Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Yr Actau 23

23
1A chan edrych yn graff o Paul ar y cynghor, dywedodd, Brodyr, myfi, a phob cydwybod dda y bu’m fyw ger bron Duw hyd y dydd heddyw. 2A’r archoffeiriad Ananias a archodd i’r rhai yn sefyll yn ei ymyl ei daro ef ar ei enau. 3Yna Paul a ddywedodd wrtho ef, Dy daro di a wnaiff Duw, bared wedi ei wyn-galchu! Ac a wyt ti yn eistedd i’m barnu yn ol y Gyfraith, a chan droseddu’r Gyfraith yn gorchymyn fy nharo i? 4A’r rhai yn sefyll yn ei ymyl a ddywedasant, Ai archoffeiriad Duw a ddifenwi? 5A dywedodd Paul, Nis gwyddwn, frodyr, ei fod yn archoffeiriad, canys ysgrifenwyd, “Am bennaeth dy bobl ni ddywedi yn ddrwg.” 6A chan wybod o Paul fod un rhan o’r Tsadwceaid, a’r llall o’r Pharisheaid, gwaeddodd yn y cynghor, Brodyr, myfi, Pharishead wyf, mab i Pharisheaid; am obaith ac adgyfodiad y meirw myfi a’m bernir. 7A phan hyn a ddywedasai efe, cyfododd ymryson rhwng y Pharisheaid a’r Tsadwceaid, a rhannwyd y lliaws; 8canys y Tsadwceaid yn wir a ddywedant nad oes nac adgyfodiad nac angel nac yspryd; ond y Pharisheaid a addefant y ddau. 9A bu gwaedd fawr; ac wedi codi i fynu o rai o’r ysgrifenyddion o ran y Pharisheaid, ymrafaelasant, gan ddywedyd, Nid oes dim drwg a gawn yn y dyn hwn: ac os yspryd a lefarodd wrtho, neu angel —. 10A phan mawr oedd y terfysg, y milwriad, gan ofni tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt, a orchymynodd i’r llu, gan fyned i wared, ei gipio ef o’u plith, ac ei ddwyn ef i’r castell.
11A’r nos ganlynol, gan sefyll gerllaw iddo, yr Arglwydd a ddywedodd, Bydd hyderus, canys fel y tystiolaethaist am Danaf yn Ierwshalem, felly y mae rhaid i ti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.
12A phan aeth hi yn ddydd, gan wneuthur bradwriaeth, yr Iwddewon a rwymasant eu hunain â diofryd gan ddywedyd na fwyttaent nac yfed hyd nes iddynt ladd Paul. 13Ac yr oeddynt yn fwy na deugain a wnaethant y cyngrair hwn; 14y rhai wedi myned at yr archoffeiriaid a’r henuriaid, a ddywedasant, A diofryd y rhwymasom ein hunain nad archwaethwn ddim nes lladd o honom Paul. 15Yn awr, gan hyny, hyspyswch chwi i’r milwriad, ynghyda’r cynghor, am iddo ei ddwyn ef i wared attoch megis ar fedr cael gwybod yn fanylach y pethau yn ei gylch ef; a nyni, cyn nesau o hono, ydym barod i’w ladd ef. 16Ac wedi clywed o fab chwaer Paul y cynllwyn hwn, wedi dyfod a myned i mewn i’r castell, mynegodd i Paul. 17Ac wedi galw o Paul un o’r canwriaid atto, dywedodd, Dwg y gŵr ieuangc hwn at y milwriad, canys y mae ganddo ryw beth i’w fynegi iddo. 18Efe, gan hyny, wedi ei gymmeryd ef, a’i dug at y milwriad, a dywedodd, Y carcharor Paul, wedi fy ngalw atto, a ofynodd i mi ddwyn y gŵr ieuangc hwn attat, yr hwn sydd a chanddo ryw beth i’w ddywedyd wrthyt. 19Ac wedi ei gymmeryd ef erbyn ei law, a chilio o’r neilldu, y milwriad a ofynodd, Pa beth yw’r hyn sydd genyt i’w fynegi i mi? 20A dywedodd efe, Yr Iwddewon a gyttunasant i ofyn genyt y bo i ti yforu ddwyn i wared Paul i’r cynghor, megis ar fedr o honot ymofyn rhyw faint fanylach yn ei gylch ef. 21Ond na chymmer di dy berswadio ganddynt, canys cynllwyn iddo y mae rhai o honynt, mwy na deugeinwr, y rhai a rwymasant eu hunain â diofryd na fwyttaent nac yfed nes ei ladd ef: ac yn awr parod ydynt, yn disgwyl y gorchymyn genyt ti. 22Y milwriad, gan hyny, a ollyngodd ymaith y gŵr ieuangc, wedi gorchymyn iddo beidio a dweud i neb yr hyspysaist y pethau hyn i mi. 23Ac wedi galw atto ryw ddau o’r canwriaid, dywedodd, Parottowch ddau gant o filwyr fel yr elont hyd Cesarea, a deg a thrugain o wŷr meirch, a dau gant o ffyn-wewyr, ar y drydedd awr o’r nos, 24a darparwch ysgrubliaid, fel, wedi gosod Paul arnynt, 25y dygont ef yn ddiogel at Ffelics y rhaglaw; wedi ysgrifenu o hono lythyr a’r dull hwn iddo,
26Claudius Lysias at yr ardderchoccaf raglaw Ffelics, yn danfon annerch. 27Y dyn hwn, wedi ei ddal gan yr Iwddewon, ac ar fedr ei ladd ganddynt, wedi dyfod arnynt â’r llu, a gymmerais oddi arnynt, wedi deall mai Rhufeiniad ydyw. 28A chan chwennych gwybod yr achos o’r hwn y cyhuddent ef, dygais ef wared i’w cynghor. 29A chefais y cyhuddid ef am gwestiynnau o’u Cyfraith, ond heb ddim cyhuddiad yn haeddu angau neu rwymau. 30A phan hyspyswyd i mi gynllwyn i’r gŵr, ar fedr ei wneud, allan o law danfonais ef attat, wedi gorchymyn i’r cyhuddwyr hefyd ddywedyd yn ei erbyn ger dy fron. Bydd iach.
31Y milwyr, gan hyny, yn ol yr hyn a orchymynwyd iddynt, wedi cymmeryd Paul, a’i dygasant, liw nos, i Antipatris; 32a thrannoeth, gan adael y gwŷr meirch i fyned gydag ef, 33dychwelasant i’r castell; a’r rhai hyny, wedi dyfod i Cesarea, a rhoddi’r llythyr i’r rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron. 34Ac wedi darllen y llythyr, a gofyn o ba dalaith yr oedd, ac wedi clywed mai o Cilicia yr ydoedd, 35Gwrandawaf di, ebr efe, pan fo dy gyhuddwyr yn bresennol; wedi gorchymyn mai yn llys Herod y cedwid ef.

Dewis Presennol:

Yr Actau 23: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda