Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Ioan 18

18
1Gwedi dywedyd y pethau hyn, yr Iesu a aeth allan ynghyda’i ddisgyblion, dros afon Cedron, lle yr oedd gardd i’r hon yr aeth i mewn, Efe a’i ddisgyblion. 2Ac adwaenai Iwdas hefyd, yr hwn oedd yn Ei draddodi Ef, y lle, canys mynych y cyrchasai yr Iesu yno ynghyda’i ddisgyblion. 3Iwdas, gan hyny, wedi cael y fyddin, a chan yr archoffeiriaid a’r Pharisheaid weinidogion, a ddaeth yno â lanternau a llusernau ac arfau. 4Yr Iesu, gan hyny, yn gwybod yr holl bethau oedd yn dyfod Arno, a aeth allan, a dywedodd wrthynt, Pwy a geisiwch? 5Attebasant Iddo, Iesu y Natsaread. Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Myfi yw. A safai Iwdas, yr hwn oedd yn ei draddodi Ef, gyda hwynt. 6Pan, gan hyny, y dywedodd Efe wrthynt, Myfi yw, aethant ymaith yn wysg eu cefnau, a syrthiasant i lawr. 7Trachefn, gan hyny, iddynt y gofynodd, Pwy a geisiwch? A hwy a ddywedasant, Iesu y Natsaread. 8Attebodd yr Iesu, Dywedais wrthych mai Myfi yw; os, gan hyny, Myfi a geisiwch, gadewch i’r rhai hyn fyned ymaith; 9fel y cyflawnid y gair a ddywedasai Efe, “O’r rhai a roddaist i Mi, ni chollais un o honynt.” 10Shimon Petr, gan hyny, a chanddo gleddyf, a’i tynnodd ef, a tharawodd was yr archoffeiriad, a thorrodd ymaith ei glust ddehau ef; ac enw y gwas oedd Malchus. 11Dywedodd yr Iesu, gan hyny, wrth Petr, Dod dy gleddyf yn y wain. Y cwppan a roddes y Tad i Mi, onid yfaf ef?
12Y fyddin, gan hyny, a’r milwriad, a gweinidogion yr Iwddewon, 13a ddaliasant yr Iesu, a rhwymasant Ef, a dygasant Ef at Chanan yn gyntaf, canys yr oedd efe yn chwegrwn i Caiaphas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno. 14A Caiaphas oedd yr hwn a gynghorasai i’r Iwddewon mai buddiol oedd marw o un dyn dros y bobl.
15A chanlyn yr Iesu yr oedd Shimon Petr a disgybl arall. A’r disgybl hwnw oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, 16ac aeth i mewn gyda’r Iesu i lys yr archoffeiriad; ond Petr a safodd wrth y drws, allan. Gan hyny yr aeth y disgybl arall allan, yr hwn oedd adnabyddus gan yr archoffeiriad, a llefarodd wrth y ddrysores, a daeth a Petr i mewn. 17Dywedodd y llangces, gan hyny, y ddrysores, wrth Petr, Onid wyt tithau o ddisgyblion y dyn hwn? Dywedodd efe, Nac wyf. 18A sefyll yr oedd y gweision a’r gweinidogion, wedi gwneuthur tân glo, canys oer ydoedd hi, ac ymdwymnent; ac yr oedd Petr hefyd gyda hwynt yn sefyll ac yn ymdwymno.
