S. Ioan 21
21
1Gwedi’r pethau hyn, amlygodd yr Iesu Ei hun drachefn i’r disgyblion ar fôr Tiberias; ac amlygodd Ei hun fel hyn. 2Yr oedd ynghyd Shimon Petr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a Nathanael o Cana yn Galilea, a meibion Zebedëus, 3a dau eraill o’i ddisgyblion: wrthynt y dywedodd Shimon Petr, Af i bysgotta. Dywedasant wrtho, Deuwn ninnau hefyd gyda thi. Aethant allan, ac aethant i’r cwch; ac y nos honno ni ddaliasant ddim. 4A’r bore weithian wedi dyfod, safodd yr Iesu ar y traeth; er hyny ni wyddai’r disgyblion mai’r Iesu ydoedd. 5Yna wrthynt y dywedodd yr Iesu, O blant, a oes rhywbeth i’w fwytta genych? Attebasant Iddo, Nac oes. Ac Efe a ddywedodd wrthynt, 6Bwriwch y rhwyd i’r tu dehau i’r cwch, a chewch. Bwriasant, gan hyny, ac ei thynu ni allent bellach, gan liaws y pysgod. Gan hyny dywedodd y disgybl hwnw yr hwn oedd hoff gan yr Iesu, 7wrth Petr, Yr Arglwydd yw. Shimon Petr, gan hyny, wedi clywed mai yr Arglwydd yw, a ymwregysodd a’i amwisg, (canys yr oedd efe wedi ymddiosg), 8a bwriodd ei hun i’r môr: ond y disgyblion eraill, yn y cwch y daethant (canys nid oeddynt bell oddiwrth y tir, eithr oddeutu dau can cufudd) dan lusgo y rhwyd lawn o bysgod. 9Yna, pan ddaethant allan i’r tir, gwelsant dân o farwor yn gorwedd, a physgodyn yn gorwedd arno, a bara. 10Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Deuwch â rhai o’r pysgod a ddaliasoch yr awr hon. 11Gan hyny, esgynodd Shimon Petr, a llusgodd y rhwyd i dir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thriarddeg a deugain; ac er mai cymmaint oeddynt, ni rwygwyd y rhwyd. 12Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Deuwch ciniawwch. Ac ni feiddiai neb o’r disgyblion ofyn Iddo, Pwy wyt Ti? gan wybod mai yr Arglwydd ydoedd. 13Daeth yr Iesu, a chymmerodd fara, ac ei rhoddes iddynt, a’r pysgod yr un modd. 14A hon, weithian, y drydedd waith yr amlygwyd yr Iesu i’r disgyblion, ar ol Ei gyfodi o feirw.
15Gan hyny, wedi ciniawa o honynt wrth Shimon Petr y dywedodd yr Iesu, Shimon mab Iona, ai hoff genyt Fi yn fwy na’r rhai hyn? Dywedodd yntau Wrtho, Y mae, Arglwydd: Tydi a wyddost mai Dy garu yr wyf. Dywedodd Efe wrtho, Portha Fy ŵyn. 16Dywedodd wrtho drachefn, yr ail waith, Shimon mab Iona, Ai hoff genyt Fi? Dywedodd yntau Wrtho, Y mae, Arglwydd; Tydi a wyddost mai Dy garu yr wyf. Dywedodd Efe wrtho, Bugeilia Fy nefaid. 17Dywedodd wrtho y drydedd waith, Shimon mab Iona, Ai Fy ngharu yr wyt? Poenwyd Petr am ddywedyd o Hono wrtho y drydedd waith, Ai Fy ngharu yr wyt? a dywedodd Wrtho, Arglwydd, pob peth Tydi a wyddost; Tydi a genfyddi mai Dy garu yr wyf. 18Wrtho y dywedodd yr Iesu, Portha Fy nefaid. Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Pan oeddit ieuangc, ymwregysit dy hun, a rhodio yr oeddit lle yr ewyllysit; ond pan eloch yn hen, estyni allan dy ddwylaw, ac arall a’th wregysa, ac a’th ddwg lle nid ewyllysi. 19A hyn a ddywedodd Efe gan arwyddo trwy ba fath ar angau y gogoneddai efe Dduw: ac wedi dywedyd hyn, dywedodd wrtho, Canlyn Fi. 20Wedi troi o hono, Petr a welodd y disgybl oedd hoff gan yr Iesu yn canlyn, yr hwn hefyd a bwysodd, ar y swpper, ar Ei ddwyfron, ac a ddywedodd, Arglwydd, pwy yw yr hwn sydd yn Dy draddodi? 21Gan hyny, wrth weled hwn, Petr a ddywedodd wrth yr Iesu, A hwn, pa beth fydd? 22Wrtho y dywedodd yr Iesu, Os ewyllysiaf iddo ef aros hyd oni ddelwyf, pa beth yw i ti? 23Tydi, canlyn Fi. Gan hyny, allan yr aeth y gair hwn ymhlith y brodyr na fyddai y disgybl hwnw farw: ond wrtho ni ddywedasai’r Iesu, Ni fydd marw, eithr Os ewyllysiaf iddo ef aros hyd oni ddelwyf, pa beth yw i ti?
24Hwn yw’r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ’sgrifenodd y pethau hyn; a gwyddom mai gwir yw ei dystiolaeth.
25Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifenid pob un o honynt, tybiaf na wnai hyd yn oed yr holl fyd gynhwys y llyfrau a ’sgrifenid.
Dewis Presennol:
S. Ioan 21: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.