Iöb 37
37
XXXVII.
1Yn ddïau o herwydd #37:1 y taranauhyn y cryn fy nghalon,
Ac y dychlamma hi o’i lle.
2Gwrandêwch gan wrando ar dwrdd Ei lais Ef
Ac ar y treigldrwst sy’n dyfod allan o’i enau!
3Tan yr holl nefoedd y gollwng Efe #37:3 llais y taranauef allan,
Ac Ei dân hyd odrëon y ddaear,
4Ac ar ol hynny y rhua Ei lais Ef,
Y taranna Efe â llais Ei ardderchowgrwydd,
Ac nid ettyl Efe #37:4 y mellthwynt pan glywir Ei lais:
5Taranu y mae Duw â i lais yn rhyfeddol,
Yr Hwn sy’n gwneuthur pethau mawrion hyd na wyddom ni;
6Canys wrth yr eira y dywaid Efe “Syrth ar y ddaear,”
Ac wrth y gawod o wlaw,
Ac wrth gawodydd o wlaw Ei nerth Ef:
7 # 37:7 y gauaf yn attal pob gwaith. Llaw pob daearolyn a selia Efe
I beri gwybodaeth (o Hono) i holl ddynion Ei greadigaeth;
8Yna yr â ’r bwystfil i’w loches,
Ac yn ei drigfa y gorwedd efe;
9Allan o’i ystafell y daw y corwŷnt,
# 37:9 y gogleddwyntoedd yn gwasgaru ’r gwlaw &c. Ac allan o’r (gwyntoedd) gwasgarog oerni;
10Trwy anadliad Duw y rhydd Efe iâ,
Ac ehangder y #37:10 rhwymir hwy fel na allont redeg. dyfroedd mewn cyfyngder;
11Hefyd â gwlybaniaeth y llwytha Efe ’r cwmmwl,
# 37:11 g: llawn o fellt Efe a wasgar gwmmwl Ei dân,
12A hwnnw yn ymdroi oddi amgylch
Yn ol Ei arweiniad Ef, er mwyn gwneuthur o honynt
Yr oll a orchymyno Efe iddynt,
Ar byd wyneb tir y ddaear,
13Pa un bynnag ai am wialen, — os (felly y bo) i’w ddaear Ef, —
Ai am radlondra, y pair Efe iddo ddyfod.
14Clust-ymwrando ar hyn, O Iöb,
Saf yn llonydd ac ystyria ryfeddodau Duw;
15A wyddost ti, pa bryd y meddylia Duw #37:15 sef, am iddynt ddyfodam danynt,
Ac y pair Efe i dan Ei gwmmwl ddisgleirio?
16A wyt ti yn deall mantoliadau ’r cwmmwl,
Rhyfedd weithredoedd y Perffaith mewn gwybodaeth?
17 # 37:17 sef â gwynt cynnes y dehau (Ti) yr hwn y mae dy ddillad yn gynnes
Pan dawelo Efe ’r ddaear o’r dehau!
18A daenaist ti gydag Ef yr wybren
Yn ymlynawl fel #37:18 o fettel y gwneid hwy. Exod. 38:8.drych toddedig?
19Hyspysa #37:19 os rhaid ymryson â’r fath Uni ni pa beth a ddywedwn wrtho Ef;
Nid ŷm yn trefnu (geiriau), o herwydd #37:19 ein hanwybodaethtywyllwch.
20A fynegir iddo Ef fy mod i yn llefaru?
Pe dywedai dyn, yn ddïau fe ei difethid!
21Ac yn awr, nid edrych ar oleuni (’r haul) a fedr (dyn).
(Pan) y bo efe yn disgleirio yn yr wybren,
A’r gwŷnt yn myned heibio ac yn ei phuro hi!
22 # 37:22 geill dyn gyrhaedd hyd yno Allan o’r gogledd yr aur a ddaw,
(Ond) am Dduw (y mae) ardderchowgrwydd ofnadwy:
23Yr Hollalluog, ni allwn gael hyd Iddo,
Y Dyrchafedig mewn nerth, a barn,
Ac amlder cyfiawnder, — nid ettyb Efe:
24Am hynny yr ofna dynion Ef,
Nid edrych Efe ar yr holl rai doeth eu calon.
Dewis Presennol:
Iöb 37: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.