Cymmerwch ofal rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn gwisgoedd llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’r prif-gadeiriau yn y sunagogau, a’r prif led-orweddleoedd yn y swpperau, y rhai a lwyr-fwyttant dai y gwragedd gweddwon, ac er rhith y hir-weddïant. Y rhai hyn a dderbyniant gondemniad gorlawnach.