S. Ioan 20
20
1Ac y dydd cyntaf o’r wythnos Mair Magdalen a ddaeth y bore, a hi etto yn dywyll, at y bedd; a gwelodd y maen wedi ei ddwyn ymaith oddiwrth y bedd. 2Rhedodd, gan hyny, a daeth at Shimon Petr, ac at y disgybl arall yr hwn oedd hoff gan yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Dygasant yr Arglwydd o’r bedd, ac nis gwyddom pa le y dodasant Ef. 3Gan hyny, allan yr aeth Petr a’r disgybl arall, a daethant at y bedd: 4a rhedasant ill dau ar unwaith; ac y disgybl arall a rag-redodd yn gynt na Petr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd; 5ac wedi ymgrymmu, gwelodd y llieiniau yn gorwedd, ond nid aeth i mewn. 6Yna y daeth Shimon Petr yn ei ganlyn ef, ac yr aeth i mewn i’r bedd, a chanfu y llieiniau yn gorwedd, 7a’r napcyn a fuasai am Ei ben, nid yn gorwedd gyda’r llieiniau, eithr wedi ei blygu yn rhyw le ar wahan. 8Yna, gan hyny, yr aeth y disgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethai yn gyntaf at y bedd, a gwelodd, a chredodd; 9canys ni wyddent etto yr ysgrythyr fod rhaid Ei gyfodi o feirw. 10Gan hyny yr aeth y disgyblion ymaith drachefn i’w cartref.
11A Mair a safai wrth y bedd, oddi allan, yn gwylo; ac wrth wylo o honi ymgrymmodd i’r bedd; 12a chanfu ddau angel, mewn gwisgoedd gwynion, yn eistedd, un wrth y pen ac un wrth y traed o’r lle y gorweddodd corph yr Iesu; 13ac wrthi y dywedasant hwy, O wraig, paham y gwyli? Dywedodd wrthynt, Am ddwyn o honynt fy Arglwydd ymaith, ac na wn pa le y dodasant Ef. 14Wedi dywedyd hyn y trodd hi drach ei chefn, a chanfu yr Iesu yn sefyll; ac ni wyddai mai’r Iesu ydoedd. 15Wrthi y dywedodd yr Iesu, O wraig, paham y gwyli? Pwy a geisi? Hithau yn tybied mai y garddwr ydoedd, a ddywedodd Wrtho, Syr, os tydi a’i cymmeraist Ef, dywaid wrthyf pa le y dodaist Ef, ac myfi a’i dygaf Ef ymaith. 16Wrthi y dywedodd yr Iesu, Mair. Wedi troi o honi, hi a ddywedodd Wrtho, yn Hebraeg, Rabboni, yr hyn yw dywedyd, Athraw. 17Wrthi y dywedodd yr Iesu, Na chyffwrdd â Myfi, canys nid esgynais etto at y Tad; ond dos at Fy mrodyr, a dywaid wrthynt, Esgyn yr wyf at Fy Nhad a’ch Tad chwi, a’m Duw a’ch Duw chwi. 18Daeth Mair Magdalen gan fynegi i’r disgyblion, Gwelais yr Arglwydd, ac mai’r pethau hyn a ddywedasai Efe wrthi.
19Yna pan oedd yr hwyr y dydd hwnw, y cyntaf o’r wythnos, a’r drysau yn gauad lle yr oedd y disgyblion, rhag ofn yr Iwddewon, daeth yr Iesu, a safodd yn y canol, a dywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi. 20Ac wedi dywedyd hyn, dangosodd iddynt Ei ddwylaw ac Ei ystlys. Gan hyny y llawenychodd y disgyblion wrth weled yr Arglwydd. 21Gan hyny, wrthynt y dywedodd yr Iesu drachefn, Tangnefedd i chwi. Fel y danfonodd y Tad Fi, Myfi hefyd wyf yn eich gyrru chwi. 22Ac wedi dywedyd hyn, anadlodd arnynt, a dywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Yspryd Glân. 23Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir hwy iddynt; a’r eiddo pwy bynnag a attalioch, attaliwyd hwynt.
24A Thomas, un o’r deuddeg, yr hwn a elwir Didymus, nid oedd gyda hwynt pan ddaeth yr Iesu. 25Gan hyny, wrtho y dywedodd y disgyblion eraill, Gwelsom yr Arglwydd. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni welaf yn Ei ddwylaw ol yr hoelion, a dodi o honof fy mys yn ol yr hoelion, a dodi o honof fy llaw yn Ei ystlys, ni chredaf ddim.
26Ac wedi wyth niwrnod, drachefn yr oedd Ei ddisgyblion i mewn, a Thomas gyda hwynt. Daeth yr Iesu, a’r drysau yn gauad, a safodd yn y canol, a dywedodd, Tangnefedd i chwi. 27Yna y dywedodd wrth Thomas, Moes dy fys yma, a gwel Fy nwylaw; a moes dy law, a dod yn Fy ystlys; ac na fydd anghredadyn, eithr yn gredadyn. 28Attebodd Thomas a dywedodd Wrtho, Fy Arglwydd ac fy Nuw. 29Wrtho y dywedodd yr Iesu, Am i ti Fy ngweled y credaist; gwyn eu byd y rhai na welsant, ac a gredasant.
30Llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yngwydd y disgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y llyfr hwn; 31ac y pethau hyn a ysgrifenwyd fel y credoch mai yr Iesu yw y Crist, Mab Duw; a chan gredu y caffoch fywyd yn Ei enw Ef.
Dewis Presennol:
S. Ioan 20: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.