S. Luc 20
20
1A bu ar un o’r dyddiau hyn, ac Efe yn dysgu’r bobl yn y deml, ac yn efengylu, daeth Arno yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion ynghyda’r henuriaid, 2a llefarasant, gan ddywedyd Wrtho, Dywaid wrthym trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn; neu pwy yw’r hwn a roddodd i Ti yr awdurdod hon? 3A chan atteb, dywedodd wrthynt, Gofyn i chwithau air a wnaf Finnau hefyd, 4a dywedwch Wrthyf, Bedydd Ioan, ai o’r nef yr ydoedd, neu o ddynion? 5A hwy a ymresymmasant â’u gilydd gan ddywedyd, Os dywedwn, “O’r nef,” dywaid Efe, Paham na chredasoch ef; 6ond os dywedwn “O ddynion,” y bobl oll a’n llabyddiant, canys perswadiwyd hwynt yr oedd Ioan yn brophwyd. 7Ac attebasant, Na wyddent o ba le. 8A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid wyf Finnau chwaith yn dywedyd wrthych, “trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.”
9A dechreuodd ddywedyd wrth y bobl y ddammeg hon, Dyn a blannodd winllan, a gosododd hi i lafurwyr, a bu mewn gwlad ddieithr am amser maith. 10Ac yn yr amser, danfonodd at y llafurwyr was fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan; a’r llafurwyr wedi ei guro, a’i danfonasant ef ymaith yn wag-law. 11A chwanegodd anfon gwas arall; a hwy, wedi curo hwn hefyd ac ei ammharchu, a’i danfonasant ymaith yn wag-law. 12A chwanegodd anfon y trydydd; a hwy wedi ei glwyfo ef, a fwriasant hwn hefyd allan. 13A dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Danfonaf fy mab anwyl; hwyrach mai hwn a barchant. 14A phan welsant ef, y llafurwyr a ymresymmasant â’u gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw’r etifedd; lladdwn ef, fel y caffom ni yr etifeddiaeth. 15Ac wedi ei fwrw ef allan o’r winllan, lladdasant ef. Pa beth, gan hyny, a wna arglwydd y winllan iddynt? 16Daw a difetha y llafurwyr hyn, a rhydd y winllan i eraill. Ac wedi clywed o honynt, dywedasant, Na fydded. 17Ac Efe, gan edrych arnynt, a ddywedodd, Pa beth, gan hyny, yw hyn a ysgrifenwyd,
“Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,
Hwn a aeth yn ben i’r gongl.”
18Pob un a syrthio ar y maen hwnw a ddryllir yn ddarnau; ac ar bwy bynnag y syrthio, chwal ef.
A cheisiodd yr ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid roddi eu dwylaw Arno yn yr un awr; 19ac ofnasant y bobl; canys gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddammeg hon: 20ac wedi gwylied, danfonasant gynllwynwyr yn cymmeryd arnynt eu bod yn gyfiawnion, fel y cymmerent afael yn Ei ymadrodd, i’w draddodi Ef i lywodraeth ac awdurdod y rhaglaw; 21a gofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, gwyddom mai uniawn y dywedi ac y dysgi, ac na dderbyni wyneb, eithr mewn gwirionedd y dysgi ffordd Duw. 22Ai cyfreithlawn rhoddi o honom deyrnged i Cesar, ai nad yw? 23A chan ddeall eu cyfrwysdra hwy, dywedodd wrthynt, Dangoswch i Mi ddenar. 24Delw ac argraph pwy sydd ganddi? A hwy a ddywedasant, Yr eiddo Cesar. 25Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Gan hyny, telwch bethau Cesar i Cesar, a phethau Duw i Dduw. 26Ac ni allasant gael gafael yn Ei ymadrodd, ger bron y bobl; a chan ryfeddu wrth Ei atteb tawsant.
27Ac wedi dyfod Atto, rhai o’r Tsadwceaid, y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad, 28a ofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, Mosheh a ysgrifenodd i ni, Os bydd brawd rhyw un wedi marw, a chanddo wraig, ac yntau yn ddiblant, ar gymmeryd o’i frawd ef y wraig, a chodi had i’w frawd. 29Saith brawd, ynte, oedd; ac y cyntaf, wedi cymmeryd gwraig, 30a fu farw yn ddiblant, ac yr ail, a’r trydydd a’i cymmerodd hi; 31ac yr un ffunud y saith ni adawsant blant, ac a fuant feirw. 32Ac ar ol hyny y bu farw y wraig hefyd. 33Yn yr adgyfodiad, gan hyny, i ba un o honynt y bydd hi yn wraig, canys y saith a’i cawsant hi yn wraig? 34Ac wrthynt y dywedodd yr Iesu, Meibion y byd hwn a briodant ac a roddir i’w priodi; 35ond y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael y byd hwnw a’r adgyfodiad o feirw, nid ydynt nac yn priodi nac eu rhoddi i’w priodi; 36canys hyd yn oed marw mwy nis gallant, canys cyd-stad â’r angylion ydynt, a meibion Duw ydynt, gan fod yn feibion yr adgyfodiad. 37Ond y cyfodir y meirw, Mosheh hefyd a hyspysodd yn “Y Berth,” pan eilw Iehofah “Duw Abraham, a Duw Itsaac, a Duw Iacob;” 38a Duw, nid Duw meirwon yw, eithr y rhai byw, canys pawb o honom, Ynddo Ef yr ydym yn byw. 39A chan atteb, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant, Athraw, da y dywedaist; 40canys ni feiddient mwy ofyn dim Iddo.
41A dywedodd wrthynt, Pa fodd y dywedant fod y Crist yn Fab Dafydd? 42canys Dafydd ei hun a ddywaid yn Llyfr y Psalmau,
“Dywedodd Iehofah wrth fy Arglwydd, Eistedd ar Fy neheulaw,
43Hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i’th draed,”
44Dafydd, gan hyny, “Arglwydd” a eilw efe Ef, a pha fodd mai mab iddo yw?
45Ac wrth glywed o’r holl bobl, dywedodd wrth Ei ddisgyblion, 46Cymmerwch ofal rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn gwisgoedd llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’r prif-gadeiriau yn y sunagogau, 47a’r prif led-orweddleoedd yn y swpperau, y rhai a lwyr-fwyttant dai y gwragedd gweddwon, ac er rhith y hir-weddïant. Y rhai hyn a dderbyniant gondemniad gorlawnach.
Dewis Presennol:
S. Luc 20: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.