Iöb 38
38
XXXVIII.
1Yna yr attebodd Iehofah i Iöb allan o’r corwŷnt, a dywedodd,
2Pwy (yw) hwn sy’n tywyllu cynghor
Ag ymadroddion heb wybodaeth?
3Gwregysa, yn awr, dy lwynau fel gwr,
A gofynaf i ti, a gwna dithau i Mi wybod.
4Pa le’r oeddit ti pan sylfaenais I y ddaear?
Mynega os medri ar ddeall:
5Pwy a osododd ei mesurau hi, fel y gwypit,
Neu pwy a estynodd arni y llinyn,
6Ar ba beth y soddwyd ei seiliau hi,
# 38:6 gosodid sylfeini tan ganu a llawenychu. Gwel Zech. 4:7. Ezr. 3:10. Neu pwy a osododd ei chonglfaen
7Pan lawen-ganai ynghŷd ser y bore,
# 38:7 yr angylion A gorfoleddu o holl feibion Duw;
8Ac a argaeodd ar y môr â dorrau,
Pan yn rhuthro allan, o’r #38:8 sef, oberfedd y ddaear fel gwisgo baban.grôth y daeth efe,
9Pan osodais gwmmwl yn wisg iddo
A’r niwl tew yn gaw iddo,
10Ac y pennodais iddo Fy nherfyn,
# 38:10 fel ar dŷ. Ac y gosodais drosol a dorrau,
11Ac y dywedais “Hyd yma y deui ac ni chwanegi,
Ac yma y gosodir #38:11 y terfynef ar falchder dy donnau?”
12Er#38:12 Gan nad oedd Iöb wedi ei eni pan wneuthid y pethau rhagddywededig. dy ddyddiau di, a orchymynaist ti y bore,
A hyspysaist ti i’r wawr-ddydd ei lle,
13Ar iddi #38:13 megis wrth ysgwyd llïain.ymaflyd ar odrëon y ddaear,
Ac ysgwyd o’r #38:13 gyda ’r dydd y llechant hwy. 24:13-17.drwg weithredwŷr allan o honi;
14(Yna) yr #38:14 newidir y golwg ar y ddarar.yinnewidia hon fel clai ’r sêl,
Ac yr ymorsafant #38:14 y bore a’r wawr ddydd.hwy fel gwisg,
15Ac y dygir ymaith oddi wrth ddrwg weithredwŷr eu #38:15 y nos ag sydd ffafriol iddynt.goleuni,
# 38:15 attelir niweid llofruddwŷr &c. A’r fraich wedi ei chodi a chwilfriwir?
16A ddaethost ti i eigion y môr,
Ac yn nirgelfaoedd y dyfnder a rodiaist ti?
17A agorwyd i ti byrth annwn,
A phyrth cysgod angeuaidd, a welaist ti (hwynt)?
18A wyt ti yn ardremu ar led y ddaear?
Hyspysa, os adnabyddi hi i gyd.
19Pa un (yw) ’r ffordd y trig y goleuni,
A’r tywyllwch, pa un (yw) ei le ef,
20Fel y cymmerit hwynt (bob un) hyd ei derfyn,
Ac fel y deallit y llwybrau i’w dŷ ef?
21 # 38:21 sef, pan y gwneuthid y ddau. Gwybod yr wyt ti! canys yr amser hwnnw y’th anwyd di,
A nifer dy ddyddiau (sydd) fawr!
22 # 38:22 =lle y cedwir yr eira A ddaethost ti at drysorau ’r eira,
A thrysorau ’r cenllysg, a welaist ti (hwynt),
23 # 38:23 pan fydd Efe am gospi ’r ddaear. Y rhai yr wyf yn eu cadw hyd amser cyfyngder,
Hyd ddydd ymladd a rhyfel?
24Pa un (yw) ’r ffordd yr ymranna y goleuni,
Yr ymwasgar y dwyreinwỳnt ar y ddaear?
25Pwy a rannodd #38:25 fel y disgynnentawellau i’r llifeir-wlaw,
A ffordd i fellt y taranau,
26I wlawio ar dir heb ddyn,
(Ar) yr anialwch heb ddaearolyn ynddo,
27I orddigoni ’r (tir) diffaeth a diffaethedig,
Fel y #38:27 sef, y llifeirwlaw.paro i dardd-le ’r glaswellt fwrw egin?
28A oes gan y gwlaw dad,
Neu, pwy a genhedlodd ddefnynnau ’r gwlith?
29O grôth pwy y daeth yr iâ allan;
A llwydrew y nefoedd, pwy a’i cenhedlodd?
30 # 38:30 yn amser yr iâ. Yn debyg i garreg, y dyfroedd a ymguddiant,
A gwyneb y dyfroedd a lyna ynghŷd.
31 # 38:31 gwneuthur iddynt fod yn gydser. A rwymaist di gadwynau ’r Pleiades;
Neu rwymau Orion, a #38:31 fel na bônt yn gydaer.ddattodi di (hwynt)?
32A ddygi di allan y Deuddeg Arwydd (bob un) yn ei amser?
A’r Arth a’i #38:32 y tair seren ynghynffon yr Arth.feibion, a dywysi di hwynt?
33A adwaenost ti ordeiniadau ’r nefoedd,
A #38:33 sef, am fellt, ystormydd, gwres &c.bennodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear?
34A ddyrchefi di dy lef at y cwmmwl
Am i helaethrwydd o ddyfroedd dy orchuddio?
35A ddanfoni di allan fellt, fel yr elont,
Ac y dywedont wrthyt “Wele ni?”
36 # 38:36 fel na ddeuont ar ddamwain Pwy a osododd yn y du gymmyliad ddoethineb,
Neu, pwy a roes i’r goruchion ddeall?
37Pwy a gyfrif y cymmylau trwy ddoethineb,
A chostrelau ’r nefoedd, pwy a’u gwaghâ,
38Pan y #38:38 fel mettel toddedig.ffrydia ’r llwch yn ffrwd,
A’r priddellau a #38:38 ar ol ymagor o honynt tan ddylanwad y gwres.lynant ynghŷd?
39A heli di i’r llew ysglyfaeth;
A chwant cenawon y llew, a lenwi di ef,
40Pan ymgrymmant mewn ffeuau
(Ac) eistedd mewn prysglwyni i gynllwyn?
41Pwy a ddarpar i’r gigfran ei bwyd,
Pan fo ei chywion yn llefain ar Dduw
(A) hwythau yn gwibio heb fwyd?
Dewis Presennol:
Iöb 38: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.