19Yr archoffeiriad, gan hyny, a ofynodd i’r Iesu ynghylch Ei ddisgyblion ac ynghylch ei ddysgad. 20Atteb iddo a wnaeth yr Iesu, Myfi a leferais yn amlwg wrth y byd; Myfi a ddysgais bob amser yn y sunagog ac yn y deml, lle y mae’r holl Iwddewon yn dyfod ynghyd, ac yn y dirgel ni leferais ddim. 21Paham mai i Mi y gofyni? Gofyn i’r rhai a glywsant, pa beth a leferais wrthynt. Wele, y rhai hyn a wyddant pa bethau a ddywedais I. 22Ac Efe wedi dywedyd y pethau hyn, un o’r gweinidogion a oedd yn sefyll ger llaw, a roddes gernod i’r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr attebi yr archoffeiriad? 23Atteb iddo a wnaeth yr Iesu, Os yn ddrwg y lleferais, tystiolaetha am y drwg; ond os yn dda, paham y tarewi Fi? 24Ei ddanfon Ef ymaith, gan hyny, a wnaeth Chanan, yn rhwym, at Caiaphas yr archoffeiriad.
25Ac yr oedd Shimon Petr yn sefyll ac yn ymdwymno. Dywedasant, gan hyny, wrtho, Tithau hefyd, onid o’i ddisgyblion Ef yr wyt? Gwadodd efe, a dywedodd, Nac wyf. 26Dywedodd un o weision yr archoffeiriad, ac yntau yn gâr i’r hwn y torrasai Petr ei glust, Oni fu i mi dy weled yn yr ardd gydag Ef? 27Trachefn, gan hyny, y gwadodd Petr, ac yn uniawn ceiliog a ganodd.
28Dygasant, gan hyny, yr Iesu oddiwrth Caiaphas i’r llys, a’r bore ydoedd; a hwy nid aethant i mewn i’r llys, rhag eu halogi, eithr fel y bwyttaent y Pasg. 29Gan hyny yr aeth Pilat allan attynt, a dywedodd, Pa gyhuddiad a ddygwch yn erbyn y dyn hwn? 30Attebasant, a dywedasant wrtho, Oni bai fod Hwn yn ddrwg-weithredwr, ni thraddodasem Ef i ti. 31Dywedyd, gan hyny, wrthynt a wnaeth Pilat, Cymmerwch chwi Ef, ac yn ol eich Cyfraith bernwch Ef. Dywedyd wrtho a wnaeth yr Iwddewon, I nyni nid cyfreithlawn yw lladd neb. 32Fel y byddai i air yr Iesu ei gyflawni, yr hwn a ddywedasai Efe, gan arwyddoccau o ba fath ar angau yr oedd Efe ar fedr marw.
33Gan hyny, myned i mewn trachefn i’r llys a wnaeth Pilat, a galwodd yr Iesu, a dywedodd Wrtho, Ai Tydi yw Brenhin yr Iwddewon? 34Attebodd yr Iesu, Ai o honot dy hun yr wyt ti yn dywedyd hyn, ai eraill a ddywedasant wrthyt am Danaf? 35Attebodd Pilat, A ydwyf fi yn Iwddew? Dy genedl a’r archoffeiriaid a’th draddodasant i mi. 36Pa beth a wnaethost? Attebodd yr Iesu, Fy nheyrnas I nid yw o’r byd hwn. Ped o’r byd hwn y buasai Fy nheyrnas I, Fy ngweinidogion I a ymdrechasent fel na’m traddodid i’r Iwddewon: ond yn awr Fy nheyrnas I nid yw oddiyma. 37Dywedyd Wrtho, gan hyny, a wnaeth Pilat, Ai brenhin, ynte, wyt Ti? Attebodd yr Iesu, Ti a ddywedi mai brenhin wyf Fi. Myfi a’m ganed er mwyn hyn, ac er mwyn hyn y daethum i’r byd, fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd. Pob un y sydd o’r gwirionedd a wrendy Fy llais. 38Dywedyd Wrtho a wnaeth Pilat, Pa beth yw gwirionedd?
Ac wedi dywedyd hyn yr aeth efe allan trachefn at yr Iwddewon, a dywedodd wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim bai ynddo. 39Ond y mae defod genych, i mi ollwng un yn rhydd i chwi ar y Pasg. A fynwch chwi, gan hyny, i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenhin yr Iwddewon? 40Bloeddiasant, gan hyny, drachefn, gan ddywedyd, Nid Hwn, ond Barabbas. Ac yr oedd Barabbas yn lleidr.

Dewis Presennol:

S. Ioan 18: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda