Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Ioan 17

17
1Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu; ac wedi codi ei lygaid i’r nef, dywedodd, Y Tad, daeth yr awr; gogonedda Dy Fab Di, fel y bo i’r Mab Dy ogoneddu Di. 2Fel y rhoddaist Iddo awdurdod ar bob cnawd, fel i’r cwbl a roddaist Iddo, y rhoddai iddynt fywyd tragywyddol. 3A hwn yw’r bywyd tragywyddol, sef adnabod o honynt Dydi yr unig wir Dduw, ac yr hwn a ddanfonaist, Iesu Grist. 4Myfi a’th ogoneddais Di ar y ddaear, gan gwblhau y gwaith a roddaist i Mi i’w wneuthur. 5Ac yr awr hon gogonedda Di Fyfi, O Dad, gyda Thi Dy hun, â’r gogoniant oedd Genyf, cyn nad oedd y byd, gyda Thi. 6Eglurais Dy enw Di i’r dynion a roddaist i Mi allan o’r byd; eiddot Ti oeddynt, ac i Mi y rhoddaist hwynt; a’th air a gadwasant. 7Yn awr y gwyddant am yr holl bethau, cynnifer ag a roddaist i Mi, mai oddi Wrthyt Ti y maent; 8canys yr ymadroddion a roddaist i Mi, a roddais iddynt, a hwy a’u derbyniasant, a chredasant mai Tydi a’m danfonaist I. 9Myfi a ofynaf drostynt hwy: nid tros y byd y gofynaf, eithr tros y rhai a roddaist i Mi, canys eiddot Ti ydynt. 10A’r eiddof Fi oll, eiddot Ti yw, a’th eiddot Ti yn eiddof Fi; a gogoneddwyd Fi ynddynt. 11Ac nid wyf mwyach yn y byd; ond y rhai hyn, yn y byd y maent; ac Myfi, Attat Ti yr wyf yn dyfod. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt yn Dy enw yr hwn a roddaist i Mi, fel y byddont yn un, fel Ninnau. 12Tra y bu’m gyda hwynt, Myfi a’u cedwais yn Dy enw yr hwn a roddaist i Mi; a gwarchedwais hwynt; ac nid un o honynt a gollwyd, oddieithr mab y golledigaeth, fel y bo i’r ysgrythyr ei chyflawni. 13Ac yn awr, Attat yr wyf yn dyfod: ac y pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd fel y bo ganddynt Fy llawenydd yn gyflawnedig ynddynt eu hunain. 14Myfi a roddais iddynt Dy air; ac y byd a’u casaodd hwynt gan nad ydynt o’r byd, fel nid wyf Finnau o’r byd. 15Ni ofynaf am gymmeryd o Honot hwynt o’r byd, eithr eu cadw rhag y drwg. 16O’r byd nid ydynt, fel nid wyf Finnau o’r byd. 17Sancteiddia hwynt yn y gwirionedd: Dy air Di, gwirionedd yw. 18Fel y danfonaist Fi i’r byd, Myfi hefyd a’u danfonais hwynt i’r byd. 19Ac er eu mwyn Myfi a sancteiddiaf Fy hun, fel y byddont hwy hefyd wedi eu sancteiddio mewn gwirionedd. 20Ac nid tros y rhai hyn yn unig y gofynaf, eithr tros y rhai hefyd a gredant Ynof trwy eu gair hwynt, 21ar iddynt oll fod yn un; fel yr wyt Ti, O Dad, Ynof Fi, a Myfi Ynot Ti, ar iddynt hwy hefyd fod Ynom, fel y bo i’r byd gredu mai Tydi a’m danfonaist I. 22Ac y gogoniant a roddaist i Mi, Myfi a’i rhoddais iddynt hwy, fel y byddont yn un, fel yr ydym Ninnau yn un: 23Myfi ynddynt hwy, a Thydi Ynof Fi, fel y byddont wedi eu perffeithio yn un, fel y gwypo’r byd mai Tydi a’m danfonaist I, ac y ceraist hwynt fel y ceraist Fyfi. 24O Dad, yr hyn a roddaist i Mi, ewyllysiaf, lle yr wyf Fi, iddynt hwythau hefyd fod ynghyda Mi, fel y gwelont Fy ngogoniant, yr hwn a roddaist i Mi oblegid caru o Honot Fi cyn seiliad y byd. 25Y Tad cyfiawn, y byd ni’th edwyn Di, ond Myfi a’th adwaen Di, ac y rhai hyn a wyddant mai Tydi a’m danfonaist I; 26ac hyspysais iddynt Dy enw, ac a’i hyspysaf, fel y bo i’r cariad, â’r hwn y ceraist Fi, fod ynddynt hwy, a Minnau ynddynt hwy.

Dewis Presennol:

S. Ioan 17: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda