y gorsen ac a’i tarawsant ar Ei ben. 31A phan gwatwarasant Ef, diosgasant Ef o’r fantell, a rhoisant am Dano Ei ddillad Ei hun, a dygasant Ef ymaith i’w groes-hoelio Ef.
32Ac wrth ddyfod allan cawsant ddyn o Cyrene, a’i enw Shimon; 33hwn a gymmellasant i ddwyn Ei groes Ef. Ac wedi dyfod i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir Lle’r benglog, 34rhoisant Iddo i’w yfed win yn gymmysgedig â bustl; 35ac wedi ei brofi o Hono nid ewyllysiai yfed. 36Ac wedi Ei groes-hoelio Ef, rhannasant Ei ddillad, gan fwrw coelbren; a chan eistedd, gwyliasant Ef yno. 37A gosodasant uwch Ei ben Ei gyhuddiad yn ysgrifenedig,
Hwn yw Iesu Brenhin yr Iuddewon.
38Yna y croes-hoeliwyd gydag Ef ddau leidr, un ar y llaw ddehau ac un ar yr aswy. 39A’r rhai yn myned heibio a’i cablasant Ef, gan siglo eu pennau, a dywedyd, 40Yr hwn wyt yn dinystrio’r deml, ac mewn tridiau y’i hadeiledi, gwared Dy Hun: os Mab Duw wyt, tyr’d i lawr oddi ar y groes. 41Mewn cyffelyb fodd yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar ynghyda’r ysgrifenyddion a’r henuriaid, a 42ddywedasant, Eraill a waredodd Efe, Ef Ei hun ni all Ei waredu. Brenhin Israel yw! Deued i lawr yn awr oddi ar y groes, a chredwn Ynddo. 43Ymddiriedodd yn Nuw. Gwareded Efe Ef yr awr hon, os ewyllysia Ef; canys dywedodd Mab Duw wyf. 44Ac yr un peth y lladron hefyd a groes-hoeliwyd gydag Ef, a edliwiasant Iddo.
45Ac o’r chweched awr tywyllwch fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr: 46ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef fawr, gan ddywedyd,
Eli, Eli, lama shabacthani?
47hyny yw, Fy Nuw, Fy Nuw, paham y’m gadewaist? A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Ar Elias y geilw hwn. 48Ac yn uniawn gan redeg o un o honynt, ac wedi cymmeryd ysbwng, a’i llenwi o finegr a’i rhoddi am gorsen, diododd Ef: 49ond y lleill a ddywedasant, Gad Iddo; edrychwn a ddaw Elias i’w waredu Ef. 50A’r Iesu, wedi gwaeddi etto â llef fawr, a ymadawodd â’r yspryd. 51Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fynu hyd i wared; a’r ddaear a ysgydwyd; a’r creigiau a rwygwyd; 52a’r beddau a agorwyd; a llawer o gyrph y saint oedd yn huno, 53a gyfodasant, ac wedi dyfod allan o’r beddau ar ol Ei gyfodiad Ef, aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd, ac ymddangosasant i lawer. 54A’r canwriad, a’r rhai ynghydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaear-gryn a’r pethau a ddigwyddasant, a ofnasant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw oedd Hwn. 55Ac yr oedd yno wragedd lawer yn edrych, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo; 56ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago, ac Iose, a mam meibion Zebedëus.
57A’r hwyr wedi dyfod, daeth gŵr goludog o Arimathea, a’i enw Ioseph, yr hwn oedd yntau hefyd yn ddisgybl i’r Iesu. 58Hwn, wedi myned at Pilat, a ofynodd gorph yr Iesu. 59Yna Pilat a orchymynodd ei roddi. Ac wedi cymmeryd y corph, 60Ioseph a’i hamdôdd â lliain glân, a gosododd Ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorrasai efe yn y graig; ac wedi treiglo maen mawr at ddrws y bedd, aeth ymaith. 61Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a’r Mair arall, yn eu heistedd gyferbyn â’r bedd.
62A thrannoeth, yr hwn sydd ar ol y Darpariad, yr ymgynhullodd yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid at Pilat, 63gan ddywedyd, Arglwydd, cofiwn y bu i’r arweinydd ar gyfeiliorn hwnw ddywedyd, tra etto yn fyw, Wedi tridiau cyfodi yr wyf. 64Gorchymyn, gan hyny, wneud y bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag ysgatfydd, wedi dyfod o’i ddisgyblion, iddynt Ei ladratta Ef, a dywedyd wrth y bobl, Cyfododd o feirw; a bydd y cyfeiliornad diweddaf yn waeth na’r cyntaf. 65Dywedodd Pilat wrthynt, Y mae genych wyliadwriaeth: ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medrwch. 66A hwy, wedi myned, a wnaethant y bedd yn ddiogel, gan selio’r maen, ynghyda’r wyliadwriaeth.

Dewis Presennol:

S. Matthew 27: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda