Yr Actau 24
24
1Ac ar ol pum niwrnod, daeth yr archoffeiriad Ananias i wared, ynghyda rhai henuriaid ac areithiwr, rhyw Tertulus, y rhai a hyspysasant i’r rhaglaw yn erbyn Paul. 2A phan alwesid ef, dechreuodd Tertulus ei gyhuddo ef gan ddywedyd,
3Gan mai llawer o heddwch sydd genym trwot ti, a diwygiadau yn cael eu gwneud i’r genedl hon trwy dy rag-welediad di, ymhob modd ac ymhob man y derbyniwn ef, O ardderchoccaf Ffelics, gyda phob diolch. 4Ond fel na flinwyf di rhy hir, deisyfiaf arnat ein gwrando mewn ychydig eiriau, o’th hynawsedd. 5Canys wedi cael y dyn hwn yn bla, ac yn codi terfysgau ymhlith yr holl Iwddewon y sydd trwy’r byd, ac yn bennaeth sect y Natsareaid; 6yr hwn hefyd a geisiodd halogi y deml; yr hwn hefyd a ddaliasom; 8a chan yr hwn y gelli, gan ei holi ef, wybod am yr holl bethau hyn o’r rhai yr ydym ni yn ei gyhuddo ef. 9A chyd-ymosod arno a wnaeth yr Iwddewon, gan ddywedyd fod y pethau hyn felly.
10Ac attebodd Paul, ar ol amneidio o’r rhaglaw iddo i ddywedyd,
Gan wybod mai er’s llawer o flynyddoedd yr wyt ti yn farnwr i’r genedl hon, yn galonog, o ran y pethau mewn perthynas â mi, 11yr amddiffynaf fy hun, a thi yn medru gwybod nad oes mwy na deuddeg niwrnod i mi er pan aethum i fynu i addoli yn Ierwshalem: 12ac nid yn y deml y cawsant fi yn ymddadleu â neb neu yn codi terfysg o’r bobl, nac yn y sunagogau, nac yn y ddinas. 13A phrofi i ti ni allant, y pethau am y rhai y maent yn awr yn fy nghyhuddo. 14Ond cyfaddefaf hyn i ti, mai yn ol y Grefydd yr hon a alwant “sect,” felly yr wyf yn gwasanaethu Duw ein tadau, gan gredu yr holl bethau y sydd yn ol y Gyfraith, ac a ysgrifenwyd yn y Prophwydi; 15a gobaith genyf tuag at Dduw, yr hwn y mae y rhai hyn eu hunain yn ei ddisgwyl, fod adgyfodiad ar fedr bod, o’r cyfiawnion ac o’r anghyfiawnion hefyd. 16Ac yn hyn yr wyf fi fy hun hefyd yn ymdrechu, i fod â chydwybod ddidramgwydd genyf tuag at Dduw a dynion yn wastadol. 17Ac ar ol blynyddoedd lawer, daethum i ddwyn elusen i’m cenedl, ac offrymmau; 18ac ar eu canol y cawsant fi, wedi fy nglanhau, yn y deml, nid gyda thwrf na chyda therfysg. 19Ond rhai Iwddewon o Asia, y rhai a ddylasent fod yn bresennol ger dy fron, a chyhuddo, os oedd ganddynt ddim yn fy erbyn; 20neu bydded i’r rhai hyn eu hunain ddywedyd pa anghyfiawnder a gawsant wrth sefyll o honof ger bron y cynghor, 21arall nag ynghylch yr un llef hon, yr hon a lefais pan yn eu plith y safwn, sef Am adgyfodiad y meirw myfi a fernir heddyw ger eich bron.
22Ond eu hoedi a wnaeth Ffelics, gan wybod yn fanylach y pethau ynghylch y Grefydd, gan ddywedyd, Pan fydd Lusias y milwriad, wedi dyfod i wared, penderfynaf eich matterion; 23wedi archu i’r canwriad iddo gael ei gadw, ac i fod ag ysgafnhad ganddo, ac na rwystrai i neb o’i berthynasau ei wasanaethu ef.
24Ac ar ol rhai dyddiau, wedi dyfod o Ffelics ynghyda Drusilla ei wraig, a hi yn Iwddewes, danfonodd am Paul, 25a chlywodd ef ynghylch y ffydd yng Nghrist Iesu: ac wrth ymresymmu o hono am gyfiawnder a diweirdeb a’r farn ar ddyfod, wedi myned yn ddychrynedig, Ffelics a attebodd, Am yr amser presennol, dos ymaith; ond hamdden a gymmeraf, a galwaf am danat; 26ar yr un pryd yn gobeithio y rhoddid arian iddo gan Paul; o herwydd paham hefyd, yn fynychach y danfonai am dano, ac y chwedleuai ag ef. 27Ond dwy flynedd wedi eu cyflawni, cafodd Ffelics olynydd, Porcius Ffestus; a chan ewyllysio ennill ffafr gyda’r Iwddewon, gadawodd Paul yn rhwym.
Dewis Presennol:
Yr Actau 24: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.